Showing 9 results

Archival description
Tomos, Angharad, 1958-.
Print preview View:

Nodiadau Angharad Tomos

Nodiadau Angharad Tomos ar hanes Cymdeithas yr Iaith, 1979-1986, ar gyfer y gyfrol Wyt ti’n cofio? : chwarter canrif o frwydr yr iaith, ynghyd â “Mae’r achos yn parhau …”. Llawlyfr ar weithredu uniongyrchol (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1987), gan gynnwys rhestri o’r swyddogion, aelodau’r senedd a grwpiau, 1962-1987.

Gohebiaeth gyffredinol 1990-1992,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Dafydd Parri yn trafod Cailo 5 a llythyrau yn trafod Gwobr Goffa Daniel Owen, 1990, Leopold Kohr, Angharad Tomos a Bobby Freeman ac ymateb Robat Gruffudd i Strategaeth Genedlaethol y Celfyddydau, 1991-1992. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys ail-gyhoeddi cyfrol Gwynfor Evans, Land of my Fathers, cyflwyno gwaith ar ddisg yn electronig, cytundeb gyda Cwmni Ffilmiau Elidir i wneud rhaglen deledu o Rala Rwdins a'i marchnata, a phenblwydd y Lolfa yn 25 mlwydd oed, 1992. Ceir copïau o lythyrau oddi wrth Robat Gruffudd yn ymwneud â chael cystadleuaeth i ddewis pwy fydd yn cyhoeddi cyfrol y Fedal Ryddiaith.

Gohebiaeth gyffredinol 1983,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Eleri Llewelyn Morris yn trafod Pais, Teledu Twf a llyfr ffasiwn, John Morris ynghylch llun a brynwyd gan Robat Gruffudd a'r posibilrwydd o hysbysebu gwaith John Morris, Judith Maro, Catrin Stevens ynghylch Sgorio 1000, Dafydd Parri ynghylch Marc Daniel gan gynnwys sylwadau Dylan Williams o'r Cyngor Llyfrau. Ceir hefyd gerdyn post gan Harri Webb yn gwerthfawrogi LOL a chopïau o lythyrau at Angharad Tomos ynghylch cyfres Rala Rwdins.

Gohebiaeth gyffredinol 1985,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Angharad Tomos yn trafod Diwrnod Golchi, Strempan a llyfr cartŵn ar hanes Cymru, Dafydd Parri, Richard Morris Jones ynglŷn â stori yn LOL, y Cyngor Llyfrau. Ceir hefyd lythyrau yn trafod deunydd hysbysebu 'Police Conspiracy?' a'r problemau yn sgîl ei gyhoeddi, llythyrau oddi wrth Robat Gruffudd yn ymwneud â 'Chyfres Byw Heddiw', a chopïau o lythyrau oddi wrth reolwr marchnata'r Lolfa a Robat Gruffudd yn trafod posibiliadau ar gyfer cyhoeddi.

Gohebiaeth gyffredinol 1993,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Cynog Dafis ar y Mesur Iaith ac Angharad Tomos ynghylch animeiddio cyfres Rwdlan. Mae pynciau eraill a drafodir yn cynnwys problemau ariannol y Lolfa a'r angen i bobl dalu eu ffioedd yn fuan, colli cytundeb cylchgronau Urdd Gobaith Cymru, y posibilrwydd o ailddechrau calendr Cymru Fydd, a'r nofel Genod Neis.

Llythyrau oddi wrth lenorion amlwg

Llythyrau oddi wrth lenorion yn bennaf, 1943-1992, gan gynnwys John Roderick Rees; [R.] Bryn Williams; Gwynfor [Evans]; Gwilym R. Tilsley; [R.] Tudur [Jones]; Bedwyr Lewis Jones; John [Gwilym Jones]; T. E. Nicholas; Kate Roberts; Waldo Williams; Lewis Valentine; Angharad Tomos; E. Prosser Rhys; D. J. Williams; T. H. Parry-Williams; W. R. P. George; a T. Llew Jones.

Gohebiaeth gyffredinol 1986,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis a Judith Maro yn trafod eu llyfrau a materion eraill, Angharad Thomas yn trafod Plaid Cymru, y posibilrwydd o symud i Lundain a phynciau eraill, a Ioan M. Richard yn ateb cyhuddiadau yn LOL yn ymwneud â Phlaid Cymru a Meibion Glyndŵr. Yn ogystal ceir llun-gopïau o'r llythyrau a anfonwyd allan yn galw am ddinistrio hysbysebion Police conspiracy, copi o'r 'Arolwg o'r Cylchgronau a noddir gan Gyngor y Celfyddydau' gan Rhodri Williams, a phapurau yn ymwneud â'r angen am wythnosolion, a llythyrau yn ymwneud ag Y Llosgi gan Robat Gruffudd.

Llythyrau P-W

Llythyrau, 1984-1987, oddi wrth Mici Plwm, Helen Prosser, John Rowlands, Toni Schiavone, Meic Stephens, Angharad Tomos, Steffan Webb, Dafydd Wigley, Eirug Wyn ac eraill, ynghyd â llungopïau o lythyrau oddi wrth Gwilym Tudur at amryw ohebyddion.

Gohebiaeth gyffredinol 1994,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys John Rowlands ar ei nofel enllibus, ac Angharad Tomos yn trafod ei nofel, Titrwm. Mae pynicau eraill a drafodir yn cynnwys cyhoeddi cyfrolau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol a diffyg ymateb y BBC i achos llys saith person a niweidiodd sedd barnwr. Ceir hefyd ohebiaeth gyda Cantref ynghylch torri cysylltiadau dŵr a charffosiaeth pan gafodd gwaith adeiladu ei wneud.