Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1863-1956 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
0.2 metrau ciwbig (7 bocs)
Context area
Name of creator
Biographical history
Yr oedd John Dyfnallt Owen (1873-1956) o Lan-giwg, Morgannwg, yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn Archdderwydd Cymru. Magwyd ef gan rieni ei dad ar ôl marwolaeth ei fam pan oedd yn flwydd oed. Ar ôl gweithio am gyfnod byr yn y lofa, aeth i Athrofa Parcyfelfed ac i Goleg Bala-Bangor. Bu'n weinidog Sardis, Pontypridd, rhwng 1905 a 1910. Yn 1907 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol. Priododd a chawsant ddau blentyn. Daeth yn weinidog Stryd Lammas Caerfyrddin yn 1910. Yn 1916 aeth yn gaplan yn Bethune, Ffrainc, ar ran y YMCA. Un o'i ddiddordebau pennaf oedd ymchwilio i hanes achos yr Annibynwyr yng Nghymru. Daeth yn olygydd Y Tyst yn 1927, lle y cafodd rhwydd hynt i fynegi ei farn ar Gristnogaeth a heddwch. Teithiodd ar y cyfandir, gan gynnwys Gwlad Pwyl, y Swistir a Bafaria. Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, yr oedd yn Danzig pan gyhoeddodd amryw o erthyglau.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Mrs Dyfnallt Owen; Rhodd; 1957.
Content and structure area
Scope and content
Papurau o eiddo J. Dyfnallt Owen neu a grynhowyd ganddo, 1863-1956, yn cynnwys pregethau; nodiadau bywgraffyddol ar weinidogion anghydffurfiol; llythyrau a phapurau eraill yn ymwneud ag achos yr Annibynwyr, 1863-1953; llythyrau amrywiol pellach, 1878-1956, rhai ohonynt yn cyfeirio at yr Orsedd yn Llydaw a Chernyw; dyddiaduron, 1897-1956; cyfraniadau ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Tyst, etc., 1923-[1953]; sgriptiau radio, 1931-1955; pregethau, 1919; torion o'r wasg, [1872]-1954; dyddlyfrau taith, a nodiadau ar bynciau hanesyddol a llenyddol, 1901-1953. = Papers of and accumulated by J. Dyfnallt Owen, 1863-1956, including sermons; biographical notes on nonconformist ministers; letters and other papers concerning the Independent cause, 1863-1953; further miscellaneous letters, 1878-1956, some of which refer to the Gorsedd in Brittany and Cornwall; diaries, 1897-1956; contributions for publication in Y Tyst, etc., 1923-[1953]; radio scripts, 1931-1955; sermons, 1919; press cuttings, [1872]-1954; travel journals, and notes on historical and literary subjects, 1901-1953.
Appraisal, destruction and scheduling
Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: amrywiol llawysgrifau; gohebiaeth yn ymwneud ag enwad yr Annibynwyr; dyddiaduron Dyfnallt; amrywiol; torion o'r wasg; llythyrau; a llythyrau at Dyfnallt.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- French
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Ffrangeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Place access points
Name access points
- Dyfnallt, 1873-1956 -- Archives (Subject)
- Dyfnallt, 1873-1956 -- Diaries (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Mawrth 2003.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau J. Dyfnallt Owen; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001)
Archivist's note
Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW.