Dangos 197 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Menna Elfyn
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

In These Stones Horizons Sing

Sgôr gerddorol In These Stones Horizons Sing, darn a gomisiynwyd i ddathlu agoriad Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd; y gerddoriaeth gan Karl Jenkins a'r geiriau gan Menna Elfyn, Grahame Davies a Gwyneth Lewis.

Cân i Gymru

Erthygl ym mhapur bro Y Garthen ynghylch ymgais (aflwyddiannus) Menna Elfyn yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2005 (geiriau Menna Elfyn, cerddoriaeth Iwan Evans, sydd bellach yn briod â Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn).

Caban Coed

Deunydd yn ymwneud â chyfansoddi'r gân Caban Coed (cerddoriaeth gan Andrew Powell, geiriau gan Menna Elfyn), gan gynnwys copïau drafft a theg o eiriau'r gân a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth Andrew Powell.

Cerddoriaeth Jack White

Gohebiaeth ebost rhwng Menna Elfyn a Jack White, myfyriwr ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd a gyfansoddodd drefniant cerddorol ar gyfer rhai o gerddi Menna Elfyn.

Prosiectau amrywiol

Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd a'r llenor Nigel Jenkins ynghylch Gŵyl Ardd Glyn Ebwy 1992 (gan amgau llythyr oddi wrth y bardd a'r artist aml-gyfrwng Peter Meilleur) a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth yr artist aml-gyfrwng Carwyn Evans ynghylch ei ymateb i gerdd gan Menna Elfyn.

Darllediad teledu: Rhyw Ddydd

Cyfres o gerddi gan Menna Elfyn a berfformwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr-Pont-Steffan, 1984, ac yn ddiweddarach a ddarlledwyd ar gyfer S4C.

Rhaglen radio: Merched yn Bennaf

Adolygiad yng nghylchgrawn Barn ar raglen Radio Cymru Merched yn Bennaf a ddarlledwyd o gynhadledd Merched y Wawr, ac a gyfranwyd iddi gan Menna Elfyn.

Darlleniadau radio: Epilog

Copïau drafft a theg o sgriptiau ar gyfer darlleniadau radio Epilog, un yn unig ohonynt wedi'i ddyddio (Chwefror 1990).

Rhaglen deledu: Portreadau

Deunydd yn ymwneud â rhaglen yn y gyfres Portreadau a ddarlledwyd ar gyfer S4C, 1998, gan gynnwys copi teg o'r sgript, llythyr at Menna Elfyn oddi wrth gwmni darlledu Ffilmiau'r Bont a thorion papur newydd.

Drama radio: Y Galwr/Dadlau Rhin

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Dadlau Rhin [?teitl blaenorol Y Galwr], a addaswyd ar gyfer Radio Cymru o'r ddrama lwyfan o'r un enw, gan gynnwys copïau drafft a theg o'r sgript (dan y ddwy deitl), gohebiaeth ebost rhwng Menna Elfyn a chynhyrchydd y darllediad Aled Jones, cerdd mewn llawysgrifen gan Menna Elfyn, a thoriad o'r wasg ynglŷn â'r emynyddes Ann Griffiths.

Drama radio: Ann

Copïau drafft a theg o sgriptiau'r ddrama radio Ann, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Ionawr 2005, gan gynnwys un sgript dan ei theitl blaenorol Dwy Chwaer, Un Gân a chyfieithiad o sgript Ann i'r Saesneg.

Drama radio: Hirddydd yw Heddwch

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Hirddydd yw Heddwch, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Tachwedd 2012, gan gynnwys nodiadau a chopïau drafft a theg o'r sgriptiau, un yn dwyn ei theitl blaenorol Bobby Sands Y Ddrama.

Canlyniadau 161 i 180 o 197