- BB/1
- File
- 1953, 1994, 2010
Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Dalen a Dail, a recordiwyd ym 1994 a'i darlledu ym 1995, yn yr hwn y bu Dic Jones yn olrhain hanes Josef Kramer, carcharor rhyfel a ddaeth i fyw a gweithio ar fferm yr Hendre, fferm deuluol Dic, yn ystod y 1940au (gw. Dic Jones: Os Hoffech Wybod ... a chofio Dic (Gwasg Gwynedd, 2010), tt. 145-8 ac Idris Reynolds: Cofio Dic: darn o'r haul draw yn rhywle (Gwasg Gomer, 2016), tt. 165-7). Mae'r deunydd yn cynnwys ebost at Idris ac Elsie Reynolds oddi wrth y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a'r darlledwr teledu Wyn Thomas o Ffilmiau Tawe; llungopi o lythyr, 1994, at [?Dic] Jones oddi wrth Dr Mererid Hopwood, oedd ar y pryd yn Gysylltydd Canolfan Llenyddiaeth Gyfoes Almaeneg Coleg y Brifysgol Abertawe; llungopi o doriad papur newydd, 6 Tachwedd 1953, yn ymwneud â Chôr Plant Obernkirchen yn yr Almaen; cynllun a chynnwys y rhaglen Dalen a Dail; a barddoniaeth gan Dic Jones a ysbrydolwyd gan ei daith i'r Almaen ar gyfer recordio Dalen a Dail.