Cerdd: 'Gay is the Maypole ...'
- 1/1/7/1
- Ffeil
- [1940x1971]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdd, neu ran o gerdd, yr ymddengys ei fod yn llaw Waldo Williams, sy'n cychwyn 'Gay is the Maypole - with sprigs we have wound it'.
Cerdd: 'Gay is the Maypole ...'
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdd, neu ran o gerdd, yr ymddengys ei fod yn llaw Waldo Williams, sy'n cychwyn 'Gay is the Maypole - with sprigs we have wound it'.
Cerdd Olaf Arthur ag Ef yn Alltud yn Awstralia
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdd lawysgrif gan ac yn llaw Waldo Williams yn dwyn y teitl 'Cân Olaf Arthur', sef Cerdd Olaf Arthur ag Ef yn Alltud yn Awstralia, rhan o'r bryddest Y Gân Ni Chanwyd, a gyfansoddwyd gan Waldo Williams tua diwedd y 1920au ond nas cwblhawyd.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Teipysgrif a llungopïau o amrywiol gerddi yn dwyn y teitlau 'Dydd Barn A Diwedd Byd', 'Saunders Lewis', 'Brambles' a 'Ynys Ffri (O Saesneg W. B .Yeates [sic]' (y ddwy olaf wedi'u llungopïo o ffynhonell brintiedig). Ceir llungopi o gerdd ddrafft - a ymddengys ei bod yn hanner Cymraeg, hanner Saesneg - ar gefn y gerdd 'Saunders Lewis'.
Copïau teipysgrif o sonedau a ymddengys fel pe baent wedi'u cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth, gan gynnwys y soned fuddugol, pob un â ffugenw atodol.
Llungopi o gerdd ddi-enw mewn teipysgrif yn dwyn y teitl 'Stafell Blaentwrch'.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llyfr nodiadau yn cynnwys copïau teg o'r cerddi Byd yr Aderyn Bach a Y Ci Coch gan ac yn llaw Waldo Williams, y ddwy gerdd yn ddi-deitl yn y gyfrol hon ac wedi'u harwyddo 'Waldo'; toriad papur newydd (Y Faner, 30 Awst 1939 a 6 Medi 1939) yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Beth yw Cynghanedd?' gan Waldo Williams, ynghyd â rhan o baragraff cyntaf yr erthygl yn llaw Waldo Williams; torion papur newydd (Y Faner, 23 Chwefror 1944 a 18 Tachwedd 1944) yn cynnwys y cerddi Y Plant Marw ac Elw ac Awen gan Waldo Williams; ac englyn gan ac yn llaw Waldo Williams i gyfarch ei gyfaill yr awdur a'r bardd T. Llew Jones wedi iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958, ynghyd â'r nodyn 'Cyfarfod dathlu Llew yn neuadd Pantycelyn Aberystwyth'. Ceir nodyn o'r dyddiad 'Hyd. 20. 1948' [?yn llaw Waldo Williams] ar un dudalen a cheir enw Dilys Williams, chwaer Waldo, a'r nodyn 'Cynghanedd' ar y clawr. Lluniwyd y gerdd Y Plant Marw yn gynnar ym 1944 a'i chyhoeddi yn rhifyn 23 Chwefror 1944 o'r Faner, tra cyhoeddwyd y ddwy soned Elw ac Awen mewn rhifyn mis Tachwedd o'r Faner yr un flwyddyn.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn coffa ('In Memoriam') Mary Llewellyn, Denver, Colorado, Unol Daleithiau, a fu farw ychydig ddyddiau wedi genedigaeth ei merch, Gwladys Mary Llewellyn (gweler Gwladys Llewellyn dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams).
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, 3 Rhagfyr 1915, at Dilys Williams oddi wrth 'Uncle, Aunty & Ioan', sef Edward (Ned) Thomas Edmunds, Wilhelmina (Minnie) Edmunds (née Jones) a'u mab Ioan Edmunds. 'Roedd Minnie yn fodryb i Dilys, sef chwaer ei mam, Angharad Williams (née Jones).
Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth C. Enid Irma Roome
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post 8 [Mehefin neu Gorffennaf] 1925, a anfonwyd at John Edwal Williams gan C. Enid Irma Roome, chwaer George William Roome, cyd-fyfyriwr i John Edwal yn y Coleg Normal, Bangor. Ceir nodyn [?yn llaw Dilys Williams] ar frig y cerdyn.
Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth [Wilhelmina (Minnie) Edmunds]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post 19 Mai 1911, at John Edwal Williams oddi wrth, o bosib, Wilhelmina (Minnie) Edmunds (née Jones), chwaer ei wraig Angharad Williams (née Jones) (llofnod ar y cerdyn yn aneglur).
Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth William Price Jones
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post [?1]9 Rhagfyr 1915, yn dwyn cyfarchion Nadolig at John Edwal Williams oddi wrth William Price Jones, brawd ei wraig Angharad Williams (née Jones).
Cerdyn post at Waldo Williams oddi wrth Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post 4 Medi 1920, a anfonwyd at Waldo Williams gan [ei chwaer] Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)], yn llongyfarch Waldo, yn ôl pob tebyg am ennill Gwobr James yng nghyfarfod gwobrwyo Ysgol Ramadeg Arberth, lle bu'n ddisgybl o 1917 hyd 1922 (gweler Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth dan bennawd Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams).
Cerdyn post oddi wrth Dilys Williams at Aled a Siwan Richards
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post 18 Awst 1974, a anfonwyd at Aled a Siwan Richards, Glasfryn, Wdig, Sir Benfro oddi wrth Dilys Williams a Benni ac Elsie [Lewis]. Gan mai cartref Benni ac Elsie Lewis oedd Glasfryn, tybir mai gofalu am y tŷ oedd Aled a Siwan Richards.
Cerdyn post oddi wrth Mary [Francis, née Williams] at Elsie Lewis
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post dyddiedig 9 Medi 1969, at Elsie Lewis, Llanwnda, Wdig oddi wrth Mary [Francis, née Williams], chwaer Waldo Williams.
Cerdyn post penblwydd oddi wrth Mary [Williams]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post di-ddyddiad yn cynnwys cyfarchion penblwydd at dderbynnydd anhysbys oddi wrth Mary [Williams].
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopi o goeden deulu teulu Llewellyn, sy'n cynnwys Linda Llewellyn (yn ddiweddarach Williams), gwraig Waldo Williams. Lluniwyd y goeden deulu gan R. G. Thorne, Ionawr 1980 (gweler nodyn ar frig y ddalen).
Cofio (cyfieithiad i'r Saesneg)
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cyfieithiad i'r Saesneg gan William Fillery o Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan o'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams a ymddangosodd mewn rhifyn o'r cylchgrawn Awen, 1966.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Copïau teipysgrif o gerdd hynafol Aneirin 'Y Gododdin', gydag enwau Dilys ac aelodau eraill o'r teulu wedi'u hysgrifennu'n unigol ar frig pob copi.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopi, a gymerwyd o ffynhonell brintiedig, o'r gerdd Cwm Berllan gan Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn Hydref 1931 o'r Ford Gron.
Cyfarchion penblwydd oddi wrth Elsie Lewis
Rhan oPapurau Waldo Williams
Nodyn yn cynnwys cyfarchion penblwydd ar ffurf pennill i Dilys Williams, 12 Mawrth 1984, oddi wrth Elsie Lewis.
Cyfieithiadau o sonedau T. H. Parry-Williams
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopi o gyfieithiadau i'r Saesneg o sonedau T. H. Parry-Williams gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Allbrint o gyfrifiad 1911 yn dangos manylion teulu Waldo Williams, a oedd ar y pryd yn byw yn Nhŷ Ysgol Prendergast, Hwlffordd, lle 'roedd John Edwal Williams, tad Waldo, yn brifathro. Mae'r cofnodion yn dangos fod y teulu bellach yn gyflawn ac mai Saesneg oedd iaith pob un o'r plant.