Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 197 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Menna Elfyn
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Israel a Phalesteina

Deunydd yn ymwneud â'r anghydfod rhwng Israel a Phalesteina, gan gynnwys gohebiaeth oddi wrth gynrychiolwyr o Ganolfan Lajee, sef canolfan ar gyfer plant yn bennaf a sefydlwyd ym 1999 fel rhan o Wersyll Ffoaduriaid Aida; ynghyd â thorion papur newydd yn ymwneud ag effeithiau rhyfel, gormes, tlodi a thrais, yn rhannol ar blant a phobl ifanc, deiseb wedi'i chyfeirio at Carwyn Jones AC oddi wrth Menna Elfyn ac eraill o'r byd llenyddol a chelfyddydol yn annog y gweinidog i ohirio ei ymweliad arfaethedig ag Israel yn 2003 a cherdd gan Menna Elfyn wedi'i chyfeirio at blentyn a fu farw yn dilyn Rhyfel Cyntaf y Gwlff.

Gohebiaeth

Gohebiaeth cyd-rwng Menna Elfyn ac amryw ffigyrau'r byd llenyddol ac aelodau o'i theulu.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol, yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn.

Barddoniaeth

Cerddi (llawysgrif, drafftiau arnodedig, ac argraffiedig) gan Menna Elfyn, sy'n cynnwys ei hymdrechion barddoni cynnar o'r 60au a'r 70au; cerddi amrywiol, y rhan helaethaf ohonynt yn ddi-ddyddiad, yn ymestyn o'i chyfnod barddoni cynharaf hyd at gerddi a gynhwyswyd yn ei chasgliadau diweddaraf; a chopïau drafft o'i chyfrolau barddonol Mwyara (Gwasg Gomer, 1976), Bondo (Bloodaxe, 2017) a Tosturi (Cyhoeddiadau Barddas, 2022), ynghyd â deunydd ymchwil cefndirol.

Gweler hefyd dan Rhyddiaith: Erthyglau, ysgrifau ac adolygiadau, dan Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg a dan Llyfrau nodiadau.

Rhagymadrodd i Shirgar Anobeithiol

Copi teipysgrif o'r Rhagymadrodd gan Menna Elfyn i'r flodeugerdd Shirgar Anobeithiol, a olygwyd gan Menna Elfyn ac a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin yn 2000. 'Shirgarwyr' yn hytrach na 'Shirgar' a nodir gan Menna Elfyn yn y testun teipysgrif.

Pennod cyfrol: O Soledad i Harlem

Copi teipysgrif o bennod yn dwyn y teitl 'O Soledad i Harlem', sef cyfraniad Menna Elfyn i'r gyfrol Canu Caeth: y Cymro a'r Affro-Americanaidd, a olygwyd gan Daniel G. Williams ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2010.

Anerchiadau

Anerchiadau a thrafodaethau gan Menna Elfyn ar ffurf llawysgrif ddrafft a theipysgrif, yn bennaf ar bynciau'n ymwneud â barddoniaeth a llenyddiaeth, hawliau merched a'r mudiad heddwch.

Anerchiadau

Anerchiadau a thrafodaethau gan Menna Elfyn ar ffurf llawysgrif ddrafft a theipysgrif, yn bennaf ar bynciau'n ymwneud â barddoniaeth a llenyddiaeth, hawliau merched a'r mudiad heddwch, a draddodwyd mewn amryw leoliadau gan gynnwys Colombo, Sri Lanka (2000) a Segovia a'r Alhambra, Sbaen (2007 a di-ddyddiad). Mae'r deunydd yn cynnwys beirniadaeth a draddodwyd gan Menna Elfyn ar gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe, 2006.
Ar frig tudalen cyntaf anerchiad yn dwyn y teitl 'Bondo Barddoniaeth' a draddodwyd yn Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bodedern 2017, nodir gan Menna Elfyn mai yn Y Fenni (lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2016) y cynhaliwyd yr eisteddfod, ond, gan mai 2017 oedd blwyddyn cyhoeddi detholiad barddonol Menna Elfyn Bondo (gweler dan Barddoniaeth: Bondo uchod), cymerir mai 2017 yw'r dyddiad cywir.

Am anerchiad gan Menna Elfyn ar Radio [Cymru] ar gyfer Sul y Blodau 1985, gweler dan Darllediadau cyfryngol.

Gweithiau llwyfan

Deunydd yn ymwneud â gweithiau llwyfan a gyd-grewyd gan Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys: sgript 'cyflwyniad/drama lwyfan' gan Menna Elfyn o'r enw Y Garthen (dim dyddiad, ond arnodir yn llaw Menna Elfyn fod y gwaith yn rhagddyddio'r sioe Rhyw Ddydd, a gyd-grewyd gan Menna Elfyn ac a lwyfanwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr-Pont-Steffan 1984 (https://mennaelfyn.co.uk/cy/project/rhyw-ddydd/; gweler hefyd dan y pennawd Rhyw Ddydd, gan Menna Elfyn, Eirlys Parri, Llio Silyn a Judith Humphreys o fewn yr archif hon); sgript o ddrama'r geni amgen o'r enw Trefn Teyrnas Wâr, a berfformiwyd yn wreiddiol ar lwyfan ym 1990 gan Theatr Taliesin ac a ddarlledwyd fel drama deledu dan y teitl Ar Dir y Tirion ar S4C ym 1993; poster ar gyfer y ddrama gomedi gymunedol Malwod Mawr! (2004), a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, gyda cherddoriaeth gan Iwan Evans, gŵr Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn; sgript opera neu operetta o'r enw Y Gath Wyllt/Wild Cat (2007) a sgrifenwyd gan Berlie Doherty a Julian Philips ac a gyfieithwyd gan Menna Elfyn; a phoster ar gyfer yr opera aml-ieithog Gair ar Gnawd (2015), y libretto gan Menna Elfyn a'r gerddoriaeth gan yr Athro Pwyll ap Siôn, darlithydd yn Adran Gerddoriaeth Coleg Prifysgol Cymru Bangor.
Ambell eitem wedi'u harnodi yn llaw Menna Elfyn.

Am Trefn Teyrnas Wâr/Ar Dir y Tirion (1990), a hefyd am Y Forwyn Goch (1992), drama am yr aflonyddwraig, diwinydd ac athronydd Simone Weil a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, gweler hefyd dan Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg a dan benawdau Tref[e]n Teyrnas Wâr, Y Forwyn Goch a Drama deledu: Ar Dir y Tirion o fewn yr archif hon.
Am y dramâu radio Dim Byd o Werth (2009) a Colli Nabod (2012), gweler dan Darllediadau cyfryngol.

Darllediadau cyfryngol

Deunydd yn ymwneud â darllediadau cyfryngol gan neu'n ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys drafft llawysgrif o anerchiad gan Menna Elfyn ar gyfer darllediad ar Radio [Cymru], Sul y Blodau 1985; llythyr, 1995, at Wasg Gomer ynghylch hawlfraint ar rai o gerddi Menna Elfyn a ddarlledwyd mewn cyfres o raglenni radio yn Nenmarc; copi teipysgrif o ysgrif gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl 'Under the Influence', a ddarlledwyd ar Radio 3, Tachwedd 2008; sgript ddrama radio o'r enw 'Dim Byd O Werth' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22ain Mawrth 2009; sgript ddrama radio o'r enw 'Colli Nabod' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22 Ebrill 2012; a dogfennau a gohebiaeth ynghylch darlledu rhai o gerddi Menna Elfyn mewn cyfres o raglenni radio a theledu yng Nghatalwnia [2014].

Am Ar Dir y Tirion (1993), drama deledu a ymddangosodd yn wreiddiol fel y ddrama lwyfan Trefn Teyrnas Wâr (1990), gweler dan Gweithiau llwyfan a dan y pennawd Drama deledu: Ar Dir y Tirion o fewn yr archif hon.

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau Menna Elfyn, yn cynnwys drafftiau o gerddi, cyfieithiadau o gerddi a rhyddiaith yng Nghymraeg a Saesneg, gan gynnwys cyfieithiadau o 'Y Tangnefeddwyr' a 'Yr Heniaith' gan Waldo Williams a dechreuad yr hyn a ymddengys fel nofel Menna Elfyn i bobl ifanc Madfall ar y Mur (Gwasg Gomer, 1993).

Canlyniadau 181 i 197 o 197