Showing 3783 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file Welsh
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Pregeth

Pregeth yn dwyn y teitl 'Beth a rydd Dyn yn gyfnewid am ei Enaid', wedi ei dyddio '21 April [17]52'. Nodir lleoliad a dyddiad y cyfarfodydd lle traddodwyd y bregeth ar y dudalen olaf.

Pobol y Cwm,

Llyfr nodiadau Pobol y Cwm, 1989, gan gynnwys nodiadau a sgriptio bras ar gyfer penodau 60 a 79: cyfres 16.

Plentyn Di-gartref,

Papurau'n ymwneud ag addasiad llwyfan o ddrama radio gan Marion Eames, Plentyn Di-gartref, [1985x2007], gan gynnwys sgript o'r addasiad, cyfarwyddiadau llwyfan a chopi o'r sgript radio wreiddiol. = Papers relating to a stage adaptation of the radio play by Marion Eames, Plentyn Di-gartref, [1985x2007], including a script of the adaptation, notes on stage direction and a copy of the original radio script.

'Plant y Port'

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau yn ymwneud â drama gan Carys Bell gyda cherddoriaeth gan Olwen Morris, sef 'Plant y Port', a gynigiwyd ar gyfer y gystadleuaeth 'A play for Wales' a drefnwyd gan y Liverpool Daily Post mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd, 1977. Ceir llawysgrifau a theipysgrifau o'r sgript a'r caneuon, rhai ohonynt yn ddrafftiau, yn ogystal â'r sgôr cerddorol, c. 1975, a chopi o'r sgript radio, 'Caesar's back in town' gan Gordon Snell a Gordon Clyde, darlledwyd 1976. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau, 1977, 1979-1983, 1985 a 1989, amryw ohonynt gan gwmnïau teledu yn trafod y gwaith; yn eu plith ceir llythyr gan Siôn Eirian.

Eirian, Siôn,

Plaid Genedlaethol Cymru : Cangen Caerdydd

Llyfr cofnodion Cangen Caerdydd a'r Cylch o Blaid Genedlaethol Cymru, 1930-1934, gyda rhestr aelodau yng nghefn y gyfrol. Ffurfiwyd y Gangen yn 1930, a bu Iorwerth Peate yn Is-lywydd, a Nansi Peate yn Ysgrifennydd yn 1932.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Personau

Teipysgrif, 1982, yn cynnwys llungopïau o ysgrifau, o'r gyfrol Personau (Dinbych, 1982); ynghyd â llythyr, 1983, gan y cyhoeddwyr at Nansi Peate ynglŷn â'r gyfrol.

Personalia,

Personalia, 1928-2002, gan gynnwys adroddiadau ysgol, 1928-1931; tystysgrifau amrywiol; tystlythyrau ar gyfer ceisiadau swyddi, 1939-1941; copïau o lythyron a dderbyniodd ei brawd-yng-nghyfraith yn ei longyfarch ar ennill y Groes Filwrol, 1945; rhaglenni cyngherddau amrywiol, 1954-2000; ysgrifau coffa, 1959-1979; taflenni trefn gwasanethau angladdau ei mam, 1979, a Saunders Lewis, 1985; a phrint gan Llewelyn Petley-Jones. = Personalia, 1928-2002, including school reports, 1928-1931; various certificates; character references for job applications, 1939-1941; copies of letters to her brother-in-law congratulating him on being awarded the Military Cross, 1945; various concert programmes, 1954-2000; obituaries, 1959-1979; orders of service for the funerals of her mother, 1979, and Saunders Lewis, 1985; and a print by Llewelyn Petley-Jones.

Personalia,

Llyfr adroddiadau Harri Gwynn Jones tra'n ddisgybl yn Ysgol Sir y Bermo, 1924-1930, yn cynnwys tystysgrifau addysg, 1928 a 1930, a thystlythyrau, 1936-1948. Ceir hefyd ei gardiau aelodaeth i wahanol gymdeithasau yn y Brifysgol ym Mangor, 1934-1940; tystysgrifau am ennill mewn eisteddfodau i fyfyrwyr, 1931-1932, 1934, a'i bryddest fuddugol 'Y Wledd yng Ngwalas', Caerdydd, 1932; rhestr o'r myfyrwyr a ddewiswyd i fynychu cynhadledd ryngwladol yn Ffrainc yn 1935 gan gynnwys Harri Gwynn; gwahanlithoedd o'i erthygl 'The Llandudno copper mines in the eighteenth century', Bulletin of the Board of Celtic Studies, Tachwedd 1939; Journal of the Royal Society of Arts, Tachwedd 1939, yn cynnwys ei ddarlith 'The Charcoal-Iron Industry'; a 'Pwy ydoedd "Shon Gwialan"?', [Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1940].

Personalia

Papurau personol amrywiol, 1915-1961, yn cynnwys tystysgrifau Iorwerth Peate, 1915-1956; tystlythyrau iddo, 1925-1926; gwahoddiad i fynychu cyfarfod Prifysgol Genedlaethol Iwerddon i dderbyn gradd D. Litt. Celt. er anrhydedd, 1960, ynghyd â thorion o'r wasg; a phenillion ar achlysur cinio anrhegu Iorwerth Peate.

Personalia

Papurau personol, 1908-1968, gan gynnwys copi, 1910, o dystysgrif geni D. J. Williams, 26 Mehefin 1885, tystysgrifau eraill, 1909-1957, rhaglen, 1957, yn cynnwys anerchiad G. J. Williams yn y seremoni pan gyflwynwyd gradd Doethur mewn Llen er anrhydedd i D. J. Williams, ynghyd â llyfr cofnodi ei wasanaeth fel athro, 1908-1945. Hefyd ceir rhaglenni cyfarfodydd sefydlu gweinidogion gan gynnwys y Parchedigion E. Gwyndaf Evans, 1938, Lewis Valentine, 1947, D. J. Odwyn Jones, 1948, Islwyn Lake, 1963 a Rhydwen Williams, 1966; gwahoddiadau i briodasau; cyhoeddiadau genedigaethau; taflenni angladd, gan gynnwys D. Afan Thomas, 1928, Margaret Ann Miles, 1965 (chwaer D. J. Williams) a'r Parch. William Evans, ['Wil Ifan'], 1968; 'Penillion coffadwriaethol i'r diweddar Mr J[ohn] Evans, Cilycwm' gan 'Gwilym Myrddin' (buddugol yn Eisteddfod Tynewydd, Cilycwm, Ionawr 1934); rhaglenni ciniawau cymdeithasau amrywiol, [1938]-[1967], a rhaglenni cymdeithasau, 1938-1963, y bu'n aelod ohonynt neu'n darlithio iddynt. -- Ceir hefyd bapurau am ei ymweliad â Fienna yn 1923 (Ysgol Haf Hanes) a'r Almaen yn [1930]; cylchlythyrau a dderbyniodd dros gyfnod, [1918]-[1968], yn ymwneud â'i ddiddordebau amrywiol megis adroddiad ar 'The schools of Pembrokeshire and the Education Act, 1944' ac undebau athrawon; ynghyd â deunydd printiedig amrywiol, gan gynnwys rhaglen Medea, 1942, wedi'i llofnodi gan Sybil Thorndike.

Williams, G. J. (Griffith John)

Perfformiad o'r ddrama Blodeuwedd,

  • NLW Facs 1017.
  • file
  • 2007.

Llungopi o raglen y ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Chwaraewyr Garthewin ar gyfer Undeb Drama’r Gogledd yn [1948].

Results 701 to 720 of 3783