Showing 556 results

Archival description
series Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Cofnodion ariannol,

Cofnodion ariannol yn cynnwys cyfraniadau chwarterol, 1860; cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1923-1970; y cyfarfodydd blynyddol (Y Pasg), 1918-1967; llyfr banc cynilo, 1925-1931; derbyniadau a thaliadau, 1909-1916; llyfr y Trysorydd, 1917-1931; casgliad y Genhadaeth Dramor, 1931-1957, a llyfr yr Eisteddleoedd, 1934-1960.

Papurau amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr cofnodion Temlwyr Glanrhyddallt, 1895-1896; a ffolder o lythyrau a phapurau'n ymwneud yn bennaf ag Ysgol Bryneryr, Llanrug, 1790-1911.

Llyfrau casgliad y weinidogaeth,

Llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1927-1966, yn cynnwys enwau, cyfeiriad, a’r swm a roddwyd gan yr aelodau; a llyfr y trysorydd, 1941-1975, yn cynnwys derbyniadau (casgliadau'r weinidogaeth) gan yr aelodau a’r gynulleidfa, a thaliadau i’r gweinidogion a’u henwau.

Teyrngedau i Glasnant

Papurau yn ymwneud yn bennaf ag ymddeoliad y Parch. W. Glasnant Jones, 1941, a'i farwolaeth yn 1951, gan gynnwys rhaglen gwasanaeth dadorchuddio maen coffa, 1965.

Papurau personol,

Papurau personol, 1928-2002, yn cynnwys personalia, 1928-2002; cynllun pensaernïol Canolfan Treftadaeth Y Crynwyr, Dolgellau, 1987; a dyddiadur, 2001. = Personal papers, 1928-2002, comprising personalia, 1928-2002; architectural plans for the Quaker Heritage Centre, Dolgellau, 1987; and a diary, 2001.

Results 1 to 20 of 556