Dangos 338 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Parch. J. Dyfnallt Owen
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Toriadau Papur Newydd, ayb,

'Rupert Brooke' allan o The Welshman Supplement, ? Ebrill, 1920. 'Awen y Rhondda gynt.' (Proflenni gali). Yn cynnwys rhagor o hanes 'Clic y Bont', a defnyddiau a gafwyd gan William Jones. 'Emyn George Matheson'. Y Dysgedydd, Medi, 1926. 'Brut yr Enwad' (Proflenni gali gan mwyaf, yn cynnwys 'Genesis a Threigl yr Achos yng Ngwynfe', a defnyddiau ar 'Stephen Hughes, Apostol Sir Gaerfyrddin'). Dechreuad Undeb yr annibynwyr Cymraeg, 1872: Cyfres o lythyrau. (Proflenni gali). 'Y Dadeni Llenyddol yng Nghymru, 'Pennod yn hanes y nofel Gymraeg', 'Y Celtiaid yn y Drych', 'Teithio Rhufain' ayb. (Proflenni gali). 'Taith Pererin yn Llydaw'. (Proflenni gali). Cyffredinol. O'r Listener,. Llithiau ar: Goronwy Owen. Mazzini. Hefyd ysgrif neu ddarlith yn dwyn y teitl 'Gwir Werinwr. Joseph Mazzini - Proffwyd yr Eidal Gyfan'. Eifion Wyn. Syr J. Morris Jones. R. Williams Parry. Llên ac Awen Cymru' gan J. Roberts Williams, o'r Cymro, 1937-38. 'Y Golofn Gymraeg' gan y Parch R. Hughes, Valley, o'r Goleuad. Hefyd ysgrifau gan yr un gwr ar 'Briod-ddulliau'r Gymraeg', o'r Drysorfa. 'Yr Ysgol Gymraeg' o'r Darian. 'Y Gongl Gymraeg' o'r Eurgrawn Wesleaidd. 'Iachawdwriaeth ac Iechydwriaeth', o'r Goleuad, 1928. Cyffredinol, Cymraeg a Saesneg. Hefyd rhai erthyglau. Personol. 'Y Wasg a'r Archdderwydd'. Cuttings ynglyn ag Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1954. 'Cronicl Hanes ac Archdderwyddiaeth Dyfnallt' ac Adolygiadau ar y gyfrol Ar y Twr. (1953). Amrywiol. Ychydig bapurau ynglyn â'r Gyngres Geltaidd, Glasgow, 1953. Personalia a mân bapurau. Un ddalen o ddyddiadur 1922. Llechen a gyflwynwyd i Dyfnallt yng Nghynfal, Gorff. 23, 1949, gan J.W. Jones, Minffordd, Oakely Square, Blaenau Ffestiniog, ac arni gopi o'r geiriau sydd ar y tabled a osodwyd i gofio man geni Morgan Llwyd. 'Memorandwm. Achos y Wladfa. Y Sefyllfa yn Grefyddol', gan J. Dyfnallt Owen. Printiedig. 'Y Gymraeg a Diwylliant. Anerchiad a draddodwyd yn Heol Awst. Caerfyrddin, ar achlysur ymweliad Pwyllgor Ymchwil yr Iaith Gymraeg, Ionawr 27-29, 1926, Gan Ddyfnallt'. Printiedig.

Canlyniadau 241 i 260 o 338