Showing 3783 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file Welsh
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Rhestri

Nodiadau a rhestri amrywiol o lythyrau a llawysgrifau Iolo Morganwg. Yn eu plith ceir 'Catalogue of Ab Iolo's Library' a chopi o restr llawysgrifau Llanover yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Rhed Alysia!,

Drafftiau llawysgrif o'r nofel Rhed Alysia!, [1990x2007]. = Manuscript drafts of the novel Rhed Alysia!, [1990x2007].

Rhaglenni nodwedd

Rhaglenni nodwedd, 1951-1985 (gyda bylchau), a baratowyd ar gyfer cyrsiau gan gynnwys 'Gwaith llafar a chyd-adrodd', Cwrs Penwythnos Urdd Gobaith Cymru, 1951, a 'Dros y Mynydd Du i Frynaman', Gŵyl Gyhoeddi Drama'r Urdd, 1985; ynghyd â sgript Gŵyl Ddewi yn Neuadd Albert, Llundain, 1958, yn arwain at eitem Coleg y Drindod sef meim, a sgriptiau pasiant hanes Sir Frycheiniog, 1958. Syniad Norah Isaac oedd hwn a wreiddiwyd mewn cwrs i athrawon cynradd y sir yn 1957. Ceir hefyd ddramodigau, [1957]-[1962], gan gynnwys rhai o'r Beibl a'i nodiadau ar gyfer llunio rhaglen mewn cwrs ym Mhlasty'r Cilgwyn, 1957.

Rhaglenni cyngherddau,

Rhaglenni cyngherddau clasurol a dramâu a fynychodd yn ystod ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau, 1937-1938, ac eitemau printiedig eraill.

Rhaglenni cyfarfodydd

Mae'r ffeil yn cynnwys rhaglenni cyfarfodydd: 'Cyfarfod Dathlu Canmlwyddiant Capel Morfa', 1966, 'Gwasanaeth sefydlu y Parch. Ifan Rhisiart Roberts', 1992, a 'Cyfarfod Sefydlu Mr. Robert E. H. Parry', 1996.

Rhaglenni a thocynnau

Tocynnau darllen a thocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd. Yn eu plith ceir rhaglen 'Cinio Croeso Cymru i Mr De Valera', Hydref 23, 1948, yn y Park Hotel, Caerdydd, dan nawdd Plaid Cymru, yn cynnwys llofnodion Eamon de Valera, Saunders Lewis, J. Kitchener Davies a Gwynfor Evans.

Results 621 to 640 of 3783