Showing 2 results

Archival description
Undeb Awduron Cymru
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1972-1974

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth John Rowlands. Ceir cyfeiriadau at drefniadau Cynhadledd Ryngwladaol 1974, pryd y gwahoddwyd awduron o Iwgoslafia draw i Gymru; at adolygu llyfrau Cymraeg yn y Western Mail, at sefydlu papur dyddiol Cymraeg ac at sefydlu Undeb Awduron Cymru. Mae'n cynnwys cyfeiriadau at gyhoeddi Taliesin a dadansoddiad daearyddol manwl gan Tecwyn Lloyd o'r cyfrannwyr i'r chwe chyfrol ar hugain cyntaf. Ceir gohebiaeth rhwng yr Academi a sefydliadau eraill yng Nghymru ynglŷn â sefydlu archif o raglenni radio a theledu - cynnig a osodwyd ger bron Cynhadledd Taliesin ym 1973. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, ac at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Moses Glyn Jones, yn 1973, am ei gyfrol Y Ffynnon Fyw.

Rowlands, John, 1938-2015

Gohebiaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth rhwng Carys Bell a'r Parch. Huw Ethall a'i wraig Hilda, 1981 a 1989-2001; llythyrau gan yr arlunydd Helen Steinthal, 1981 a 1989-1991, ynghyd â nodiadau bywgraffydol yn ei llaw a chopi o deyrnged Carys Bell iddi a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1992; gohebiaeth, 1980 a 1982-1985, rhwng Carys Bell a Selyf Roberts (Cadeirydd Undeb Awduron Cymru), sef cyngor ynghylch ei gweithiau llenyddol, gyda chrynodeb ac adroddiad darllenydd o'i nofel Ynys y cylch; gohebiaeth rhwng Carys Bell a gwasg Honno, 1988-2000 (gyda bylchau), yn cynnwys llythyrau gan Leigh Verrill-Rhys (4) a Deirdre Beddoe (copi), ynghyd â llawysgrif atgofion Carys Bell am ei phlentyndod adeg yr Ail Ryfel Byd, a ymddengys i fod yn ddrafft o'r ysgrif a gyfrannodd ar gyfer y gyfrol Parachutes and petticoats; a gohebiaeth amrywiol, 1970-2001 (gydag amryw fylchau).

Huw Ethall