- 19
- Cyfres / Series
- [1981x2016]
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd amrywiol, yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn.
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd amrywiol, yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn.
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd amrywiol yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn.
Part of Papurau Menna Elfyn
Papurau o eiddo neu sydd yn ymwneud â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn a ychwanegwyd at yr archif ym mis Mai 2023, yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn; deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn; llyfrau nodiadau; gohebiaeth; erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn; ynghyd â rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Dewch Gyda Fi (2017), sef addasiad Cymraeg gan Menna Elfyn o ddrama Mike Kenny Follow Me (2017), gan gynnwys copi teg o'r sgript a hysbysebiad o'r wasg.
Part of Papurau Menna Elfyn
Copïau drafft a theg yng Nghymraeg a Saesneg o'r ddrama deledu Ar Dir y Tirion/On the Land of the Gentle, a ddarlledwyd 1990-1991.
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama deledu Pan Ddêl Mai, gan gynnwys llythyr oddi wrth Menna Elfyn yn amgau amlinelliad o'r ddrama a'i chymeriadau.
Part of Papurau Menna Elfyn
Copïau drafft a theg o sgriptiau'r ddrama radio Ann, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Ionawr 2005, gan gynnwys un sgript dan ei theitl blaenorol Dwy Chwaer, Un Gân a chyfieithiad o sgript Ann i'r Saesneg.
Part of Papurau Menna Elfyn
Copi drafft o sgript y ddrama radio Colli Nabod, a ddarlledwyd ar Radio Cymru.
Part of Papurau Menna Elfyn
Copi teg o sgript y ddrama radio Cymdogion, a ddarlledwyd ar Radio Cymru, Ebrill 2007.
Part of Papurau Menna Elfyn
Copïau drafft o sgript y ddrama radio Dim Byd o Werth.
Part of Papurau Menna Elfyn
Copïau drafft a theg o sgript y ddrama radio Haf 1987, a ddarlledwyd Mai a Mehefin 1986.
Drama radio: Hirddydd yw Heddwch
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Hirddydd yw Heddwch, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Tachwedd 2012, gan gynnwys nodiadau a chopïau drafft a theg o'r sgriptiau, un yn dwyn ei theitl blaenorol Bobby Sands Y Ddrama.
Part of Papurau Menna Elfyn
Copïau drafft a theg o sgript y ddrama radio Iechyd yw Popeth, a ddarlledwyd Ionawr 2004, ynghyd â thoriad papur newydd. Diwygwyd teitl blaenorol y ddrama, Legato, ar dudalen flaen copi drafft y sgript.
Part of Papurau Menna Elfyn
Copi drafft o sgript y ddrama radio Jasmin.
Drama radio: Y Galwr/Dadlau Rhin
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Dadlau Rhin [?teitl blaenorol Y Galwr], a addaswyd ar gyfer Radio Cymru o'r ddrama lwyfan o'r un enw, gan gynnwys copïau drafft a theg o'r sgript (dan y ddwy deitl), gohebiaeth ebost rhwng Menna Elfyn a chynhyrchydd y darllediad Aled Jones, cerdd mewn llawysgrifen gan Menna Elfyn, a thoriad o'r wasg ynglŷn â'r emynyddes Ann Griffiths.
Drama radio: Cysgodion Tu Mewn
Part of Papurau Menna Elfyn
Copïau drafft a theg o'r ddrama radio Cysgodion Tu Mewn, a ddarlledwyd ar Radio Cymru, 2006.
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd sy'n cynnwys copi teg o sgript ddrama ddi-deitl dyddiedig 1984; copi teg o sgript ddrama di-deitl a gomisiynwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1995, ynghyd â llythyr at Menna Elfyn oddi wrth Swyddog Drama'r Eisteddfod; ac adolygiad o addasiad Cymraeg Menna Elfyn o'r ddrama The Woods (1977) gan David Mamet.
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud a dramâu llwyfan Menna Elfyn.
Part of Papurau Menna Elfyn
Nodiadau tuag at lunio drama o'r enw Eiddo y Rhain, ynghyd â nodiadau tuag at ddrama o'r enw Dechrau Byw.
Part of Papurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud ag Emyn i Gymro, gwaith a gomisiynwyd ar gyfer Gŵyl Tŷ Newydd 2001 i ddathlu bywyd a gwaith y bardd R. S. Thomas (geiriau gan Menna Elfyn, cerddoriaeth gan Pwyll ap Siôn), sy'n cynnwys copïau drafft a theg o'r gerdd a rhaglen a phosteri printiedig.