Dangos 1388 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Non Nobis, Domine,

Copi sgôr 'Non Nobis, Domine' gan Roger Quilter, geiriau Rudyard Kipling wedi eu cyfieithu gan James Arnold Jones. Trefniant ar gyfer côr merched neu blant.

Nos Nadolig Yw,

Llungopi o sgôr 'Nos Nadolig Yw' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan H. D. Healy. Copi teipysgrif 'Iesu faban Mair' ar y cefn.

O baradwys ddibryder ..

Llungopi o nodyn (neu, o bosib, ran o lythyr) oddi wrth 'Hefin' at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys copi o englyn gan Waldo Williams sy'n cychwyn 'O baradwys ddibryder ...'. Crybwyllir yn y nodyn y gwas ffarm a'r gwrthwynebwr cydwybodol Percy Ogwen Jones, ynghyd a'i fab, Geraint Percy Jones.

O dan yr hen lwyfen hardd,

Sgôr mewn llawysgrif o'r alaw Almaeneg, y trefniant S.A. gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries. Hefyd taflen geiriau i'r 'Y Gwcw', 'O dan yr hen lwyfen hardd', ac 'Edelweiss'.

'O Eifion i Arfon'

Cyfrol yn cynnwys torion, 1921, o golofn Cybi 'O Eifion i Arfon' yn Y Genedl Gymreig, yn ogystal ag ambell i ysgrif arall ganddo i'r wasg, 1918-1921 (ff. 1-27). = A volume containing pasted-in cuttings, 1921, of Cybi's column 'O Eifion i Arfon' in Y Genedl Gymreig, and a few other press contributions by him, 1918-1921 (ff. 1-27).
Defnyddiwyd y gyfrol yn wreiddiol fel llyfr ymarferion ysgol (Cymraeg a Saesneg) gan Harry Hughes, Llangybi, 1910-1911. = The volume was originally used as a school exercise book (Welsh and English) by Harry Hughes, Llangybi, 1910-1911.

Cybi.

Oes y Seintiau/Molawd Penfro

Copïau teipysgrif o dair cerdd gan Waldo Williams dan y teitl Oes y Seintiau, sef 'Cân I' a 'Chân II' ac 'Ymddiddan rhwng Dewi, Teilo a Cholman', ynghyd â sgôr gerddorol mewn llawysgrif ar gyfer deulais a phiano yn dwyn y teitl 'Molawd Penfro', y geiriau gan Waldo a'r gosodiad cerddorol gan Gerallt Evans. Lluniodd Waldo 'Cân I', 'Cân II' ac 'Ymddiddan rhwng Dewi, Teilo a Cholman' ar gyfer 'Molawd Penfro', sef pasiant adrannau ac aelwydydd yr Urdd Sir Benfro a oedd i'w pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abergwaun 1951.

Office World; Richer Sounds; Safeway; Sainsburys; H. Samuel; Tesco; Specsavers; Superdrug; Sport & Soccer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1989-2001, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg mewn nifer o siopau lleol ac archfarchnadoedd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1993-1996); cofnodion cyfarfodydd (1990-1991); a nifer fach o daflenni.

Paham yr wyf yn Grynwr

Pamffledyn printiedig yn dwyn y teitl Paham yr wyf yn Grynwr gan Waldo Williams. Darlledwyd y cynnwys yn wreiddiol mewn sgwrs radio ar y 15fed o Orffennaf 1956 ac yna ei gyhoeddi ym mhapur newydd Seren Cymru ar 25 o Fehefin 1971. Ymunodd Waldo Williams â'r Crynwyr yn ystod y 1950au, gan fynychu eu tŷ cwrdd yn Aberdaugleddau.

Canlyniadau 1021 i 1040 o 1388