Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Consêt y Siri,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y Wiwer' gan T. Llew Jones i'r gainc 'Consêt y Siri' o drefniant Gaenor Hall.

Craig y pistyll,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Glofa'r Parlwr Du' gan Einion Evans, i'r alaw 'Craig y Pistyll' gan Elisabeth Jones.

Croeso'r gwanwyn,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Croeso'r Gwanwyn' gan Gilmor Griffiths ar gyfer lleisiau merched (S.A.), geiriau gan Morien Phillips.

Cwpanaid o de : a diferion eraill

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi cyfrol R. T. Jenkins, wedi'i dethol a'i golygu gan Emlyn Evans yn 1997, gan gynnwys rhaglen lansio'r gyfrol ym Mhrifysgol Bangor yn 1997.

Cwymp y dail,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi gydag ychwanegiadau, o 'Cwymp y dail', cân unsain cyfansoddwyd gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries.

Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC); mudiad CYD; Y Fforwm Iaith Genedlaethol; y Pwyllgor Datblygu Addysg Cymraeg; materion ariannol; Bwrdd yr Iaith Gymraeg; y Ddeddf Iaith; holiaduron; derbyniadau

Gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â datblygu gwasanaethau Canolfan Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys materion cyfreithiol (1988; 1992-1993); llyfrau derbyniadau (1987-1988); sefydliadau addysg (1991-1993), yn cynnwys y Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), mudiad CYD, Y Fforwm Iaith Genedlaethol, a’r Pwyllgor Datblygu Addysg Cymraeg; materion ariannol (1989-1993); Bwrdd yr Iaith Gymraeg, strategaeth, a’r Ddeddf Iaith (1989; 1992-1993); a sefydliadau arall amrywiol (1991-1993). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys holiaduron (1991-1992), a cherdiau Nadolig (1992).

Cyfansoddiadau

Cerddi a thraethodau buddugol ac anfuddugol a anfonodd T. Eirug Davies i’r Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys ‘Nifer o ganeuon byrion’, cydradd fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1921; pryddest ‘Y tannau coll’, Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1922; pryddest ‘Dafydd ap Gwilym’ a soned 'Henaint', Eisteddfod Genedlaethol Pontypŵl 1924; casgliad o farddoniaeth (y goron), Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926; a'i draethawd buddugol ‘Traethawd hanesyddol a beirniadol ar Ddiwinyddiaeth yng Nghymru o 1860 hyd heddyw’, Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926.

Cyfansoddiadau

Cyfansoddiad, Mehefin 1976, cyfansoddiad, Tachwedd 1995, gyda darpar newidiadau, Chwefror 1998, a chyfansoddiad drafft, Mai 2001.

Cyfansoddiadau cerddorol

Pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel (Tlws y cerddor ); emyn-dôn i eiriau Tecwyn Owen; cyfansoddiad ar gyfer ensemble jazz neu blues (GNC/1a); darn ar gyfer ensemble taro (3-6 offeryn); darn i ddeuawd offerynnol; darn ar gyfer côr ieuenctid SATB; a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng (i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed).

Results 221 to 240 of 1033