Showing 2 results

Archival description
Simwnt Fychan, approximately 1530-1606 Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Barddoniaeth Gymraeg

  • NLW MS 16251B.
  • File
  • [1730x1790]

Cyfrol yn cynnwys barddoniaeth Gymraeg a chynghorion meddygol a ddangoswyd, yn ôl nodyn (f. 63 verso) gan John Jones (Jac Glanygors), i John Edwards (Siôn Ceiriog) yn Llundain, 11 Gorffennaf 1790. = A volume containing poetry in Welsh and medical recipes shown, according to a note (f. 63 verso) by John Jones (Jac Glanygors), to John Edwards (Siôn Ceiriog) in London, 11 July 1790.
Mae'r gyfrol yn cynnwys cywyddau ac englynion o'r 16 gan. hyd at 18 gan., gan gynnwys gweithiau Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan, 'Syr' Dafydd Owain, Siôn Tudur, Simwnt Fychan, Thomas Prys o Blas Iolyn, William Phylip, ac Ellis Rowland o Harlech (ff. 1-41), ac englynion Saesneg (f. 1 verso); ceir rysáit llawfeddygol ar f. 7, cynghorion meddygol rhwng ff. 41 verso a 63 verso, a nodyn, 28 Gorffennaf 1790, gan David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) ar f. 64; fe nodir rhai o'r cerddi a'r ryseitiau ar dudalen gynnwys (f. 66 verso). = The volume comprises 'cywyddau' and 'englynion' from 16 cent. to 18 cent., including the works of Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan, 'Syr' Dafydd Owain, Siôn Tudur, Simwnt Fychan, Thomas Prys of Plas Iolyn, William Phylip, and Ellis Rowland of Harlech (ff. 1-41), and English poetry written in the 'englyn' metre (f. 1 verso); a veterinary recipe is included on f. 7, medical recipes between ff. 41 verso and 63 verso, and a note, 28 July 1790, by David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) on f. 64; some of the poetic works and recipes are listed in a contents' page (f. 66 verso).

Cywyddau

  • NLW MS 16130D.
  • File
  • 1958

Copi ffotostat, 1958, o lawysgrif yng nghasgliad teulu Cotton, Combermere (ZCR 74/190), yn archifdy swydd Caer, yn cynnwys cywyddau a ysgrifennwyd mewn sawl llaw ar ddiwedd yr unfed ganrif-ar-bymtheg. = A photostat facsimile, 1958, of a manuscript held among the Cotton family of Combermere manuscripts (ZCR 74/190) at the Cheshire County Record Office, containing cywyddau written in several hands at the end of the sixteenth century.
Cyfansoddwyd y cywyddau, [1320x?1580], gan Siôn Phylip (f. 1), Simwnt Fychan (f. 21), Wiliam Cynwal (ff. 6, 28), Rhys Cain (ff. 10, 20), Siôn Tudur (ff. 12, 16, 33, 34, 42), Wiliam Llŷn (f. 25), Lewis ab Edward ('Lewis Meirchion', f. 36), Siôn Cent (ff. 32, 40), Iolo Goch (f. 46), Gruffudd Hiraethog (f. 48), a rhai beirdd anhysbys. = The cywyddau were composed, [1320x?1580], by Siôn Phylip (f. 1), Simwnt Fychan (f. 21), Wiliam Cynwal (ff. 6, 28), Rhys Cain (ff. 10, 20), Siôn Tudur (ff. 12, 16, 33, 34, 42), Wiliam Llŷn (f. 25), Lewis ab Edward ('Lewis Meirchion', f. 36), Siôn Cent (ff. 32, 40), Iolo Goch (f. 46), Gruffudd Hiraethog (f. 48), and a few unidentified poets.