Showing 87 results

Archival description
Sub-sub-series
Print preview View:

Teipysgrifau / Typescripts

Teipysgrifau a rhai papurau perthynol eraill (2003-2005) yn ymwneud â nofel Emyr Humphreys 'The Shop'. / Typescripts and other papers (2003-2005) relating to Emyr Humphreys' novel 'The Shop'.

'The Best of Friends'

Papurau'n ymwneud â nofel Emyr Humphreys 'The Best of Friends', a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel yr ail gyfrol yn y gyfres 'Land of the Living' yn 1978. / Papers relating to Emyr Humphreys' novel 'The Best of Friends', originally published as the second volume in the 'Land of the Living' series in 1978.

Ffotograffau teuluol

Llungopïau o ffotograffau o Waldo Williams gyda'i frodyr a'i chwiorydd a llungopi o doriad o'r wasg yn dangos ffotograff o blant ac athrawon Ysgol Mynachlog-ddu, 1915.

Barddoniaeth Waldo Williams

Barddoniaeth gan, neu ddeunydd sy'n ymdrin â barddoniaeth gan, Waldo Williams, gyda nifer o'r cerddi yn ei law ei hun. Mae'r eitemau'n cynnwys ei gerddi adnabyddus Eirlysiau a Mewn Dau Gae, ei awdl Tŷ Ddewi, ei gywydd Y Tŵr a'r Graig a'i gywydd coffa i'w wraig Linda, ynghyd â cherddi cynnar megis Hiraeth a Y Duw Unig.

Rhyddiaith Waldo Williams

Darnau rhyddiaith gan, neu eitemau'n ymdrin â darnau rhyddiaith gan, Waldo Williams, gan gynnwys ei 'Ddatganiad' ('Statement') yn erbyn gorfodaeth milwrol; pamffledyn yn seiliedig ar y sgwrs radio wreiddiol Paham yr wyf yn Grynwr; adolygiadau llenyddol o'r wasg; ac ysgrifau drafft ar y bardd a'r llenor D. J. Williams, ar y gynghanedd ac ar emynwyr y ddeunawfed ganrif.

Gohebiaeth at Dilys Williams

Gohebiaeth wedi'i gyfeirio at Dilys Williams, yn bennaf oddi wrth aelodau teuluol a chyfeillion, yn ogystal â chan sefydliadau megis aelodau pwyllgor Gŵyl y Sir, Abergwaun (1957), a'r Academi Gymreig yn eu paratoadau ar gyfer Gŵyl Waldo (1986).

Deunydd amrywiol gan neu ym meddiant Dilys Williams

Deunydd ym meddiant Dilys Williams, yn bennaf o ddiddordeb llenyddol neu leol, gan gynnwys Llyfr trysorydd Urdd Gobaith Cymru cylch Abergwaun, llyfr cofnodion cangen Abergwaun o Undeb y Llw o Blaid Heddwch (Peace Pledge Union), 1939-1945, a llyfrau nodiadau yn llaw Dilys Williams yn cynnwys yn bennaf gwybodaeth o natur lenyddol.

Gwladys Llewellyn

Deunydd yn cynnwys gohebiaeth wedi'i gyfeirio at Gwladys Llewellyn ac ysgrif goffa iddi.

Results 61 to 80 of 87