Dangos 581 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil Saesneg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Pregethau Cymraeg,

  • NLW ex 2373.
  • ffeil
  • 1841, 1869-1877.

Chwe chyfrol o bregethau Cymraeg mewn llawysgrif, 1869-1877, gan Enoch Williams, Gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a phregethau angladdol gan D. R. Williams, 1841.

Williams, Enoch, Llansamlet.

Papurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y Wladfa

  • NLW ex 2331
  • ffeil
  • 1965

Papurau a gasglwyd ynghyd gan y diweddar Miss Catherine (Katie) Richards ar ôl ymweliad â'r Ariannin i ddathlu canmlwyddiant y Wladfa ym 1965. Mae'r papurau yn cynnwys rhaglenni gweithgareddau dathlu, torion o'r wasg, rhestr o aelodau Undeb Cymry Ariannin, yn ogystal â rhai cardiau post a ffotograffau yn ymwneud â'r achlysur.

Papurau'n ymwneud ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth

  • NLW ex 2044
  • ffeil
  • 1939-1946

Papurau, 1939-46, yn ymdrin ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd yn 1939, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn ymwneud yn bennaf â chynnal yr ysgol yn ariannol; cylchlythyrau a chofnodion cyfarfodydd llywodraethwyr yr ysgol, 1944-6; a llyfrynnau printiedig yn ymwneud â'r ysgol.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970

Neuadd Goffa Owain Glyndŵr : : Papurau,

  • NLW MS 17403D.
  • ffeil
  • [1914x1952].

Llythyrau, 1914-1933, at Ellis D. Jones, yn bennaf yn ymwneud â sefydlu Neuadd Goffa Owain Glyndŵr yng Nglyndyfrdwy, 1931-1932, y gohebwyr yn cynnwys T. E. Ellis (3), T. Gwynn Jones (3) a Syr John Edward Lloyd (2), ynghŷd â llythyrau eraill, 1936-1952, rhai ohonynt wedi'u cyfeirio at Syr Alfred Thomas Davies a'r gohebwyr yn cynnwys Syr John Ballinger (1) a W. Ambrose Bebb (3); ac eitemau amrywiol sy'n cynnwys cynllun, 1932, ar gyfer plannu planhigion ar dir Neuadd Goffa Owain Glyndŵr, llyfr lloffion yn ymwneud yn bennaf â'r Neuadd Goffa, a nodiadau yn ymwneud ag Owain Glyndŵr, ac â threfn gwasanaeth sefydlu'r Neuadd Goffa, 5 Medi 1931 = Letters, 1914-1933, to Ellis D. Jones, mainly relating to the establishment of the Owain Glyndŵr Memorial Hall in Glyndyfrdwy, 1931-1932, the correspondents including T. E. Ellis (3), T. Gwynn Jones (3) and Sir John Edward Lloyd (2), together with other letters, 1936-1952, some of which are addressed to Sir Alfred Thomas Davies, the correspondents including Sir John Ballinger (1) and W. Ambrose Bebb (3); and miscellaneous items which include a proposed 'planting plan', 1932, for the Owain Glyndŵr Memorial Hall grounds, a scrap book mainly relating to the Memorial Hall, and notes relating to Owain Glyndŵr, and to the order of service at the establishment of the Memorial Hall, 5 September 1931.

Hunangofiant y Parch. W. E. Penllyn Jones,

  • NLW MS 16713A.
  • ffeil
  • [1871x1883].

Llyfr nodiadau yn dwyn hunangofiant (anorffenedig) gan ac yn llaw y Parchedig W. E. Penllyn Jones, Hen Golwyn yn dwyn y teitl 'Braslun o hanes fy mywyd'. Mae'r gyfrol hefyd yn cynwys tudalennau rhydd sy'n dwyn nodiadau ynghylch cyfarfodydd crefyddol, nodyn parthed dechrau gweinidogaethu yn Hen Golwyn ym Mehefin 1880, nodiadau pregethau, hanes ei urddo, aayb; hefyd, tudalennau rhydd o ddyddiaduron 1871 a 1883 yn dwyn nodiadau parthed dechreu pregethu yn Llanuwchllyn ym 1875, cyfarfodydd crefyddol, testunau pregethau, aayb, a nodiadau ynghylch taith bregethu yn UDA yn ystod 1883 = A notebook containing an incomplete autograph autobiography by the Reverend W. E. Penllyn Jones, Old Colwyn entitled 'Braslun o hanes fy mywyd'. The volume also includes loose pages containing notes relating to religious meetings, a note relating to beginning his ministry at Old Colwyn in June 1880, texts of sermons, an account of his ordination, etc.; also, loose pages from diaries of 1871 and 1883 containing notes relating to beginning his preaching career in Llanuwchllyn in 1875, memoranda relating to religious meetings, texts of sermons, etc., and notes relating to a preaching tour of the USA undertaken during 1883.

Jones, W. E. (William Evans), 1854-1938.

'Yr Aipht' : : Pryddest,

  • NLW MS 16674D.
  • ffeil
  • [1884x1898] /

Pryddest yn dwyn y teitl 'Yr Aipht' gan ac yn llaw Edward Ffoulkes, sef yr ymgais fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1884, ynghyd â drafftiau o'r un gwaith a thystysgrif enillydd; llythyr, dyddiedig 12 Ebrill 1885, oddi wrth Edward Ffoulkes at Alfred, Arglwydd Tennyson, ynghyd ag ateb Tennyson, dyddiedig 15 Ebrill 1885, a llythyr, dyddiedig 17 Hydref 1885, oddi wrth y Parch. Henry Griffith, Ventnor, Ynys Wyth at Edward Ffoulkes, ynghyd ag ateb Ffoulkes, dyddiedig 24 Hydref 1885; anerchiadau yn llaw Edward Ffoulkes ar '[William] Wordsworth' (i'w draddodi yng Nghymdeithas Lenyddol Moriah, Caernarfon, d.d.), ar 'Eben Fardd' [Ebenezer Thomas] (i'w draddodi yng Nghymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl, 10 Chwefror 1891, ynghyd â thoriad o'r Cymro, dyddiedig 5 Chwefror 1891, yn cyfeirio at y digwyddiad), ac ar 'Dadblygiad' (i'w draddodi yng Nghymdeithas Lenyddol Capel Coch, Llanberis, 26 Ionawr 1898) = An autograph pryddest entitled 'Yr Aipht' by Edward Ffoulkes, the winning entry in the National Eisteddfod held at Liverpool, 1884, together with rought drafts of the same work and a winner's certificate; a letter, dated 12 April 1885, from Edward Ffoulkes to Alfred, Lord Tennyson, together with Tennyson's reply, dated 15 April 1885, and a letter, dated 17 October 1885, from the Rev. Henry Griffith, Ventnor, Isle of Wight, to Edward Ffoulkes, together with Ffoulkes's reply, dated 24 October 1885; addresses in the hand of Edward Ffoulkes on '[William] Wordsworth' (to be delivered at Moriah Literary Society, Caernarfon, n.d.), on 'Eben Fardd' [Ebenezer Thomas] (to be delivered at the Liverpool Welsh National Society, 10 February 1891, together with a cutting from Y Cymro dated 5 February 1891, relating to the event), and on 'Dadblygiad' ['Development'] (to be delivered at Capel Coch Literary Society, Llanberis, 26 January 1898).
Ceir cyfeiriadau at Edward Dowden (ff. 59-60), William Angus Knight ((f. 61 recto-verso) ac eraill = There are references to Edward Dowden (ff. 59-60), William Angus Knight (f. 61 recto-verso) and others.

Foulkes, Edward, 1850-1917

Pregethau'r Parch. William Harris, Heolyfelin,

  • NLW MS 16266B.
  • ffeil
  • [?19 gan., hwyr] /

Llyfr nodiadau (ff. i, 1-97) a dalennau heb eu rhwymo (ff. 98-140) yn cynnwys pum pregeth, [?19 gan., hwyr], ar y Testament Newydd yn llaw'r Parch. William Harris, gweinidog capel y Bedyddwyr Heolyfelin, Aberdâr, Morgannwg. = A notebook (ff. i, 1-97) and unbound leaves (ff. 98-140) containing five autograph sermons on the New Testament, [?late 19 cent.], by the Rev. William Harris, minister of Heolyfelin Baptist Church, Aberdare, Glamorgan.

Harris, W. (William), 1830-1911.

Cofnodion Cymdeithas y Ddraig Goch, Manceinion,

  • NLW ex 2509.
  • ffeil
  • 1928-1964.

Llyfrau cofnodion Cymdeithas y Ddraig Goch, Manceinion, o’r dechrau yn 1928 hyd at 1937, o 1944-1948, a 1957-1964, a hefyd llyfr y trysorydd, 1956-1960. = Minute books of 'Cymdeithas y Ddraig Goch, Manceinion a’r Cylch' (Manchester Red Dragon Society), from its establishment in 1928 until 1937, from 1944-1948 and 1957-1964, and also the treasurer’s book, 1956-1960.

Cymdeithas y Ddraig Goch, Manceinion.

Canlyniadau 1 i 20 o 581