Showing 10 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Sub-series
Advanced search options
Print preview View:

Anerchiadau

Anerchiadau a thrafodaethau gan Menna Elfyn ar ffurf llawysgrif ddrafft a theipysgrif, yn bennaf ar bynciau'n ymwneud â barddoniaeth a llenyddiaeth, hawliau merched a'r mudiad heddwch.

Barddoniaeth

Cerddi (llawysgrif, drafftiau arnodedig, ac argraffiedig) gan Menna Elfyn, sy'n cynnwys ei hymdrechion barddoni cynnar o'r 60au a'r 70au; cerddi amrywiol, y rhan helaethaf ohonynt yn ddi-ddyddiad, yn ymestyn o'i chyfnod barddoni cynharaf hyd at gerddi a gynhwyswyd yn ei chasgliadau diweddaraf; a chopïau drafft o'i chyfrolau barddonol Mwyara (Gwasg Gomer, 1976), Bondo (Bloodaxe, 2017) a Tosturi (Cyhoeddiadau Barddas, 2022), ynghyd â deunydd ymchwil cefndirol.

Gweler hefyd dan Rhyddiaith: Erthyglau, ysgrifau ac adolygiadau, dan Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg a dan Llyfrau nodiadau.

Barddoniaeth beirdd eraill

Deunydd yn ymwneud â barddoniaeth rhai beirdd ar wahân i Menna Elfyn, gan gynnwys teyrngedau i waith a bywyd y llenor Gwyddelig Seamus Heaney.

Barddoniaeth Menna Elfyn

Deunydd yn ymwneud â gwaith barddonol Menna Elfyn, gan gynnwys gwaith ar ffurf drafft, datganiadau i'r wasg, adolygiadau a gohebiaeth berthnasol, ynghyd â deunydd yn ymwneud â chyfieithu rhai o'r cyfrolau i amrywiol ieithoedd.

Papurau T. Elfyn Jones

Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn, yn cynnwys manylion ei ordeino (1937) a'i sefydlu (1949) fel gweinidog; cofnod o'r erthyglau a gyfrannodd at gylchgrawn Y Tyst, 1973-1997; a manylion o oedfaon teyrnged a gynhaliwyd a'r teyrngedau ysgrifenedig a anfonwyd at deulu'r Parchedig T. Elfyn Jones yn sgîl ei farwolaeth yn 2008.

Prosiectau celf ar y cyd

Deunydd yn ymwneud â phrosiectau celf a gyd-weithwyd arnynt gan Menna Elfyn gyda Nigel Jenkins, Howard Bowcott, Iwan Bala ac eraill.

Prosiectau cerddorol ar y cyd

Deunydd yn ymwneud â phrosiectau cerddorol a gyd-weithwyd arnynt gan Menna Elfyn, gan gynnwys caneuon, operâu a gweithiau corawl a cherddorfaol.

Rhyddiaith

Deunydd rhyddieithol gan Menna Elfyn, yn cynnwys: copïau proflen o Optimist Absoliwt: Cofiant Eluned Phillips (Gwasg Gomer, 2016); ei llên-gofiant Cennad (Cyhoeddiadau Barddas, 2018); a'i chyfrol Cwsg (Gwasg Gomer, 2019); copïau teipysgrif o benodau a gyfranwyd gan Menna Elfyn at y cyfrolau Megalith (gol. Damian Walford Davies, Gwasg Gomer, 2006), Canu Caeth: y Cymro a'r Affro-Americanaidd (gol. Daniel G. Williams, Gwasg Gomer, 2010), [?Welsh Writers] ([?] gol. Institute of Welsh Affairs, [?]2012) a Dros Ryddid! (gol. Llinos Dafydd & Ifan Morgan Jones, Gwasg y Lolfa, 2022); copi teipysgrif o'r Rhagymadrodd gan Menna Elfyn i'r gyfrol Shirgar Anobeithiol (gol. Menna Elfyn, Cyngor Sir Gaerfyrddin, 2000); copi rhwymedig o draethawd ymchwil yn dwyn y teitl 'Barddoniaeth Menna Elfyn: Pererindod Bardd' a gyflwynwyd gan Menna Elfyn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer gradd Doethuriaeth mewn Gweithiau Cyhoeddedig, 2010; ac erthyglau, ysgrifau ac adolygiadau gan Menna Elfyn, rhai ohonynt ar ffurf llawysgrif ddrafft neu deipysgrif ac eraill wedi'u cymryd o ffynhonellau argraffiedig.
Ambell eitem yn dwyn arnodiadau yn llaw Menna Elfyn.

Gweler hefyd dan Llyfrau nodiadau.