Dangos 197 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Menna Elfyn
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Y Gath Wyllt/The Wild Cat

Deunydd yn ymwneud â'r opera gyfoes Y Gath Wyllt/The Wild Cat, y geiriau gan Berlie Doherty, gyda chyfieithiad Cymraeg gan Menna Elfyn, a'r gerddoriaeth gan Julian Philips, sy'n cynnwys copïau drafft a theg o'r libretto a rhestr o leoliadau yn dangos taith y cynhyrchiad trwy Gymru.

Wellspring

Deunydd yn ymwneud â Wellspring, addasiad cerddorol gan Hilary Tann o un o gerddi Menna Elfyn, sy'n cynnwys rhaglen brintiedig o gyngerdd gan Gôr Merched Melodia, Efrog Newydd, pryd y cyflwynwyd Wellspring am y tro cyntaf, ynghyd â sgôr gerddorol y darn a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth Hilary Tann.

Gair ar Gnawd

Deunydd yn ymwneud â'r opera Gair ar Gnawd, a gomisiynwyd ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, y libretto gan Menna Elfyn a'r gerddoriaeth gan Pwyll ap Siôn, gan gynnwys sgorau cerddorol, drafftiau a chopïau teg o'r libretto, brasluniau o'r naratif, datganiadau i'r wasg, drafft o sgwrs am y broses o lunio'r libretto a gohebiaeth.

Nodiadau Maes/Field Notes

Deunydd yn ymwneud â phrosiect ar y cyd rhwng Menna Elfyn (geiriau) a'r arlunydd Iwan Bala (delweddau), gan gynnwys cyfrolau printiedig o gynnwys y cywaith, gwahoddiadiadau i ragolwg preifat o'r cywaith, sgwrs arddangosfa a draddodwyd gan Menna Elfyn, rhestr o'r gweithiau, drafftiau a nodiadau, datganiadau i'r wasg, ebyst at Menna Elfyn oddi wrth Iwan Bala a chyfieithiad drafft i'r Saesneg gan Menna Elfyn o'i cherdd Mapiau.

Rhaglen deledu: Bardd yn Fietnam

Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Bardd yn Fietnam (1995), sef cynhyrchiad gan gwmni Boda ar gyfer S4C yn dilyn ymweliad Menna Elfyn â'r wlad, gan gynnwys drafftiau o sgriptiau teledu, amserlen ffilmio, costau a chyfrifon, manylion teithio ac ymweld, dogfennau teithio, copïau drafft a theg o gerddi gan Menna Elfyn (gan gynnwys cyfieithiadau o rai ohonynt i'r Saesneg), gohebiaeth at Menna Elfyn oddi wrth gynhyrchwyr y rhaglen ac oddi wrth Trinh Thi Dieu (sef prif gyswllt Menna Elfyn yn Hanoi), gohebiaeth oddi wrth Menna Elfyn at ei gŵr Wynfford James, cylchgronau a thorion papur newydd.

Rhaglenni teledu: The Slate/Dim Ond Celf

Llythyr at Menna Elfyn oddi wrth gwmni darlledu'r BBC a sgript a anfonwyd at Menna Elfyn trwy gyfrwng ebost, ill dau'n ymwneud â chyfraniad Menna Elfyn at raglenni The Slate a Dim Ond Celf.

Drama deledu: Pan Ddêl Mai

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama deledu Pan Ddêl Mai, gan gynnwys llythyr oddi wrth Menna Elfyn yn amgau amlinelliad o'r ddrama a'i chymeriadau.

Drama radio: Iechyd yw Popeth

Copïau drafft a theg o sgript y ddrama radio Iechyd yw Popeth, a ddarlledwyd Ionawr 2004, ynghyd â thoriad papur newydd. Diwygwyd teitl blaenorol y ddrama, Legato, ar dudalen flaen copi drafft y sgript.

Rhaglen deledu: Pethe

Toriad papur newydd yn rhaghysbysebu Pethe, rhaglen a ddarlledwyd ar gyfer S4C i ddathlu penblwydd Menna Elfyn yn drigain oed.

Gwobrwyon ac anrhydeddau

Deunydd yn ymwneud â gwobrywon ac anrhydeddau a ddaeth i ran Menna Elfyn yn ystod ei gyrfa, y rhan helaeth ohono yn deillio o'i chyfnod fel Bardd Plant Cymru.

Deunydd ychwanegol Mai 2023

Papurau o eiddo neu sydd yn ymwneud â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn a ychwanegwyd at yr archif ym mis Mai 2023, yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn; deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn; llyfrau nodiadau; gohebiaeth; erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn; ynghyd â rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.

Rhyddiaith

Deunydd rhyddieithol gan Menna Elfyn, yn cynnwys: copïau proflen o Optimist Absoliwt: Cofiant Eluned Phillips (Gwasg Gomer, 2016); ei llên-gofiant Cennad (Cyhoeddiadau Barddas, 2018); a'i chyfrol Cwsg (Gwasg Gomer, 2019); copïau teipysgrif o benodau a gyfranwyd gan Menna Elfyn at y cyfrolau Megalith (gol. Damian Walford Davies, Gwasg Gomer, 2006), Canu Caeth: y Cymro a'r Affro-Americanaidd (gol. Daniel G. Williams, Gwasg Gomer, 2010), [?Welsh Writers] ([?] gol. Institute of Welsh Affairs, [?]2012) a Dros Ryddid! (gol. Llinos Dafydd & Ifan Morgan Jones, Gwasg y Lolfa, 2022); copi teipysgrif o'r Rhagymadrodd gan Menna Elfyn i'r gyfrol Shirgar Anobeithiol (gol. Menna Elfyn, Cyngor Sir Gaerfyrddin, 2000); copi rhwymedig o draethawd ymchwil yn dwyn y teitl 'Barddoniaeth Menna Elfyn: Pererindod Bardd' a gyflwynwyd gan Menna Elfyn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer gradd Doethuriaeth mewn Gweithiau Cyhoeddedig, 2010; ac erthyglau, ysgrifau ac adolygiadau gan Menna Elfyn, rhai ohonynt ar ffurf llawysgrif ddrafft neu deipysgrif ac eraill wedi'u cymryd o ffynhonellau argraffiedig.
Ambell eitem yn dwyn arnodiadau yn llaw Menna Elfyn.

Gweler hefyd dan Llyfrau nodiadau.

Erthyglau, ysgrifau ac adolygiadau

Erthyglau (gan gynnwys colofnau i'r wasg), ysgrifau ac adolygiadau gan Menna Elfyn, rhai ohonynt ar ffurf llawysgrif ddrafft neu deipysgrif ac eraill wedi'u cymryd o ffynhonellau argraffiedig.
Ambell eitem yn cynnwys arnodiad(au) yn llaw Menna Elfyn.
Sawl un o'r eitemau yn ddi-ddyddiad.

Gohebiaeth

Gohebiaeth amrywiol at, oddi wrth neu sydd yn ymwneud â Menna Elfyn.

Canto

Deunydd yn ymwneud â chwmni Canto, a sefydlwyd ym 1997 fel is-gwmni o fewn Antur Teifi er hybu llenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys cynlluniau strwythur a chynlluniau gwaith, swydd ddisgrifiadau, datganiadau i'r wasg, ceisiadau ariannol wedi'u cyfeirio at Gyngor y Celfyddydau, cyfrifon, cofnodion, newyddlenni, gohebiaeth a manylion am deithiau awduron/llenorion; ynghyd â deunydd yn ymwneud â chais a wnaed Ebrill 2008 gan gwmni Dyddiol Cyf, wedi'i gyfeirio at Gyngor Llyfrau Cymru, i sefydlu wythnosolyn am ddim dan y teitl arfaethedig Y Byd. (Rhoddwyd y gorau yn y diwedd i'r cynlluniau i sefydlu Y Byd ar sail diffyg ariannu.)

Gohebiaeth

Gohebiaeth amrywiol at, oddi wrth neu sydd yn ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys: cylchlythyr ('Annwyl gyfaill') drafft, 1986, oddi wrth Menna Elfyn yn ymddiheuro am fethu mynychu cyfarfod; llythyr, 1986, oddi wrth Goleg Prifysgol Dewi Sant (bellach Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), Llanbedr-Pont-Steffan at Lysgenhadaeth America yn Llundain yn cefnogi cais Menna Elfyn am ysgoloriaeth deithiol i'r Unol Daleithiau; llythyr, 1992, at Menna Elfyn oddi wrth Gwmni Theatr Dalier Sylw, Caerdydd ynghylch ymarferion ar gyfer y ddrama Y Forwyn Goch, a sgriptiwyd gan Menna Elfyn (gweler dan bennawd Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg a dan bennawd Y Forwyn Goch o fewn yr archif hon); llythyr, 1993, at Menna Elfyn oddi wrth gwmni Poetry International Rotterdam; llythyr, 1995, at Menna Elfyn oddi wrth y Cyngor Prydeinig yn Barcelona ynghylch trefniadau ar gyfer ei hymweliad â'r ddinas; ebost, 2000, oddi wrth Menna Elfyn at y bardd Gillian Clarke ynghylch cyfieithu un o gerddi Menna Elfyn; ebost, 2012, at Menna Elfyn oddi wrth Cathey Morgan, swyddog addysg ac allanol yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu; ebost, 2012, at Menna Elfyn ac eraill oddi wrth y bardd a'r llenor Nigel Jenkins, yn cynnwys erthygl hunangofiannol; a llythyr, 2013, at Menna Elfyn oddi wrth Regina Dyck a Michael Augustin, trefnwyr Poetry on the Road, sef gŵyl farddoniaeth ryngwladol a gynhelir yn Bremen, yr Almaen.

Canlyniadau 21 i 40 o 197