Showing 567 results

Archival description
series
Print preview View:

Datganiadau i'r wasg

Mae'r gyfres yn cynnwys datganiadau i'r wasg gan wahanol sefydliadau a chwmnïau, 1986-1992.

Cynnyrch rhifynnau

Mae'r gyfres yn cynnwys y cynnyrch a ddefnyddiwyd i gysodi rhifynnau o'r Faner, yn enwedig rhifynnau o Chwefror 1992 hyd at Ebrill 1992.

Papurau ariannol

Mae'r gyfres hon yn cynnwys llyfrau cyfrifon ynghyd â gohebiaeth ariannol yn ymwneud ag apêl Y Faner, 1988-1992.

Hanes

Papurau yn ymwneud â gwahanol feysydd hanesyddol yr oedd y Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymddiddori ynddynt, 1823, [1919]-[1972], sef hanes lleol, enwau lleoedd, hanes gwrthrychau, hanes Lady Barham a hanes meddygon a meddyginiaeth. Mae yma gymysgedd o ddeunydd megis llythyrau, nodiadau ymchwil, torion papur newydd, llawysgrifau, llyfrynnau a lluniau.

Celfyddydol

Papurau yn ymwneud â diddordeb Dr Iorwerth Hughes Jones mewn celfyddyd, 1926-1972; llythyrau, darluniau a gwahoddiadau i arddangosfeydd, yn ymwneud â'r arlunwyr Evan Walters a Ceri Richards.

Deunydd printiedig,

Deunydd printiedig, 1929-2007, yn cynnwys erthyglau a storïau byrion gan Marion Eames, 1929-1998; torion amrywiol o'r wasg, 1954-2007; adolygiadau o'i gwaith a chyfweliadau, 1969-2001; ynghyd â pamffledi a llyfrynnnau yn ymwneud ag ymweliad Marion Eames i'r Unol Daleithiau yn 1984. = Printed materials, 1929-2007, comprising articles and short stories by Marion Eames, 1929-1998; various press cuttings, 1954-2007; reviews of her work and interviews, 1969-2001; together with pamphlets and booklets relating to her visit to the United States in 1984.

Torion papur newydd

Mae'r gyfres yn cynnwys erthyglau a cherddi wedi eu torri o bapurau newydd a chylchgronau amrywiol,a gasglwyd gan Mathonwy Hughes, [?1921]-1992, y rhan fwyaf yn ymwneud ag ef, ei deulu a'i gyfeillion.

Papurau'n ymwneud â Chapel Tan'rallt, Llanllyfni

Mae'r gyfres yn cynnwys Adroddiadau Blynyddol, 1942, 1975 ac 1977, Capel Tan'rallt, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, sef y capel a fynychwyd gan deulu Mathonwy Hughes, ynghyd â dwy gyfrol yn cynnwys gwaith gan ddisgyblion Ysgol Sul yr un capel, 1865 a 1979.

Beirniadaethau

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau o waith Mathonwy Hughes fel beirniad, ynghyd â beirniadaethau ar ei waith ef, [?1966]-1991.

Results 101 to 120 of 567