- 2.
- Ffeil
- 1884, Hydref 4.
[?]84 St. Helen's Road, Swansea. Ymgais i gyfiawnhau gwobrwyo sonata gan Haydn Parry mewn eisteddfod yn wyneb cyhuddiad o lwgrwobrwyo. Saesneg.
[?]84 St. Helen's Road, Swansea. Ymgais i gyfiawnhau gwobrwyo sonata gan Haydn Parry mewn eisteddfod yn wyneb cyhuddiad o lwgrwobrwyo. Saesneg.
Ac Mi a Glywais Lef!, Datguddiad XXI, adnod 3, a Deuwch Ataf Fi, Mathew XI, adnodau 28-30, dwy gytgan a enillodd wobr yn eisteddfod gadeiriol Llanberis, 1879.
Anthem angladdol (Requiem) y diweddar O. Ambrose Lloyd, i gerddorfa fechan a lleisiau, a ddanfonwyd i gystadleuaeth yn eisteddfod gadeiriol Deheudir Cymru, Sulgwyn 1875, ff. 1-8 [anghyflawn]. Cynhwysir hefyd bum copi o rannau o'r anthem yn cynnwys newidiadau a chywiriadau, ff. 9-26 [gweler 140]. Ar gefn un o'r copiau, f. 21, ceir bariau cyntaf 'Gweledigaeth yr Esgyrn Sychion' wedi eu croesi allan. [gweler 137].
Anthem angladdol (Requiem) y diweddar [Robert Rees,] 'Eos Morlais', [gweler 83 ac 191] a gyfansoddwyd ar gyfer eisteddfod Dowlais, 5 Rhagfyr, 1892, geiriau gan [Evan Rees,] 'Dyfed'. [gweler 79-81].
Awelon y boreu, i bedwar llais, geiriau gan 'Darwenog', buddugol yn Eisteddfod Defynnog, Gorffennaf,
Awelon y boreu, i bedwar llais, geiriau gan 'Darwenog', buddugol yn Eisteddfod Defynnog, Gorffennaf 1870.
Brandon, Thomas, Stonehouse, Gloucester. Nodi telerau canu mewn cyngerdd. Saesneg,
Bu Medd'dod Cas, canig (glec) i bedwar llais at wasanaeth y Temlwyr Da, geiriau gan [Richard Davies,] 'Mynyddog' [gweler 25, 28, 185 ac 194] buddugol yn Eisteddfod [Genedlaethol ?] Bangor, 1874. Ar y cefn, ceir emyn-dôn a ddanfonwyd i eisteddfod Ponthenry, Awst 31ain, 1874, yn ogystal â phennill o'r gerdd 'Mis y Mel' [gan ?].
Bugail Israel, rhangan gysegredig, geiriau gan Morris Davies, Bangor, a O Blentyn y Nefoedd, geiriau'r Parch. Samuel Roberts, 1885.
Chwech o Ran-ganeuon deulais a gyfansoddwyd gogyfer a chystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1895, sef Bythod Cymru, Gall Plentyn Ddweyd Fod Duw, Y Plentyn a'r Frongoch, Hen Iaith Fy Mam, Y Gwir ac Yn Ufydd.
Coleman, D. E., Mountain Ash. Cais am ddanfon copi o'r Requiem a gyfansoddwyd gan y derbynnydd, a datgan pleser wrth glywed am lwyddiant perfformiad o gantata'r derbynnydd. Saesneg.
Coleman, D. E., Mountain Ash. Cyfeiriad at ddiddordeb Arglwydd Aberdar yng nghyfansoddiadau'r derbynnydd, ac at berfformiadau o Y Gwlithyn gan barti canu'r gohebydd. Saesneg.
Copi arall o Ffarwel [gweler 206], dau drefniant yr un o'r alawon Cymreig Ar Hyd y Nos a Hela'r Ysgyfarnog [gweler 207], emyn Caru'r Iesu, geiriau'r Parch. T. Levi, bariau cyntaf Yr Hen Awelon, sef cân i gontralto, ac anthem Pwy a Esgyn i Fynydd yr Arglwydd?.