Showing 87 results

Archival description
Sub-sub-series
Advanced search options
Print preview View:

Ffotograffau teuluol

Llungopïau o ffotograffau o Waldo Williams gyda'i frodyr a'i chwiorydd a llungopi o doriad o'r wasg yn dangos ffotograff o blant ac athrawon Ysgol Mynachlog-ddu, 1915.

Gwladys Llewellyn

Deunydd yn cynnwys gohebiaeth wedi'i gyfeirio at Gwladys Llewellyn ac ysgrif goffa iddi.

Barddoniaeth Waldo Williams

Barddoniaeth gan, neu ddeunydd sy'n ymdrin â barddoniaeth gan, Waldo Williams, gyda nifer o'r cerddi yn ei law ei hun. Mae'r eitemau'n cynnwys ei gerddi adnabyddus Eirlysiau a Mewn Dau Gae, ei awdl Tŷ Ddewi, ei gywydd Y Tŵr a'r Graig a'i gywydd coffa i'w wraig Linda, ynghyd â cherddi cynnar megis Hiraeth a Y Duw Unig.

Rhyddiaith Waldo Williams

Darnau rhyddiaith gan, neu eitemau'n ymdrin â darnau rhyddiaith gan, Waldo Williams, gan gynnwys ei 'Ddatganiad' ('Statement') yn erbyn gorfodaeth milwrol; pamffledyn yn seiliedig ar y sgwrs radio wreiddiol Paham yr wyf yn Grynwr; adolygiadau llenyddol o'r wasg; ac ysgrifau drafft ar y bardd a'r llenor D. J. Williams, ar y gynghanedd ac ar emynwyr y ddeunawfed ganrif.

Gohebiaeth at Dilys Williams

Gohebiaeth wedi'i gyfeirio at Dilys Williams, yn bennaf oddi wrth aelodau teuluol a chyfeillion, yn ogystal â chan sefydliadau megis aelodau pwyllgor Gŵyl y Sir, Abergwaun (1957), a'r Academi Gymreig yn eu paratoadau ar gyfer Gŵyl Waldo (1986).

David Williams

Deunydd yn bennaf yn llaw David Williams, nai Waldo Williams, sef mab Roger Williams, brawd Waldo, a'i wraig Edith (gweler Roger Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams). David Williams yw rhoddwr y casgliad hwn o bapurau Waldo.

Mary Llewellyn (née Williams)

Deunydd gan neu yn ymwneud â Mary Llewellyn (née Williams), chwaer John Edwal Williams, tad Waldo Williams, gan gynnwys llythyr oddi wrth Mary Llewellyn at ei rhieni, Dafydd (Dafi) a Martha Williams a cherdyn coffa Mary Llewellyn.

Proflenni / Proofs

Proflenni, yn cynnwys cywiriadau a nodiadau, ar gyfer y gyhoeddiad o ‘Shards of Light’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2018). / Proofs, including corrections and notes, for the publication of 'Shards of Light' (Cardiff: University of Wales Press, 2018).

Teipysgrifau / Typescripts

Teipysgrifau, yn cynnwys nodiadau a drafftiau, yn cynnwys yn bennaf ddrafftiau o gerddi a gyhoeddwyd yn ‘Shards of Light’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2018). / Typescripts, including notes and drafts, consisting mainly of drafts of poems that were published in 'Shards of Light' (Cardiff: University of Wales Press, 2018).

Other publications

Material relating to Jen Wilson's MSc (Econ) dissertation thesis titled Syncopated Ladies: British Jazzwomen 1880-1995 and their influence on popular culture (University College of Wales, Swansea, 10 July 1996); and to Jen Wilson's Millennium Award-funded publication African American Music in Swansea 1850-2001.

Cyfrifiad

Allbrint o gyfrifiad 1911 yn dangos manylion teulu Waldo Williams, a oedd ar y pryd yn byw yn Nhŷ Ysgol Prendergast, Hwlffordd.

M. Wynn Thomas

Papurau (1973-2010), yn cynnwys yn bennaf llythyrau oddi wrth M. Wynn Thomas a phapurau cysylltiedig eraill. / Papers (1973-2010), consisting mainly of letters from M. Wynn Thomas and other related papers.

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Nodiadau a drafftiau amrywiol, yn cynnwys yn bennaf ddrafftiau llawysgrif o straeon byrion a gyhoeddwyd yn ‘The Woman at the Window’ (Pen-y-bont: Seren, 2009). / Various notes and drafts, consisting mainly of manuscript drafts of short stories that were published in 'The Woman at the Window' (Bridgend: Seren, 2009).

Results 1 to 20 of 87