Un amlen wreiddiol ac eitemau rhydd a gasglwyd ynghyd wrth drefnu'r archif o eitemau a gasglwyd gan T. Ifor Rees yn ystod ei gyfnod ym Mecsico, gan gynnwys torion o'r wasg; ysgrifau'n dwyn y teitlau 'Excursion a la presa de Becerra', 'Excursion al parque Nacional de las fuentes brotan tes tlalpan, D. F. Mexico' gan Raúl Lozano Garcia (2 gopi), a 'Resena geologia del Distrito Federal' gan Sefydliad Daeareg, Prifysgol Genedlaethol Mecsico; adroddiad ar weithgarwch y British Community War Charities Committee (Rhagfyr 1945), ynghyd â Bwletin (Hydref 1945); cylchlythyr "El Excursionista: Organ del Club Citlaltepetl" Medi 1948 (Rhifyn 260); a mapiau.
Papurau a nodiadau yn ymwneud â bathu geiriau a thermau, ynghyd â nodiadau am waith cyfieithu. Ceir rhestrau geiriau a thermau Urdd y Graddedigion / adrannau Prifysgol Cymru ar gyfer amaethyddiaeth; ffiseg, mathemateg a seryddiaeth; a choginio ymhlith y papurau.
Effemera personol T. Ifor Rees, yn cynnwys trwyddedau teithio (passports); llyfrau cyfeiriadau; tystysgrif aelodaeth The National Geographic Society (1917); tystysgrif diploma oddi wrth Sociedad Geografica Americana Gran Concurso Fotografico (1941); a chalendr ar gyfer 1946 a ddefnyddiwyd fel dyddlyfr ar gyfer mis Mai. Ceir hefyd cywydd gan Dewi Morgan, Aberystwyth ar achlysur priodas T. Ifor Rees ac Elizabeth Phillips (1918).
Sgrôl Federación Sionista De Chile o Meguilath Ester [Llyfr Esther], wedi'i ysgrifennu yn yr Hebraeg a'r Sbaeneg, [1943], ynghyd â llythyr yn cyflwyno'r sgrôl i T. Ifor Rees oddi wrth Natan Bistritzky, Jerwsalem, Hydref 1944.
Mae'r bocs yn cynnwys casgliad o Freintlythyrau [Letters patent], tystysgrifau a llythyrau cymeradwyaeth T. Ifor Rees sy'n cwmpasu ei yrfa ddiplomyddol, sy'n cynnwys ei benodiad cyntaf fel Is-gonswl Feneswela yn 1914 hyd at ei benodiad yn Llysgennad yn La Paz yn 1947.
Llyfrau ysgrifennu T. Ifor Rees fel disgybl yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth a myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, sy'n cynnwys nodiadau ar gyfer Cymraeg, Lladin, Groeg, Hanes, Ffiloleg ac Athroniaeth. Ceir hefyd papurau arholiadau'r Coleg a chopi o restr llwyddiannau arholiadau gradd Prifysgol Cymru am 1908. Graddiodd gydag Anrhydedd yn y Gymraeg yn 1910.
Un amlen wreiddiol yn cynnwys copïau o weithiau Timothy Lewis (1877-1958), wedi'u llofnodi a'u cyfarch yn bersonol i T. Ifor Rees, gan gynnwys copïau o 'Aberystwyth Revisions'.
Drafftiau teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'In and around the valley of Mexico', ynghyd â chopïau o 'Power's Guide to Mexico ar gyfer 1940 a 1941-2.
Dwy amlen wreiddiol, un yn dwyn y teitl 'Defnyddiau Gwyddor Gwlad' yn cynnwys nodiadau, llythyrau a drafftiau gan T. Ifor Rees am y felin ddŵr; teipysgrif o 'Problem y ffermwr bychan' gan D. S. Downey, sef trosiad E. T. Griffiths gyda chywiriadau mewn llawysgrifen; copiau o rifynnau 2 a 3 (Ionawr 1962 a Mai 1962) o 'Hafod a Hendre'; llyfryn 'Gwasanaethau Banc y Midland i Ffermwyr' (1960); a rhestr o enwau Lladin, Saesneg a Chymraeg ar gyfer Pteridophyta; a'r amlen arall yn dwyn y teitl 'Gwyddor Gwlad' yn cynnwys drafftiau o 'Y Bugail a'r Coedwigwr' gan Dr Richard Phillips.
Drafftiau teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o drosiad Gwenda Thompson a T. Ifor Rees o'r Ffrangeg o'r nofel 'Derborence' o waith C. F. Ramuz, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â chyhoeddi'r gwaith.