Showing 567 results

Archival description
series
Print preview View:

Deunydd ar gyfer ymrysonau

Mae'r gyfres yn cynnwys tasgau a osodwyd gan Mathonwy Hughes ar gyfer Ymryson y Beirdd, ynghyd â chynigion mewn ymrysonau eraill, gan gynnwys timau roedd ef yn aelod ohonynt[?1960]-[?1989].

Aelodaeth,

Papurau yn ymwneud â holiadur swyddogol y Gymdeithas a lenwyd gan aelodau i fynegi eu diddordebau, eu cefndir, a'u barn am weithgareddau'r Gymdeithas.

Llyfrau cofnodion,

Llyfrau cofnodion Pwyllgor Gweinyddol Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn, 1837-1916, yn cofnodi penderfyniadau'r Pwyllgor ar faterion gweinyddol ac ariannol, gan gynnwys codi dirwyon a chanlyniadau etholiadau blynyddol y Gymdeithas i benodi aelodau'r Pwyllgor. Yn ogystal, ceir rhestrau o enwau aelodau o fewn rhai cyfrolau.

Papurau barddonol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau nodiadau o gerddi, emynau a nodiadau, 1862 - [1937], a nifer ohonynt yn cynnwys amgaeëdigion, un yn dyddio i 1964. Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys amlen o gerddi yn cynnwys rhai cyfieithiadau o gerddi Robert Herrick, John Donne ac Andrew Marvell, heb eu dyddio, a saith pryddest eisteddfodol, [c. 1889] - [c. 1891].

Gohebwyr eraill,

Llythyrau, [1938]-[1985], 1993, oddi wrth gyfeillion a rhai'n ymateb i'w adolygiadau o'u gweithiau a ymddangosodd yn Y Cymro. Ceir llythyrau hefyd yn ymwneud â'r Cyfarfod Teyrnged i Harri Gwynn yn 1986.

Barddoniaeth,

Cerddi cynnar a luniwyd ganddo yn 1929 a cherddi diweddarach a ysgrifennodd yn ystod ei ddyddiau coleg; cyfieithiadau o ganeuon ganddo; ynghyd â chyfieithiadau i'r Saesneg a'r Sbaeneg, 1953, o'i bryddest anfuddugol 'Y Creadur', Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952.

Results 121 to 140 of 567