Print preview Close

Showing 219 results

Archival description
Papurau Gilmor Griffiths, File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Wales is my homeland,

Trefniant o'r alaw 'Wales is my Homeland', ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau, lawysgrif a llungopi o gopi sol-ffa.

Babouscka,

Sgript gan Vera Griffiths, telyneg a cherddoriaeth gan Gilmor Griffiths. Addasiad o’r chwedl Rwsieg, ar gyfer sioe gerdd Ysgol Hiraddug, Dyserth. Sgriptiau, sgôr llawn mewn llyfr lloffion, brasluniau a nodiadau. Cerddoriaeth yn cynnwys: ‘Babouscka’; ‘Knowledge is a wonderful thing’; ‘Hwyrgân yr Hydref’; ‘The Kings’; ‘Parents are so square’.

Carol Benblwydd / Linden Lea,

Llyfryn a thudalennau rhydd o ddrafftiau a brasluniau o sgorau, gyda nifer o gopïau o 'Carol Benblwydd' [sic.] gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Llyfryn hefyd yn c ynnwys 'Linden Lea' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun.

Goleuni'r byd,

Brasluniau, lawysgrifau a llungopïau o sgorau o 'Goleuni'r byd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Mairlyn Lewis. Trefniadau ar gyfer S.S.A.A. neu S.S.T.B..

Nos Nadolig Yw,

Llungopi o sgôr 'Nos Nadolig Yw' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan H. D. Healy. Copi teipysgrif 'Iesu faban Mair' ar y cefn.

Cymru,

Drafft gyfansoddiad unsain Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries.

Rhai tonau,

Dau lyfr cerddoriaeth yn ogystal â nifer o dudalennau rhydd, sy'n cynnwys trefniadau a gosodiadau o emynau yn yr hen nodiant a sol-ffa. Y rhan fwyaf o'r cyfnod 1939-1941. Nifer o frasluniau o drefniadau, Dave-'O! Dduw rho i'm dy hedd'; 'O! am ysbryd i weddïo'; Elwyn-'Mae carcharorion angau' a 'Angels from the realm of glory', 1951. (Teitl a threfniant ffeil gwreiddiol).

Wasg a'r cyfryngau,

Erthyglau a thoriadau papur ynglŷn â'i waith fel cyfansoddwr ac yn y byd cerddorol yn gyffredinol. Drafft o’r rhagymadrodd 'Wrth y preseb: carolau Nadolig i blant', 1985 a llythyr gan Robat Gruffudd, 'Y Lolfa' at Vera sy'n cyfeirio at 'Garolau Gilmor', 1987.

Tystysgrifau,

Tystysgrif geni byr, 1917; Decree Nisi Absolute (ysgaru), 1975; priodas i Vera Williams, 1975; marwolaeth, 1985.

Carolau Gilmor,

Carolau Gilmor, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, 2011 [yr argraffiad cyntaf yn 1991]. Cynnwys: Ganwyd Crist i'r byd; Fe anwyd mab ym Methlem; Hwn yw fy mhlentyn i; Nos Nadolig yw; Carol ben-blwydd; Beth yw'r seren dlos?; Ave Maria; Anwylyn Mair; Goleuni'r byd; Carol Parsal (S.A.T.B. a S.S.A.A.).

Cân diolch,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Cân Diolch' i S.S.A. a hefyd S.A.T.B. gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Mairlyn Lewis.

Results 1 to 20 of 219