Showing 1 results

Archival description
Only top-level descriptions Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Thomas, John Murray, 1847-1924 Patagonia (Argentina and Chile)
Print preview View:

Papurau'n ymwneud â John Murray Thomas, Patagonia

  • NLW Facs 184
  • File
  • 1893-2000

Llungopïau o bapurau'n ymwneud â John Murray Thomas (1847-1924) a ychwanegwyd at y rhai a roddwyd gan Olivia Hughes de Mulhall ym mis Medi 1975; yr oedd John Murray Thomas o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ac ymfudodd i'r Wladfa ar y Mimosa gyda'r fintai gyntaf yn 1865. Casglwyd y papurau ynghyd gan Olivia Hughes de Mulhall, gwraig ei ŵyr, tra'n gweithio ar ei llyfr John Murray Thomas: pequeño hombre pero gran héroe para la historia de Chubut (Trelew, 1999), gydag adolygiadau, 2000, ohono. Ymhlith y papurau ceir rhannau o'i ddyddiaduron, 1877, 1878 ac 1893; ei gynllun o Gwm Hyfryd, 1885; ei ohebiaeth, 1888-1911, gan gynnwys deiseb a luniwyd ganddo, 1893, ynglŷn â hawliau tir; pedwar llythyr gwreiddiol at John Murray Thomas, 1895-1898, a chytundeb busnes gwreiddiol, 1893. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â'i thad y bardd Morris ap Hughes, gan gynnwys enghreifftiau o'i farddoniaeth fel 'Cerdd ymson wrth feddrod Eluned [Morgan]' a 'Gwyl y Glaniad' mewn Sbaeneg; a chyfieithiadau o emynau adnabyddus Cymreig i'r Sbaeneg gan ei fab Osian Hughes, Eisteddfod Chubut 1988

Thomas, John Murray, 1847-1924