Showing 2 results

Archival description
Humfrey, Belinda Welsh
Print preview View:

Erthyglau a sgriptiau Saesneg

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf, ynghyd â rhai drafftiau llawysgrif a chopïau printiedig, o erthyglau a sgriptiau Saesneg gan Carys Richards, 1957-[2001] (gydag amryw fylchau). Maent yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau; yn eu plith mae adolygiadau o arddangosfeydd celf; ei hatgofion am Olga Rudge, a gyhoeddwyd yn y New Welsh Review, 1990, a Phyllis Playter, a gyhoeddwyd yn The Powys Review, 1991; ac erthygl ganddi, 1999, yn adrodd atgofion Ian Tibbs, cyd-swyddog Alun Lewis yn y fyddin. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau perthnasol, yn eu plith rhai gan Evelyn Silber (2), Belinda Humfrey (3), Robin Reeves a Robert Minhinnick, a drafftiau o lythyrau gan Carys Bell.

Silber, Evelyn,

Llythyrau H-I

Llythyrau, 1920-1982, gan gynnwys rhai oddi wrth Marie Hartley a Joan Ingilby (2); Edward G. Hartmann; Rhisiart Hincks; Christina Hole (3, yn cynnwys teipysgrif o erthygl gan Iorwerth Peate, 'A strange tale', ar gyfer y cylchgrawn Folklore); Cledwyn Hughes (7); D. R. Hughes (24); Gwilym Rees Hughes (4); H. Harold Hughes (3); J. R. Lloyd Hughes; Mathonwy Hughes (3); Belinda Humfrey (2); E. Morgan Humphreys (2); Harold A. Hyde (3, yn cynnwys copïau o'i curriculum vitae); a Dafydd Iwan.

Hartley, Marie