Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1913-1961 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
0.047 metrau ciwbig (3 bocs)
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd y dramodydd David Thomas Davies (1876-1962), yn Nant-y-moel, Llandyfodwg, Morgannwg, a chafodd ei addysg yn Ystrad, Morgannwg, a Llandysul yng Ngheredigion. Daeth i gysylltiad â'r dramodydd John Oswald Francis (1882-1956) yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a chafodd y cyfle i wylio dramâu cyfoes Saesneg tra roedd yn athro yn y Central Foundation School yn Llundain ar ôl graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1903. Yn 1909 priododd Jane Davies, a chawsant ferch. Gwasanaethodd Davies gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn 1919 symudodd i Bontypridd, Morgannwg, pan gafodd ei benodi'n arolygydd ysgolion. Roedd yn ddramodydd cymdeithasol Cymraeg blaenllaw yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, yn llunio nifer o ddramâu hir a rhai byrion, sydd yn dangos dylanwad cryf gwaith Ibsen. Ymhlith ei waith pwysicaf yr oedd Ble mae fa? (1913) Ephraim Harri (1914) a Phelenni Pitar (1925), oedd yn nodedig am roi portread ffyddlon o fywyd. Roedd gwaith Davies yn ffasiynol yn ystod y 1920au, pan yr oedd mudiad y ddrama yng Nghymru yn ei hanterth yng nghymoedd de Cymru. Ymddeolodd i Borthcawl yn 1936, a symud i Abertawe yn 1954, lle bu farw yn 1962.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Miss Sallie A. Davies, merch D. T. Davies; Abertawe; Rhodd; Mehefin 1985.
Miss Sallie A. Davies; Abertawe; Cymynrodd; Hydref 2013.
Content and structure area
Scope and content
Papurau David Thomas Davies, 1913-1961, yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu cyhoeddedig a rhai nas cyhoeddwyd, a hefyd ei gyfieithiadau Saesneg a Chymraeg o ddramâu, ynghyd â llyfr lloffion, gohebiaeth, a deunydd arall yn ymwneud â'i yrfa fel dramodydd. = Papers of David Thomas Davies, 1913-1961, including manuscript and typescript copies of published and unpublished plays, and also his English and Welsh translations of plays, together with a scrapbook, correspondence, and other material relating to his career as a dramatist.
Derbyniwyd papurau ychwanegol, 1913-[1959], yn cynnwys sgriptiau teledu a radio, cytundebau cyhoeddi, nodiadau ar Twm o’r Nant a dramâu Groegaidd, ynghyd â phortread o D. T. Davies mewn olew, ffotograffau teuluol a chartwnau, yn Hydref 2013.
Appraisal, destruction and scheduling
Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: dramâu (copïau llawysgrif o ddramâu; copïau teipysgrif ei gyfieithiadau Saesneg o'i ddramâu gan D. T. Davies; copïau teipysgrif o ddramâu nas cyhoeddwyd; copïau teipysgrif o gyfieithiadau Cymraeg D. T. Davies o ddramâu George Bernard Shaw); amrywiol; a chymynrodd 2013.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Mae copi caled o'r catalog (Rhodd 1985) ar gael yn LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1985.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Ebrill 2003 a Medi 2016.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1985; Dictionary of Welsh biography, 1941-1970 (2001).
Archivist's note
Crëwyd i brosiect ANW.