- 6/18
- Ffeil / File
- [2000x2010]
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Copi drafft o sgript y ddrama radio Colli Nabod, a ddarlledwyd ar Radio Cymru.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Copi drafft o sgript y ddrama radio Colli Nabod, a ddarlledwyd ar Radio Cymru.
Drama radio: Y Galwr/Dadlau Rhin
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Dadlau Rhin [?teitl blaenorol Y Galwr], a addaswyd ar gyfer Radio Cymru o'r ddrama lwyfan o'r un enw, gan gynnwys copïau drafft a theg o'r sgript (dan y ddwy deitl), gohebiaeth ebost rhwng Menna Elfyn a chynhyrchydd y darllediad Aled Jones, cerdd mewn llawysgrifen gan Menna Elfyn, a thoriad o'r wasg ynglŷn â'r emynyddes Ann Griffiths.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Copïau drafft a theg o sgriptiau'r ddrama radio Ann, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Ionawr 2005, gan gynnwys un sgript dan ei theitl blaenorol Dwy Chwaer, Un Gân a chyfieithiad o sgript Ann i'r Saesneg.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Copïau drafft o sgript y ddrama radio Dim Byd o Werth.
Rhaglen deledu: Navidad Nuestra/Drama'r Geni
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Copïau drafft a theg o gerddi a gyfieithwyd o'r Sbaeneg i'r Gymraeg gan Menna Elfyn ar gyfer Navidad Nuestra (Drama'r Geni), cynhyrchiad Cwmni Teliesyn ar gyfer S4C.
Drama radio: Hirddydd yw Heddwch
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Hirddydd yw Heddwch, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Tachwedd 2012, gan gynnwys nodiadau a chopïau drafft a theg o'r sgriptiau, un yn dwyn ei theitl blaenorol Bobby Sands Y Ddrama.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â darlithoedd ac anerchiadau a draddodwyd gan Menna Elfyn yng Nghymru, Prydain a thu hwnt mewn gŵyliau, prifysgoliaon, cymdeithasau ac achlysuron eraill ar destunau megis llenyddiaeth, menywod a Chymru a'r iaith Gymraeg, gan gynnwys copïau sgriptiau drafft a theg, nodiadau, gohebiaeth a thorion o'r wasg.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â gweithredoedd ymgyrchol Menna Elfyn fel aelod o Gymdeithas yr Iaith, gan gynnwys adroddiad, 1969, gan Menna Elfyn o brotest gan Gymdeithas yr Iaith yn Llundain a'u harestiad wedi hynny; llythyr, 1971, oddi wrth Menna Elfyn at Ustus Talbot yn gwrthwynebu cynnal achosion llys yng Nghymru trwy gyfrwng y Saesneg, ynghyd ag agwedd y llys tuag at y diffinyddion; dyddiadur, 1971, a gadwyd gan Menna Elfyn tra'n garcharor yng Ngharchar Pucklechurch, dwy dudalen ohono wedi'u hysgrifennu ar gefn llythyr at Menna Elfyn gan ei thad yn ystod cyfnod ei charchariad; llythyr ymddiswyddiad, 1977, at Senedd Cymdeithas yr Iaith oddi wrth un o'u cyd-aelodau; llythyr, 1986, at Menna Elfyn oddi wrth Lys Ynadon Pebidiog, Hwlffordd; adroddiad, 1990, gan aelod o heddlu Dyfed-Powys ynglŷn â difrod troseddol gan aelodau Cymdeithas yr Iaith; llythyr, 1993, at Menna Elfyn oddi wrth Lys Ynadon Caerdydd ynghylch cyhuddiad o ddifrod troseddol gan aelodau Cymdeithas yr Iaith; toriad papur newydd ynghylch difrod troseddol gan aelodau Cymdeithas yr Iaith; datganiad, 1993, gan Menna Elfyn i Lys Ynadon Aberteifi wedi iddi wrthod talu dirwy yn dilyn gweithred o ddifrod troseddol; a chyfieithiad gan Gillian Clarke o gerdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl No. 257863 H.M.P.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r anghydfod rhwng Israel a Phalesteina, gan gynnwys gohebiaeth oddi wrth gynrychiolwyr o Ganolfan Lajee, sef canolfan ar gyfer plant yn bennaf a sefydlwyd ym 1999 fel rhan o Wersyll Ffoaduriaid Aida; ynghyd â thorion papur newydd yn ymwneud ag effeithiau rhyfel, gormes, tlodi a thrais, yn rhannol ar blant a phobl ifanc, deiseb wedi'i chyfeirio at Carwyn Jones AC oddi wrth Menna Elfyn ac eraill o'r byd llenyddol a chelfyddydol yn annog y gweinidog i ohirio ei ymweliad arfaethedig ag Israel yn 2003 a cherdd gan Menna Elfyn wedi'i chyfeirio at blentyn a fu farw yn dilyn Rhyfel Cyntaf y Gwlff.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Gillian Clarke
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau a chardiau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd, awdur, dramodydd a darlithydd Gillian Clarke.
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Tony Conran
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd a'r cyfieithydd Tony Conran.
Rhagymadrodd i Shirgar Anobeithiol
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Copi teipysgrif o'r Rhagymadrodd gan Menna Elfyn i'r flodeugerdd Shirgar Anobeithiol, a olygwyd gan Menna Elfyn ac a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin yn 2000. 'Shirgarwyr' yn hytrach na 'Shirgar' a nodir gan Menna Elfyn yn y testun teipysgrif.
Pennod cyfrol: Maen Ceti/Dancing on a Standing Stone
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Pennod yn dwyn y teitl 'Maen Ceti' yng Nghymraeg a 'Dancing on a Standing Stone' yn Saesneg a gyfranwyd gan Menna Elfyn at y gyfrol Megalith, a olygwyd gan Damian Walford Davies ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2006.
Traethawd ymchwil: Barddoniaeth Menna Elfyn: Pererindod Bardd
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Copi rhwymedig o draethawd ymchwil yn dwyn y teitl 'Barddoniaeth Menna Elfyn: Pererindod Bardd' a gyflwynwyd gan Menna Elfyn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer gradd Doethuriaeth mewn Gweithiau Cyhoeddedig, 2010.
Pennod cyfrol: O Soledad i Harlem
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Copi teipysgrif o bennod yn dwyn y teitl 'O Soledad i Harlem', sef cyfraniad Menna Elfyn i'r gyfrol Canu Caeth: y Cymro a'r Affro-Americanaidd, a olygwyd gan Daniel G. Williams ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2010.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Anerchiadau a thrafodaethau gan Menna Elfyn ar ffurf llawysgrif ddrafft a theipysgrif, yn bennaf ar bynciau'n ymwneud â barddoniaeth a llenyddiaeth, hawliau merched a'r mudiad heddwch, a draddodwyd mewn amryw leoliadau gan gynnwys Colombo, Sri Lanka (2000) a Segovia a'r Alhambra, Sbaen (2007 a di-ddyddiad). Mae'r deunydd yn cynnwys beirniadaeth a draddodwyd gan Menna Elfyn ar gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe, 2006.
Ar frig tudalen cyntaf anerchiad yn dwyn y teitl 'Bondo Barddoniaeth' a draddodwyd yn Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bodedern 2017, nodir gan Menna Elfyn mai yn Y Fenni (lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2016) y cynhaliwyd yr eisteddfod, ond, gan mai 2017 oedd blwyddyn cyhoeddi detholiad barddonol Menna Elfyn Bondo (gweler dan Barddoniaeth: Bondo uchod), cymerir mai 2017 yw'r dyddiad cywir.
Am anerchiad gan Menna Elfyn ar Radio [Cymru] ar gyfer Sul y Blodau 1985, gweler dan Darllediadau cyfryngol.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â gweithiau llwyfan a gyd-grewyd gan Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys: sgript 'cyflwyniad/drama lwyfan' gan Menna Elfyn o'r enw Y Garthen (dim dyddiad, ond arnodir yn llaw Menna Elfyn fod y gwaith yn rhagddyddio'r sioe Rhyw Ddydd, a gyd-grewyd gan Menna Elfyn ac a lwyfanwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr-Pont-Steffan 1984 (https://mennaelfyn.co.uk/cy/project/rhyw-ddydd/; gweler hefyd dan y pennawd Rhyw Ddydd, gan Menna Elfyn, Eirlys Parri, Llio Silyn a Judith Humphreys o fewn yr archif hon); sgript o ddrama'r geni amgen o'r enw Trefn Teyrnas Wâr, a berfformiwyd yn wreiddiol ar lwyfan ym 1990 gan Theatr Taliesin ac a ddarlledwyd fel drama deledu dan y teitl Ar Dir y Tirion ar S4C ym 1993; poster ar gyfer y ddrama gomedi gymunedol Malwod Mawr! (2004), a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, gyda cherddoriaeth gan Iwan Evans, gŵr Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn; sgript opera neu operetta o'r enw Y Gath Wyllt/Wild Cat (2007) a sgrifenwyd gan Berlie Doherty a Julian Philips ac a gyfieithwyd gan Menna Elfyn; a phoster ar gyfer yr opera aml-ieithog Gair ar Gnawd (2015), y libretto gan Menna Elfyn a'r gerddoriaeth gan yr Athro Pwyll ap Siôn, darlithydd yn Adran Gerddoriaeth Coleg Prifysgol Cymru Bangor.
Ambell eitem wedi'u harnodi yn llaw Menna Elfyn.
Am Trefn Teyrnas Wâr/Ar Dir y Tirion (1990), a hefyd am Y Forwyn Goch (1992), drama am yr aflonyddwraig, diwinydd ac athronydd Simone Weil a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, gweler hefyd dan Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg a dan benawdau Tref[e]n Teyrnas Wâr, Y Forwyn Goch a Drama deledu: Ar Dir y Tirion o fewn yr archif hon.
Am y dramâu radio Dim Byd o Werth (2009) a Colli Nabod (2012), gweler dan Darllediadau cyfryngol.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â darllediadau cyfryngol gan neu'n ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys drafft llawysgrif o anerchiad gan Menna Elfyn ar gyfer darllediad ar Radio [Cymru], Sul y Blodau 1985; llythyr, 1995, at Wasg Gomer ynghylch hawlfraint ar rai o gerddi Menna Elfyn a ddarlledwyd mewn cyfres o raglenni radio yn Nenmarc; copi teipysgrif o ysgrif gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl 'Under the Influence', a ddarlledwyd ar Radio 3, Tachwedd 2008; sgript ddrama radio o'r enw 'Dim Byd O Werth' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22ain Mawrth 2009; sgript ddrama radio o'r enw 'Colli Nabod' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22 Ebrill 2012; a dogfennau a gohebiaeth ynghylch darlledu rhai o gerddi Menna Elfyn mewn cyfres o raglenni radio a theledu yng Nghatalwnia [2014].
Am Ar Dir y Tirion (1993), drama deledu a ymddangosodd yn wreiddiol fel y ddrama lwyfan Trefn Teyrnas Wâr (1990), gweler dan Gweithiau llwyfan a dan y pennawd Drama deledu: Ar Dir y Tirion o fewn yr archif hon.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Llyfrau nodiadau Menna Elfyn, yn cynnwys drafftiau o gerddi, cyfieithiadau o gerddi a rhyddiaith yng Nghymraeg a Saesneg, gan gynnwys cyfieithiadau o 'Y Tangnefeddwyr' a 'Yr Heniaith' gan Waldo Williams a dechreuad yr hyn a ymddengys fel nofel Menna Elfyn i bobl ifanc Madfall ar y Mur (Gwasg Gomer, 1993).