Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1790, 1833-1976 (Creation)
Level of description
fonds
Extent and medium
0.018 metrau ciwbig (2 focs)
Context area
Name of creator
Administrative history
Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1798. Yna yn 1822 adeiladwyd ail gapel. Cynyddodd poblogaeth ardal Llanrug, ac yn sgîl diwygiad 1839-1840 cynyddodd aelodaeth y capel. Penderfynwyd felly adeiladu trydydd capel. Agorwyd hwn yn 1842. Erbyn 1868 roedd pedwerydd capel wedi ei godi.
Roedd gan yr eglwys ran hefyd mewn adeiladu'r ysgoldy a adeiladwyd yn 1863. Roedd yn rhaid benthyg swm sylweddol o arian i'w hadeiladu ac fe gymerodd capel Llanrug gyfrifoldeb am y benthyciad. Wedi pasio'r ddeddf i ffurfio byrddau ysgol yn 1870, trosglwyddwyd yr ysgol i'r Bwrdd yn 1872. O hynny ymlaen adnabuwyd hi fel Ysgol Bryn Eryr.
Archival history
Mae'n bosib bod y papurau sydd yma yn ymwneud ag Ysgol Bryn Eryr, ynghyd â llyfr cofnodion temlwyr Glanrhythallt, wedi dod i feddiant y capel trwy law G. Cleaton Jones, a dybir ei fod yn fab i John Eiddon Jones, cyn-weinidog y capel (gweler llythyr yn ffeil 4/1).
Immediate source of acquisition or transfer
Adneuwyd gan Mr Robert M. Morris, Pen-y-groes, Gorffennaf 2002; 0200210128
Content and structure area
Scope and content
Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr bedyddiadau Capel Mawr Llanrug, 1833-1976; llyfrau rhybudd o gladdedigaethau, 1900-1960; cyfrolau'n ymwneud ag aelodaeth, 1878-1931; llyfrau cofnodion pwyllgorau'r capel, 1891-1970; a phapurau amrywiol, sef llyfr cofnodion temlwyr Glanrhythallt a phapurau'n ymwneud ag Ysgol Bryneryr, 1790, 1854-1911.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau
System of arrangement
Trefnwyd y fonds yn bedair cyfres: llyfrau rhybudd claddedigaethau, aelodaeth y capel, cofnodion pwyllgorau'r capel, a phapurau amrywiol; ac un ffeil: cofrestr bedyddiadau.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg gyda pheth Saesneg
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001 -.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
GEAC system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau ACCR2; ac LCSH.
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Rhagfyr 2002
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan Nia Wyn Griffiths.
Archivist's note
Archivist's note
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Hanes Achos Crefyddol y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanrug, Sir Gaernarfon, 1783-1900, gan y Parch. J. Eiddon Jones (Dolgellau, 1904) a Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Bethesda, gan W. Hobley (Cyfarfod Misol Arfon, 1923).