Dangos 219 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Gilmor Griffiths, Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Mary Carol,

Llungopïau o rannau offerynnau ensemble gwynt ar gyfer 'Mary Carol' gan Gilmor Griffiths.

Men of Harlech,

Trefniant o'r alaw 'Men of Harlech' gyda geiriau Saesneg ar gyfer Rhyl Operatic Society. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

Merry widow waltz,

Trefniant o'r alaw 'Merry widow waltz' ar gyfer y Rhyl Operatic Society. Llungopi o lawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o waith Franz Lehár.

Migildi Magildi,

Llungopi o drefniant o'r alaw draddodiadol 'Migildi Magildi' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Sgôr, sol-ffa gyda geiriau.

Min y môr,

Llyfr gwaith Gilmor Griffiths sy'n cynnwys brasluniau, nodiadau a cherddoriaeth 'Min y môr', sef y gwaith creadigol olaf iddo gyfansoddi erbyn Eisteddfod yr Urdd.

Molawd i Gymru,

Cerddoriaeth gan Gilmor Griffiths 'Molawd i Gymru', ar gyfer S.A.T.B., geiriau gan Leslie Harries. Cyfansoddwyd ar gyfer Pasiant y Plant yn Eisteddfod yr Urdd, Yr Wyddgrug, 1958.

My little Welsh home,

Trefniant o'r alaw 'My little Welsh home', cyfansoddiad a geiriau gan W. S. Gwynn Williams, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrifau o sgôr, ac un anghyflawn, gyda geiriau.

Noel,

Llungopi o gyfansoddiad Gilmor Griffiths o 'Noel', geiriau Saunders Lewis. Trefnwyd ar gyfer unawd ar gyfer cyngerdd ysgol.

Non Nobis, Domine,

Copi sgôr 'Non Nobis, Domine' gan Roger Quilter, geiriau Rudyard Kipling wedi eu cyfieithu gan James Arnold Jones. Trefniant ar gyfer côr merched neu blant.

Nos Nadolig Yw,

Llungopi o sgôr 'Nos Nadolig Yw' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan H. D. Healy. Copi teipysgrif 'Iesu faban Mair' ar y cefn.

O dan yr hen lwyfen hardd,

Sgôr mewn llawysgrif o'r alaw Almaeneg, y trefniant S.A. gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries. Hefyd taflen geiriau i'r 'Y Gwcw', 'O dan yr hen lwyfen hardd', ac 'Edelweiss'.

Paid a deud,

Trefniant o'r alaw 'Paid a deud', ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

Canlyniadau 141 i 160 o 219