Dangos 713219 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4582 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

'Gwyddor gwlad'

Dwy amlen wreiddiol, un yn dwyn y teitl 'Defnyddiau Gwyddor Gwlad' yn cynnwys nodiadau, llythyrau a drafftiau gan T. Ifor Rees am y felin ddŵr; teipysgrif o 'Problem y ffermwr bychan' gan D. S. Downey, sef trosiad E. T. Griffiths gyda chywiriadau mewn llawysgrifen; copiau o rifynnau 2 a 3 (Ionawr 1962 a Mai 1962) o 'Hafod a Hendre'; llyfryn 'Gwasanaethau Banc y Midland i Ffermwyr' (1960); a rhestr o enwau Lladin, Saesneg a Chymraeg ar gyfer Pteridophyta; a'r amlen arall yn dwyn y teitl 'Gwyddor Gwlad' yn cynnwys drafftiau o 'Y Bugail a'r Coedwigwr' gan Dr Richard Phillips.

Gwybodaeth achyddol

Ebost, dyddiedig 5 Rhagfyr 2011, at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys gwybodaeth achyddol am deulu John Edwal Williams. Ceir yr enw 'Dai' (David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal - gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams) ar frig y ddalen yn llaw David Williams.

Gwrthodiad i dalu'r dreth incwm, dedfryd a charchariad Waldo Williams

Toriadau papur newydd yn ymwneud â gwrthodiad Waldo Williams i dalu ei dreth incwm, ynghyd â'i ddedfrydu a'i garcharu o ganlyniad i hynny ym mis Medi 1960; hefyd toriad o rifyn 6 Hydref 1960 o bapur newydd Y Tyst yn cynnwys cerdd gan 'Gerallt' wedi'i chyfeirio at Waldo Williams yn ystod cyfnod ei garchariad.

Gwna gymwynas,

Copi sgôr a geiriau 'Gwna Gymwynas' gan Gilmor Griffiths, ar gyfer lleisiau S.A., geiriau gan H. D. Healy.

Gwerthiant Plas Pistyll; anfonebau; holiaduron; nawdd; EWROSGOL; taflenni gwaith staff

Mae’r rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a phapurau, 1990-1993, yn ymwneud â gwerthu Plas Pistyll, ac anfonebau (1986-1989). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys holiaduron (1993), a cheisiadau am gyrsiau (1982-1988); gohebiaeth yn ymwneud â nawdd a grantiau (1982-1991); cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1980-1981; 1986; 1990-1991); taflenni amser staff (1981; 1988-1991); a dogfennaeth ‘Ewrosgol’ (1990).

Gwennol y bondo,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o 'Gwennol y bondo' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Trefniant ar gyfer lleisiau merched neu blant (S.A.).

Gwella'r ffordd; swyddfa Llithfaen; pryniant Plas Pistyll; y Ganolfan Ewropeaidd yr Ieithoedd Llai eu Defnydd; cynlluniau adeilad o tai'r Nant; estyniad Caffi Meinir

Gohebiaeth a phapurau, 1986-1990, yn trafod gwella’r ffordd i’r Nant, yn cynnwys un ffotograff lliw (1988); materion yr Ymddiriedolaeth, y swyddfa yn Llithfaen, materion ariannol, a chofnodion cyfarfod (1989); pryniant a chynlluniau Plas Pistyll, swyddi, grantiau, y Ganolfan Ewropeaidd, marchnata, swyddfa Llithfaen, a chynlluniau pensaernïol o dai’r Nant (1990). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papur trafod (1986); ac adroddiad cynnydd a chost (1986).

Gweithgareddau staff; swyddi; amserlenni; hyforddiant staff; a pholisïau staff

Gohebiaeth a phapurau, 1986-2013, yn ymwneud â materion staff, yn cynnwys gweithgareddau staff (1993); ffurflenni oriau gwaith (1992-1993); disgrifiadau swydd (1991-1993); adroddiad y cyfarwyddwr (1987); hyfforddiant staff (1992); hysbysebu swyddi (2001-2007); a pholisïau staff (1997-2013). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys disg hyblyg wedi ei theitlo ‘Disgrifiadau Swydd’ (1993).

Canlyniadau 661 i 680 o 713219