Print preview Close

Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Vera Brittain, Chelsea SW3,

Diolch i KR am ei llythyr yn canmol y gyfrol Testament of Youth. Cafodd tua 400 o lythyrau o bob rhan o'r byd ond llythyr KR oedd y cyntaf o Gymru. Sôn am Malta a marwolaeth brawd KR yno. Ni allai fod wedi ei gladdu mewn man harddach. Mae'n falch o glywed bod KR yn gweithio er ceisio rhwystro Cymru rhag cael ei llusgo i mewn i ryfel imperialaidd arall. Y mae hi a'i gwr yn gwneud yn debyg yn Lloegr drwy gyfrwng y Blaid Lafur. Mae'n dymuno'n dda i KR gyda'r gwaith o orffen nofel hir. Cymerodd dair blynedd a hanner iddi orffen Testament of Youth. Pan ddaw llythyrau fel un KR y mae'n ystyried bod y cwbl yn werth y llafur. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n dda ganddo glywed bod KR wedi gorffen nofel a'i hanfon i mewn - nofel am fywyd yn Nyffryn Nantlle o 1880 ymlaen. [Traed Mewn Cyffion]. Pam y bu i KR ganmol gymaint ar gyfrol Winnie Parry Cerrig y Rhyd? "Ni chafodd ei dawn hi siawns yn y byd. Llethwyd ef gan ei meddwl a'i haddysg foeswersol boenus." Sôn am ddau gwrs yn y Coleg a roddodd foddhad arbennig iddo - cywyddau ymryson Edmwnd Prys a'r llall ar y cofiant Cymraeg. Ni chafodd ei darfu gan y llythyr ar grefydd a ysgrifennodd KR ato. Mae ei phaganiaeth yn fwy Cristnogol na phregethau Moelwyn Hughes. Cawsant dridiau o niwl ond mae'r haul yn dechrau torri trwodd.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, [Abertawe],

Mae croeso i KR ddefnyddio ei enw fel canolwr ond dylai gofio ei fod yn hynod amhoblogaidd gyda'r BBC. Fe rydd ateb llawnach i ail ran ei llythyr ymhen diwrnod neu ddau. Fe geisia ddod i gynhadledd Caerdydd, ac i bwyllgor y Nationalist.

Llythyr oddi wrth Yr Athro E. Oliphant, Prifysgol Melbourne, Awstralia,

Drwg ganddo ddeall na chyfieithwyd storïau KR i'r Saesneg. Mae'n dadlau y byddai'r gwahaniaeth ym mhriod-ddulliau'r ddwy iaith yn ychwanegu at eu hapêl. Awgrymiadau ar sut i gyfieithu dialog dafodieithol. Mae'n gofyn iddi gyfieithu dwy neu dair o'i straeon gorau. Gallai roi cyhoeddusrwydd iddi ar radio Awstralia. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Dymuno blwyddyn newydd dda. Bu'n ymweld â Phrosser Rhys yn Aberystwyth y diwrnod cynt. Clywodd ar ddamwain am ei salwch. Methai ddeall beth a ddigwyddasai i'w gyfrol ar Ddaniel Owen a oedd i ymddangos erbyn y Nadolig. Da ganddo glywed eu bod yn ymgartrefu'n dda yn Ninbych. Y mae Dyffryn Clwyd yn un o'r ddau neu dri lle yng Nghymru y byddai'n barod i ymddeol iddynt.

Llythyr oddi wrth T. Hudson-williams, ym Mangor,

Anfon i ganmol Traed mewn Cyffion - "mae pob gair ohono yn wir, pob ergyd yn taro'r nod, a gafael ym hob brawddeg". Darllenodd ef y llyfr yn y trên y diwrnod cynt wrth fynd i Aberystwyth gan godi ei ben i edrych ar Foel Tryfan, ochrau'r Cilgwyn, tywod y Foryd yn yr haul, a Choed y Glyn. Mae ganddo berthnasau bron ymhob ty o Lanllyfni i Lanrûg. Bu yntau'n casglu llus fel Twm ac yn eu rhoi'n rhes ar flewyn o wellt. Mae'n cofio blas cras y gwelltyn yn mynd trwy ei dannedd ac yn tynnu gwaed o'i wefus. Bu ganddo yntau berthnasau yn cysgu mewn siambr laith a malwod yn cerdded ar y wal wrth eu gwelyau a'r glaw yn diferu ar y gobennydd. Da ganddo ei gweld yn defnyddio'r gair meisyn. Nid oedd Tom Parry erioed wedi clywed na gweld y gair o'r blaen. Bu gannoedd o droeon yn edrych o'r dre ar yr haul yn sgleinio ar wydrau tai'r Cilgwyn gyda'r hwyr a throi am un cip ar oleudy Llanddwyn.

Llythyr oddi wrth Betty [Eynon Davies], Llundain SE22,

Diolch i KR am anfon taffi iddi. Bu'n treulio'r Nadolig gyda'i chwaer Dorothy. Maent yn dilyn diet arbennig sydd i wella gwynegon a chamdreuliad. Mae'n bwriadu mynd ymlaen â'i drama Gold & Silver. Diolch i KR am fod yn barod i'w chyfieithu. Mae hi a'i chwaer yn ystyried dod i Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth y flwyddyn ddilynol. Nid yw wedi bod i'r Eisteddfod o'r blaen. Cymeradwyo gwaith Arthur Machen iddi. Mae ei ddisgrifiadau o ddyffryn Afon Wysg yng Ngwent yn lledrithiol. Un o'r goreuon yw'r gyfrol Far off Things. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis [Abertawe],

Mae wedi bod wrthi am wyth awr y dydd ers deufis gyda Buchedd Garmon. Cyn mynd i dorri ei wallt yn Wormwood Scrubs y mae'n anfon gair o gyfarch a diolch am fod Kate Roberts wedi addo cyflwyno ei llyfr nesaf iddo. Byddai hynny'n anrhydedd dihaeddiant iawn iddo.

Llythyr oddi wrth Caradog [Prichard], [Llundain] NW11,

Mae wedi dychwelyd yn ddiogel ond ffolineb yw teithio'r nos er mwyn arbed swllt neu ddau. Gwelodd orsaf o'r enw Llong rhwng Dinbych a Chaer. Roedd llythyr Morris T. Williams ac R. W. Parry yn ei ddisgwyl yn ei swyddfa. Diolch yn fawr iddynt am eu croeso. Mae Mati'n cofio atynt yn fawr. Eu gwahodd i weld y ty newydd.

Llythyr oddi wrth J. J. Evans, yn Nhyddewi,

Canmol eu llythyrau campus yn y W[estern] M[ail] ynglyn â Chadair Llên Gymraeg yn Aberystwyth. Prif amcan y Prifathro oedd cael yr arian at ryw agwedd arall o waith y coleg. Ar Dr. Parry-Williams yr oedd y bai. Gwell ganddo gael darlithydd i weithio oddi tano na chael cyd - athro. Yr oedd ofn y deuai Mr. Saunders Lewis i'w swydd. Gofyn i KR ddiolch i Morris T. Williams am y gwaith gwych sydd ar ei lyfryn [Cymry enwog y Ddeunawfed Ganrif (Aberystwyth, 1937)]. Y lluniau a'r map yw'r pethau gorau yn y llyfr.

Llythyr oddi wrth Siân [Mrs D. J.Williams], yn Abergwaun,

Llongyfarch Morris T. Williams ar [ennill etholiad yn enw'r Blaid ar Gyngor trefol Dinbych]. Diolch am eu llythyron. Daeth llythyr doniol oddi wrth D.J. Edrych ymlaen at ddychwelyd adref y mae ac yn cofio at ei ardd. Bydd yn rhydd ymhen un wythnos ar ddeg. Crybwyll englyn a anfonodd "Tydu" (brawd Fred Jones) at D.J.W. yn y carchar. Cafodd gopi o Caneuon Digri Newydd Idwal [Jones] gan Olwen, ei chwaer a bu Saunders [Lewis] yn darllen rhannau i [Lewis] Valentine a D.J. ar ôl te prynhawn Sadwrn. D.J. yn dewis derbyn un o lyfrau KR. Ni fydd gan D.J. amser i ysgrifennu llyfr ar ôl dod allan o'r carchar. Bydd tymor yr ysgol ar fin dechrau ac y mae pob argoel y caiff ei swydd yn ôl ond bydd raid iddo ymddangos gerbron y Bwrdd Addysg a'r Llywodraethwyr. Bydd ganddo waith paratoi mawr.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Ymddiheuro am beidio ag ateb ynghynt. Gafaelodd diddordeb ysol ynddo mewn trydan. Mae'n darparu memorandwm arno i'r Cyngor Datblygiad Cenedlaethol. Dyna paham na chafodd KR ateb i'w gwahoddiad na Mrs Wynne, Garthewin, na Chathrin Daniel "na neb arall o rianedd Gwynedd a daflodd obenyddion lafand at fy mhen, a'm gwahodd i'w byrddau. Awgrymu dod i Ddinbych nos Wener o'r Rhos ac yna mynd nos Sadwrn i ymweld â Garthewin.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Bydd yn dda ganddo ddarllen y llith ar addysg a fwriedir ar gyfer y Ddraig Goch ac fe fydd yn anfon y memorandwm trydan at Morris T. Williams wedi iddo ei ysgrifennu. Mae'n awgrymu bod KR yn darllen gwaith Turgenev, y Rwsiad a straeon byrion Pushkin. Mae sôn am yr Eidalwr, Giovanni Verga a chyfieithiadau o waith awduron tramor eraill. Mae'n bwriadu darllen straeon byrion Cervantes yn eu Sbaeneg gwreiddiol, gan iddo gael crap ar Sbaeneg yn Wormwood Scrubs yn ystod ei oriau hamdden yno. Sôn am agoriadau da i nofelau, e.e. Don Quixote, Anna Karenina ac Enoc Huws ac y mae brawddeg agoriadol Traed mewn Cyffion hefyd yn drawiadol. Diolch am y cyfieithwyr sy'n agor llenyddiaeth dramor i ddarllenwyr. Mae mawredd ysbryd yn nychu'n eglur yn llên Ffrainc y deng mlynedd blaenorol. Holi os bu iddi ddarllen gwaith Proust. Mae Mair yn llunio doethion clai ar gyfer ei phreseb Nadolig.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Nid oedd yn bwriadu bod yn haerllug nac anfoesgar wrth wrthod rhodd KR. Nid oedd yn weddus iddo dderbyn rhodd ac yna ffraeo â hi. Ac yr oedd ganddo destun ffrae. Beirniadu KR am ymyrryd ag erthyglau a oedd i ymddangos yn y Nationalist. Y mae hi, fel argraffydd, yn ceisio rhwystro pethau rhag ymddangos sy'n feirniadol o bapurau Cymraeg wythnosol, Y Cymro yn enwedig. Dyma'r eildro iddi wneud hyn. Peth arall fyddai iddi anfon ei beirniadaeth ato ef. Mae Saunders Lewis yn fodlon derbyn cerydd neu gernod ganddi, digio'n blwmp am ddeuddydd a'i charu wedyn.

Llythyr oddi wrth Percy Griffiths, yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ,

Mae'n gobeithio bod KR yn well. Bu'n cerdded drwy Wlad yr Iâ ar ei ben ei hunan o'r de-orllewin i ben gogleddol yr ynys. Cafodd dywydd ffafriol a gwelodd olygfeydd gwych. Bu'n marchogaeth heb gyfrwy - mae'n dda iddo gael profiad ar gefn merlyn gwerthu cocos ei frawd slawer dydd. Cerdyn post. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Hugh Griffith, [Llundain] N5,

Mae wedi petruso cyn ateb llythyr KR er mwyn gweld sut mae pethau'n mynd gyda "Rhondda". Nid yw'n credu y bydd yn para mwy na thair wythnos i fis. Gwell iddi gychwyn gyda'r bachgen arall a bydd ef yn barod i ddysgu'r rhan [yn Llywelyn ap Gruffydd] ar ôl iddo astudio'r sgript yn fanwl.

Llythyr oddi wrth Annie Owen, yn Abertawe,

Awgrymu cerddoriaeth Ffrengig ar gyfer perfformiad Llywelyn ap Gruffydd. Cafwyd perfformiad o'r ddrama yn ystod wythnos ddrama ddiwethaf Abertawe. Awgrymu sut i gael hyd i gopi o'r gerddoriaeth. Darlithydd yn Adran Addysg Coleg y Brifysgol Abertawe yw hi.

Results 2341 to 2360 of 2413