Showing 4 results

Archival description
Davies, D. Jacob (David Jacob), 1916-1974 Welsh
Print preview View:

Llythyrau

Llythyrau, [1949]-[1963], gan gynnwys rhai oddi wrth y Fonesig Amy Parry-Williams, Brynallt (3), Mam o Nedd, Cynan, Telynores Rhondda (2), Caerwyn (3), J. Dyfnallt Owen, Trefîn (2), Syr John Cecil-Williams, D. Jacob Davies, Clement Davies, Gwilym R. Tilsley; ynghyd â mân bapurau gan gynnwys taflen, 1931, yn hysbysebu cyhoeddi llyfr Erfyl Fychan, Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif a 'Serch ifanc a huna' sef cyfieithiad Erfyl Fychan o eiriau Arthur Somerverell 'Young love lies sleeping', Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 (printiedig).

Parry-Williams, Amy, Lady, 1910-1988

Llythyrau a drafftiau

44 llythyr a drafftiau o 58 cerdd, 5 erthygl, 3 ysgrif, 2 stori fer ac un drama, 1925-1944, yn cynnwys cyfraniadau gan T. Rowland Hughes, 1942, R. T. Jenkins, 1943, D. Miall Edwards, 1935, G. J. Roberts, 1944, B. T. Hopkins, 1927, H. Meurig Evans, 1936, H. D. Lewis, 1936, L. Haydn Lewis, 1938, Meurig Walters, 1938, Waldo Williams, 1939, T. I. Ellis, 1940, J. T. Jones, 1938, D. Tecwyn Lloyd, 1940, T. E. Nicholas, 1941, Alun T. Lewis, 1941, D. Jacob Davies, 1941, J. M. Edwards, 1940, E. Tegla Davies, 1925. Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd restr 'Barddoniaeth' rhwng 1927 ac 1941, ond ni restrir rhan helaeth o'r ffeil ynddo.

Hughes, Thomas Rowland

Llythyrau amrywiol: 1922-1980

Llythyrau, 1922-1980, gan gynnwys rhai oddi wrth J. E. Daniel (2); Alun Oldfield-Davies (2); Aneirin Talfan Davies (12); Clement Davies (2); D. Jacob Davies (2); E. Tegla Davies (23, cyfeirir un at Dafydd); George M. Ll. Davies (19); J. Breese Davies (4); J. Glyn Davies (2); Leonard Twiston Davies (6); Nan Davies; R. H. Davies; Rhys J. Davies (2); William Ll. Davies; Myles Dillon; ac A. H. Dodd (4).

Swyddi Iorwerth Peate

Llythyrau yn bennaf, 1947-1948, yn ymwneud â chais Iorwerth Peate am swydd Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â sylwadau yn y wasg ynglŷn â'r hysbyseb am y swydd a'r apwyntiad, ffurflen gais Iorwerth Peate a llyfryddiaeth o'i gyhoeddiadau. Yn ogystal ceir papurau, 1948, yn trafod cynllun i wahanu'r amgueddfa werin oddi wrth yr Amgueddfa Genedlaethol, a phenodiad Iorwerth Peate yn Geidwad Amgueddfa Werin Cymru; a gweinyddiaeth yr Amgueddfa Werin, 1952-1953. Ceir llythyrau gan Cyril Fox (13); Idris Bell; Thomas Jones; T. K. Penniman; Goronwy O. Roberts (6); Thomas Parry (2); Stephen J. Williams; Huw T. Edwards (3); William Rees; a D. Jacob Davies. -- Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau yn ymwneud â chynllun pensiwn a chyflog Iorwerth Peate, 1930, 1934 a 1941-1943; llythyrau, 1932-1933 a 1937, yn ymdrin â safiad gwleidyddol Iorwerth Peate, yn eu plith sylwadau Cyril Fox ar ei gyfweliad ar gyfer swydd Cyfarwyddwr yn yr Amgueddfa Genedlaethol; a thorion o'r wasg, 1937, yn trafod helynt Eisteddfod Machynlleth pan ymddiswyddodd Iorwerth Peate ynghyd â rhai o'r beirniaid eraill.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879