Print preview Close

Showing 3783 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Gweisg preifat

Papurau printiedig, 1928-1962, sef prosbectysau, 1929-1940, ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan Wasg Gregynog yn bennaf. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys prosbectws yn disgrifio amcanion a rhaglen y Tintern Press, ynghyd â llythyr gan Vincent Graham Stuart, 1935; prosbectws ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan y Raven Press, 1931; a phrintiau amrywiol.

Stuart, Vincent Graham.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1826, [?1843] a [1899]-[1982], sy'n adlewyrchu diddordebau Iorwerth Peate yn bennaf. Crynhowyd hwy gan Iorwerth Peate ac o bosib gan aelodau eraill o'r teulu. Yn eu plith ceir rhestr o lyfrau gan Samuel Roberts Llanbryn-mair; torion o'r wasg, yn cynnwys llythyrau at Olygydd Y Dydd, 1930, gan Bob Owen ac eraill ynglŷn â 'Mary Jones a'r Beibl'; adroddiad The Fellowship of Reconciliation, 1953-1954; papurau yn ymwneud â'r International Society for Folk-narrative Research a'r Encyclopädie des Märchens, 1972-1973; teipysgrif erthygl, gyda lluniau, am bensaernïaeth wledig yn Ffrainc; ffotograff a thorion o'r wasg, 1911, ynglŷn ag anrhegu Dr Edwards, Llanbrynmair; trefn gwasanaeth angladdol Frank Price Jones, 1975; nodiadau pregeth yn llaw John Elias, 1826; a chopi o'r gyfrol Gwaith Aristotle, yr enwog philosophydd ... (Llanrwst, [1843?]), o lyfrgell Iorwerth Peate.

Owen, Bob, 1885-1962

Dyddiadur : 1875

Dau ddyddiadur, 1875, sef Dyddiadur yr Annibynwyr a Blackwood's Shilling Scribbling Diary. Mae rhai tudalennau ar goll o'r un gyntaf.

Cyfrifon (dyddlyfr) : 1867-1900

Dyddlyfr a ymddengys ei fod yn perthyn i David Peate ac un o'i feibion, George H. Peate o bosib. Mae'n cynnwys cyfrifon, 1867-1879 a 1896-1900, ac yn eu plith ceir manylion am rhenti a gasglwyd.

Llythyrau at David Peate

Llythyrau, 1875-1896, at David Peate, yn cynnwys pum llythyr, 1880 a 1896, oddi wrth ei fab Alexander yn Llundain; a saith llythyr, 1875-1895, gan Thomas Gee (Gee a'i Fab). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys pedwar llythyr gan Samuel Roberts, 1855 a 1878; nid yw'n eglur at bwy y cyfeiriwyd hwy, ymddengys fod un ohonynt o leiaf wedi'i gyfeirio at John Breese, Brynderwen. Yn ogystal, ceir un llythyr at Mary Peate, 1896, yn cydymdeimlo ar farwolaeth ei gŵr.

Gee, Thomas, 1815-1898

Nodiadau

Llyfrau nodiadau yn cynnwys 'Extracts from the Old Chapel Church Register' yn ymwneud â'i deulu, ynghyd â 'Dyfyniadau o Ddyddlyfrau David [a Morris] Peate', 1847-1849; a thorion o erthyglau gan George H. Peate, 'Hanes yr Eglwys Annibynol yn Llanbrynmair', 1913, ac 'Addoli Mewn Coedwig ac Ogof', 1934. Yn ogystal, ceir llawysgrif o draethawd ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Y Pandy, Llanbrynmair, 1884, 'Y Niwed o Esgeuluso yr Ysgol Sabbothol' gan 'Un o'i phlant'; a'r ymryson 'A ddylai Cymru gael Ymreolaeth?' gan Nacaol, a ddarllenwyd yng nghyfarfod Cymdeithas Lenyddol Capel Charing Cross Road, 1888. Amgaeëir hefyd feirniadaeth, 1896, ar gyfer cystadleuaeth traethawd ar y testun 'Bywyd Defnyddiol' lle bu 'Disgybl' (George H. Peate) yn fuddugol; adroddiad Diaconiaid yr Hen Gapel, Llanbrynmair, 1906, ynglŷn â'u gweinidog; a thoriad o'r Tyst, 1930, yn cynnwys erthygl 'Stori Cae'r Fendith' gan George H. Peate.

Tystlythyrau

Tystlythyrau, 1923 a 1927, gan T. H. Parry-Williams a T. Gwynn Jones.

Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975

Llythyrau cydymdeimlad,

Llythyrau cydymdeimlad, 1985, a anfonwyd at deulu Harri Gwynn, gan gynnwys rhai oddi wrth Glyn Ashton, Teleri [Bevan], Marged Dafydd, Eirian Davies, Islwyn Ffowc [Elis], Mari [Ellis], Gwynfor Evans, Mered[ydd Evans], R. Geraint Gruffydd, D. G. Lloyd Hughes, Dafydd Islwyn, A. O. H. Jarman, Gwilym R. [Jones], Harri Pritchard Jones, John [Gwilym Jones], R. Gerallt Jones, D. Tecwyn Lloyd, Alan Llwyd, Emyr Price, Selyf [Roberts], Gwyn [Thomas] a Gwilym Tilsley. Ceir hefyd restr o'r rhai a anfonodd lythyr neu gerdyn cydymdeimlad.

Ashton, Glyn M

Results 3761 to 3780 of 3783