Gohebiaeth, 2001, yn ymwneud â threfnu cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Chwefror 2001; yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Sioned Davies; Gruffydd Aled Williams; Branwen Jarvis; Sara Lee Branch; Andrew Green; Richard Wyn Jones; Dafydd Johnston; Aled G. Jones; Pat Lewis; a Beryl Jenkins.
Sgôr 'Trem y dydd', gan Gilmor Griffiths, geiriau gan James Arnold Jones. Llawysgrif a chopïau gyda nifer o gywiriadau a nodiadau. Trefniant ar gyfer lleisiau T.T.B.B neu S.A.T.B..
Copi mewn llawysgrif a llungopi o 'Tre'r Ceiri' ar gyfer S.A.T.B., gan Gilmor Griffiths, geiriau gan John H. Williams, Myfoniog, Llannefydd. Darnau lleisiau yn unig a hefyd sgôr llawn gyda chyfeiliant. Trefniant i eiriau 'Emyn Heddwch' gan John H. Williams, Llannefydd yn yr hen nodiant a sol-ffa. Hefyd geiriau 'Wrth edrych Iesu ar dy groes' gan Mairlyn Lewis.
Tri chryfion byd gan Twm o'r Nant (wedi ei gwtogi ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 1939) yn cynnwys llythyr oddi wrth Kate Roberts a nodiadau ar Twm o’r Nant.
Papurau, 1981-1988, gan gynnwys gohebiaeth, polisïau twristiaeth y mudiad a llythyr oddi wrth R. S. Thomas a phapurau'n ymwneud â phynciau fel Marina'r Penrhyn, Gwersyll Glyn Rhonwy a Chanolfan Wyliau yn Llanllechid.
Papurau’n ymwneud â’r Llareggub Players y bu Gwynne D. Evans yn gynhyrchydd arnynt. Ceir poster a rhaglenni, ynghyd â chopi cynnar o drosiad T. James Jones sef Dan y Wenallt, [1967].
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1990-1996, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o storfeydd cenedlaethol a siopau annibynol yng Nghaerdydd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys cofnodion cyfarfod (1990); a chopi o Rybudd Datblygiad Arfaethedig o Gyngor Dinas Caerdydd (1996).
Sgôr mewn llawysgrifau a brasluniau o'r gân 'Wales is my homeland' gan Gilmor Griffiths. Trefniant ar gyfer T.T.B.B., hen nodiant gyda geiriau, tonig sol-ffa, a theipysgrif. Geiriau Saesneg gan Gilmor Griffiths a geiriau Cymraeg gan Dennis Derbyshire.
Trefniant o'r alaw 'Wales is my Homeland', ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau, lawysgrif a llungopi o gopi sol-ffa.
Erthyglau a thoriadau papur ynglŷn â'i waith fel cyfansoddwr ac yn y byd cerddorol yn gyffredinol. Drafft o’r rhagymadrodd 'Wrth y preseb: carolau Nadolig i blant', 1985 a llythyr gan Robat Gruffudd, 'Y Lolfa' at Vera sy'n cyfeirio at 'Garolau Gilmor', 1987.
Trefniant anghyflawn, dienw, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llinell gyntaf 'We greet all you Lords and Ladies'. Llungopi o dudalennau 2-5, wyneb ddalen ar goll.