Showing 2 results

Archival description
Archif Y Lolfa, Jenkins, John. file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol 1970-1974,

Ymhlith y gohebwyr mae Bernard Picton (Knight), Dafydd Iwan, John Jenkins o garchar Albany yn cynnig syniad am gardiau i garcharorion 'gwleidyddol', Judith Maro yn trafod ei nofelau, Gareth Miles yn trafod ei gyfraniad at LOL a gweithiau eraill, Islwyn Ffowc Elis, Derrick K. Hearne ar ei gyfrol The Rise of the Welsh Republic, a Watcyn Owen ar ran John Jenkins. Hefyd ceir llythyrau yn trafod ymgyrch Dwynwen, gwaith Cymdeithas yr Iaith, posteri ar gyfer Plaid Cymru, safiad Robat Gruffudd yn mynnu ffurflenni Cymraeg, ac adeilad y Lolfa.

Gohebiaeth gyffredinol 1975-1979,

Ymhlith y gohebwyr mae Meg Ellis yn trafod cynnig Robat Gruffudd i wrthod siarad Saesneg a straeon ganddi, Eric Wyn Roberts, Judith Maro, Dafydd Parri yn trafod Y Llewod a Marc Daniel, Bernard Knight yn trafod ei lyfr Lion Rampant, Meic Stephens ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod y cynllun newydd er cynorthwyo cyhoeddwyr i gyflogi staff gweinyddol neu olygyddol, John Jenkins o garchar Albany ynghylch cardiau celtaidd, Derrick K. Hearne ar y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru, datganoli, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith; Harri Webb ar gyfrifoldeb y llywodraeth i ariannu cyhoeddiadau Cymraeg; ac Emily Huws yn trafod ei nofelau diweddaraf. Hefyd ceir cerdd gan Alan Llwyd 'Awdl archebol i'r Lolfa'; llythyrau yn trafod Cymdeithas Emrys ap Iwan, y galw am bosteri a chardiau Cymraeg, disgo'r Llewod yn 1976, a chasglu deunydd i LOL ar ei newydd wedd. Yn y ffeil ceir hefyd bapurau yn ymwneud ag 'Ymgyrch Cymreigio Ysgol Penweddig yn cynnwys deiseb gan rieni a chopi o 'Y Gymraeg yng Ngwyddoniaeth a Thechnoleg ein Colegau – y Ffordd Ymlaen', Adroddiad Gweithgor y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.