- 1
- Cyfres / Series
- [1974]-2017
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â gwaith barddonol Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys teyrngedau i waith a bywyd y llenor Gwyddelig Seamus Heaney.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â gwaith barddonol Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys teyrngedau i waith a bywyd y llenor Gwyddelig Seamus Heaney.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â darlithoedd, anerchiadau a sgyrsiau cyhoeddus a draddodwyd gan Menna Elfyn.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â gweithdai ar gyfer plant ac oedolion a gynhaliwyd gan Menna Elfyn, un a'i ar ei phen ei hunan neu ar y cyd â beirdd neu lenorion erail, gan gynnwys Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas, 2014-2016, a gynhaliwyd yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â chyfnodau Menna Elfyn fel awdur preswyl yn Nyffryn Clwyd, Ysgol Dinas Mawddwy a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â chwmni Canto, a sefydlwyd ym 1997 fel is-gwmni o fewn Antur Teifi er hybu llenyddiaeth Gymraeg.
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â swyddogaethau Menna Elfyn o fewn Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan a Choleg y Drindod, Caerfyrddin (bellach ill dau yn adrannau o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â gwobrywon ac anrhydeddau a ddaeth i ran Menna Elfyn yn ystod ei gyrfa, y rhan helaeth ohono yn deillio o'i chyfnod fel Bardd Plant Cymru.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â gweithredoedd ymgyrchol Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith, gan gynnwys gohebiaeth sylweddol a anfonwyd at Wynfford James a Rhodri Williams yng ngharchar Abertawe yn dilyn eu rhan yn achos difrodi mast Blaenplwyf ym 1978 a dyddiadur carchar a gadwyd gan Menna Elfyn yn ystod ei chyfnod yng Ngharchar Pucklechurch ym 1971.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud ag ymgyrch merched Comin Greenham.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Gohebiaeth cyd-rwng Menna Elfyn ac amryw ffigyrau'r byd llenyddol ac aelodau o'i theulu.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd amrywiol, yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â chyfieithu gwaith barddonol Menna Elfyn i amryw ieithoedd, gan gynnwys enghreifftiau drafft o gerddi cyfieithiedig a gohebiaeth rhwng Menna Elfyn a'i chyfieithwyr.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â gwaith rhyddieithol Menna Elfyn.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud a dramâu llwyfan Menna Elfyn.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â phrosiectau a ymgymerwyd gan Menna Elfyn ar y cyd â chyfansoddwyr a cherddorion, artistiaid a gwneuthurwyr ffilm.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn o fewn cyfryngau'r teledu a'r radio, gan gynnwys dramâu, rhaglenni dogfen, sgyrsiau a chyfweliadau.
Adolygiadau a sylwadau ar waith Menna Elfyn
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Adolygiadau a sylwadau ar waith Menna Elfyn
Traethodau ymchwil ar waith Menna Elfyn
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Traethodau ymchwil yn ymdrin â gwaith Menna Elfyn ac eraill.
Gŵyliau, darlleniadau, cynhadleddau, seminarau a theithiau
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Deunydd yn ymwneud â'r mynych ŵyliau, cynhadleddau, seminarau a theithiau barddonol y bu Menna Elfyn yn rhan ohonynt.
Rhan oPapurau Menna Elfyn
Papurau o eiddo neu sydd yn ymwneud â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn a ychwanegwyd at yr archif ym mis Mai 2023, yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn; deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn; llyfrau nodiadau; gohebiaeth; erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn; ynghyd â rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.