Showing 581 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file English
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1965

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenallt, Bobi Jones, Alun Talfan Davies, John Gwilym Jones, Kate Roberts, Bedwyr Lewis Jones, Gwyn Thomas, Rhiannon Davies Jones, Alun Jones, Y Cilie, Gareth Miles a G. J. Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1969

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenlyn Parry, Dic Jones, Tecwyn Lloyd, Islwyn Ffowc Elis, Rowland Mathias a Meic Stephens. Ceir cyfeiriadau at sefydlu Cymdeithas Awduron Cymru ac Adran Saesneg yr Academi Gymreig.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1970

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas, gan gynnwys trefniadau Cynhadledd Taliesin, Cyfarfod Coffa D. J. Williams a'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer Cyfres Cyfieithiadau'r Academi. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1971-1974

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas a John Rowlands. Ceir cyfeiriadau at drefniadau Cynhadledd Taliesin, at berthynas yr Adran Gymraeg a'r Adran Saesneg, at y trefniadau ar gyfer penodi ysgrifennydd cyflogedig cyntaf Adran Gymraeg yr Academi ac at gyfraniad yr Academi i'r ymgyrch ddarlledu. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus ac at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Owain Owain, yn 1971, am ei gyfrol Bara Brith ac i Einir Jones, yn 1972, am ei chyfrol Pigo Crachan.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1974-1976

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, gan gynnwys llawer o ohebiaeth ynglŷn â materion ariannol a'r newidiadau cyfansoddiadol oedd yn yr arfaeth. Ceir cyfeiriadau at gyhoeddi Taliesin ac at y cais i ennill Gwobr Nobel i Saunders Lewis yn ogystal â chyfeiriadau at dderbyn Geraint Gruffydd a Wil Sam yn aelodau o'r Academi.

Gohebiaeth gyffredinol: 1978

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, ynghyd â phapurau rhai o'r pwyllgorau, yn trafod, ymysg pethau eraill, cychwyn y gwaith ar y Cydymaith i lenyddiaeth Gymraeg a chyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Dafydd Rowlands am Mae Theomemphus yn hen ac i Aled Islwyn am Lleuwen.

Rowlands, Dafydd

Results 1 to 20 of 581