Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 713032 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4581 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Rocking,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r garol 'Rocking', sef cyfieithiad o 'Hajej, nynjej' carol o Tsiecoslofacia yn wreiddiol. Geiriau Saesneg.

Richard Bill a William Till

Papurau'n ymwneud â'i astudiaeth Caerwent 1880 : the diary of William Till (1856-93) of Great House Farm for the year 1880 : transcribed, with a brief introduction a gyhoeddwyd fel llyfryn yn 2004.

Rhyw hudolus hwyrnos,

Sgôr mewn llawysgrif a chopi o 'Rhyw hudolus hwyrnos' (Some enchanted evening), gan Rodgers a Hammerstein, trefniant Gilmor Griffiths, geiriau Cymraeg gan Elwyn Wilson Jones.

Rhoddion

Gohebiaeth a phapurau, 1976-1978, y rhan fwyaf gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion i'r Apêl Syr Thomas Parry Williams, yn cynnwys llythyrau oddi wrth J. Haulfryn Williams; J. E. Caerwyn Williams; Jack Evans; Roy Stephens; R. Geraint Gruffydd; G. D. Jones; John Rhys; Brian Ó Cuív; J. A. Edwards; Trevor Morgan; Emrys Wyn Jones; Cyril Moseley; T.A. Owen; Heidemarie Poschbeck; Bobi Jones; Elan Closs Stephens; Ioan Bowen Rees; Douglas Bassett; David Jenkins; Pat Williams; R. Geraint Gruffydd, Ieuan Gwynedd Jones, a J. E. Caerwyn Williams; a Thomas Parry. Yn ogystal, ceir copi o'r cylchgrawn ‘Ninnau’ (1978).

Rhai tonau,

Dau lyfr cerddoriaeth yn ogystal â nifer o dudalennau rhydd, sy'n cynnwys trefniadau a gosodiadau o emynau yn yr hen nodiant a sol-ffa. Y rhan fwyaf o'r cyfnod 1939-1941. Nifer o frasluniau o drefniadau, Dave-'O! Dduw rho i'm dy hedd'; 'O! am ysbryd i weddïo'; Elwyn-'Mae carcharorion angau' a 'Angels from the realm of glory', 1951. (Teitl a threfniant ffeil gwreiddiol).

Rhaglen Cymuned y Ganolfan Gwaith; swyddi; a trefni cyrsiau

Mae rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a phapurau, 1985-1987, yn ymwneud â rhaglen gwaith cymunedol y Canolfan Gwaith yn Nant Gwrtheyrn; a gohebiaeth a phapurau, 1987-1990, yn trafod trefnu cyrsiau amrywiol yn y Nant. Yn ogystal, ceir gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â cheisiadau swydd (1989-1990); rhoddion a thaliadau (1982-1988); a chopïau o Gylchlythyr Trawsfynydd (1988).

Canlyniadau 201 i 220 o 713032