Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Jones, Einir, 1950- ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth gyffredinol: 1971-1974

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas a John Rowlands. Ceir cyfeiriadau at drefniadau Cynhadledd Taliesin, at berthynas yr Adran Gymraeg a'r Adran Saesneg, at y trefniadau ar gyfer penodi ysgrifennydd cyflogedig cyntaf Adran Gymraeg yr Academi ac at gyfraniad yr Academi i'r ymgyrch ddarlledu. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus ac at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Owain Owain, yn 1971, am ei gyfrol Bara Brith ac i Einir Jones, yn 1972, am ei chyfrol Pigo Crachan.

Thomas, Gwyn, 1936-

Aelodaeth: etholiadau, 1980

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau a gohebiaeth yn ymwneud ag enwebu ac ethol aelodau newydd i'r Adran Gymraeg ym 1980. Derbyniwyd yr enwebiad gan W. R. P. George, Dafydd Jenkins, Alan Llwyd ac Einir Jones ac fe'i gwrthodwyd gan Jane Edwards, Derec Llwyd Morgan a Mathonwy Hughes.

Edwards, Jane