Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Nodiadau ieithyddol gan Robert Vaughan, Hengwrt,

  • NLW MS 23883D.
  • Ffeil
  • [1632x1667]

Copi o gyfrol John Davies, Mallwyd, Antiquae Linguae Britannicae...et Linguae Latinae, Dictionarium Duplex (Llundain: R. Young, 1632, STC 6347), gyda nodiadau helaeth, [1632x1667], yn llaw Robert Vaughan, Hengwrt, yn cynnwys yn bennaf eiriau (ff. 9-66 passim) a diarhebion (ff. 191-195 passim) Cymraeg ychwanegol. = A copy of John Davies of Mallwyd's Antiquae Linguae Britannicae...et Linguae Latinae, Dictionarium Duplex (London: R. Young, 1632, STC 6347), with extensive annotations, [1632x1667], in the hand of Robert Vaughan of Hengwrt, comprising mostly additional Welsh words (ff. 9-66 passim) and proverbs (ff. 191-195 passim).

Vaughan, Robert, 1592-1667

Nodiadau T. E. Ellis ar Morgan Llwyd

  • NLW MS 24073B
  • Ffeil
  • 1893, [c. 1897]

Copi personol Thomas [Edward] Ellis, wedi ei ryngddalennu, o Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Lerpwl: Isaac Foulkes, 1893), yn cynnwys nodiadau ac arnodiadau helaeth, yn Saesneg a Chymraeg, yn llaw Ellis, [c. 1897]. Ellis oedd golygydd cyfrol gyntaf Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), lle'r atgynhyrchwyd testun argraffiad cyntaf Llyfr y Tri Aderyn (1653) (tt. 151-266). = Thomas [Edward] Ellis's personal interleaved copy of Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Liverpool: Isaac Foulkes, 1893), containing copious notes and annotations, [c. 1897], by Ellis in English and Welsh. Ellis was the editor of the first volume of Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), in which was reproduced the text of the first edition of Llyfr y Tri Aderyn (1653) (pp. 151-266).
Mae'r gyfrol yn cynnwys mân arnodiadau ar y testun gwreiddiol gyda nodiadau ychwanegol ar y rhyngddalennau (ff. 28 verso-141 verso passim). Ceir nodiadau a dyfyniadau mwy sylweddol, ar bynciau megis y Rhyfel Cartref a'r Werinlywodraeth, Oliver Cromwell, John Milton, diwinyddiaeth Gatholig, y Bumed Frenhiniaeth a'r Piwritaniaid Cymreig, ar y dalennau ychwanegol ar gychwyn a diwedd y gyfrol (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), gan ddyfynnu amrywiaeth o ffynonellau. = The volume contains minor annotations to the original text with further notes supplied on the interleaves (ff. 28 verso-141 verso passim). More substantial notes and quotations, on subjects including the Civil War and Commonwealth, Oliver Cromwell, John Milton, Catholic theology, the Fifth Monarchy and the Welsh Puritans, have been written on the additional leaves at the beginning and end of the volume (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), quoting various sources.

Ellis, Thomas Edward, 1859-1899

Noel,

Llungopi o gyfansoddiad Gilmor Griffiths o 'Noel', geiriau Saunders Lewis. Trefnwyd ar gyfer unawd ar gyfer cyngerdd ysgol.

Non Nobis, Domine,

Copi sgôr 'Non Nobis, Domine' gan Roger Quilter, geiriau Rudyard Kipling wedi eu cyfieithu gan James Arnold Jones. Trefniant ar gyfer côr merched neu blant.

Nos Nadolig Yw,

Llungopi o sgôr 'Nos Nadolig Yw' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan H. D. Healy. Copi teipysgrif 'Iesu faban Mair' ar y cefn.

O dan yr hen lwyfen hardd,

Sgôr mewn llawysgrif o'r alaw Almaeneg, y trefniant S.A. gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries. Hefyd taflen geiriau i'r 'Y Gwcw', 'O dan yr hen lwyfen hardd', ac 'Edelweiss'.

'O Eifion i Arfon'

Cyfrol yn cynnwys torion, 1921, o golofn Cybi 'O Eifion i Arfon' yn Y Genedl Gymreig, yn ogystal ag ambell i ysgrif arall ganddo i'r wasg, 1918-1921 (ff. 1-27). = A volume containing pasted-in cuttings, 1921, of Cybi's column 'O Eifion i Arfon' in Y Genedl Gymreig, and a few other press contributions by him, 1918-1921 (ff. 1-27).
Defnyddiwyd y gyfrol yn wreiddiol fel llyfr ymarferion ysgol (Cymraeg a Saesneg) gan Harry Hughes, Llangybi, 1910-1911. = The volume was originally used as a school exercise book (Welsh and English) by Harry Hughes, Llangybi, 1910-1911.

Cybi.

Office World; Richer Sounds; Safeway; Sainsburys; H. Samuel; Tesco; Specsavers; Superdrug; Sport & Soccer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1989-2001, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg mewn nifer o siopau lleol ac archfarchnadoedd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1993-1996); cofnodion cyfarfodydd (1990-1991); a nifer fach o daflenni.

Canlyniadau 761 i 780 o 1033