Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Dyddiaduron

Dyddiaduron T. Eirug Davies, 1914-1951. Mae dyddiadur 1928 yn cynnwys ychwanegiadau diweddarach fel cerddi gan T. Eirug Davies, 1938-1939, torion o'r wasg am farwolaeth ei wraig yn 1951, nodiadau am hanes lleol Gwernogle, ynghyd â phapurau rhydd [Alun Eirug Davies].

Cerddi

Cerddi llawysgrif a theipysgrif gan T. Eirug Davies, [1927]-[1950], gan gynnwys 'Dyffryn Clydach', 'Chwerthin y meirw', '1941', 'Y dragonau', 'At yr ifanc ar wasgar' ac 'Aberystwyth'.

Gohebiaeth David Owen Roberts

Llythyrau, &c., ynglyn â David Owen Roberts, brawd Kate Roberts - ei wasanaeth yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ei glwyfo yn Salonika yn 1917 a'i farwolaeth ym Malta yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ynglyn â'i fedd ym Mynwent Filwrol Pieta, Malta, a chais i gael pensiwn milwrol i'w fam. Gweler hefyd gerdd goffa i David Owen Roberts o waith y bardd 'Tryfanwy' wedi ei fframio yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau 600.

Yr Hen Gloch

Dwy gerdd teipysgrif, [1917x1918], [gan Caradog Rowlands, Llanuwchllyn], un, yn dwyn y teitl 'Yr Hen Gloch', ynglŷn â Lewis Davies, Blaenau Ffestiniog, golygydd papur newydd Y Gloch, oedd hefyd yn Swyddog Gorfodaeth i'r Fyddin (f. 1), a’r llall, ['Palas Pen Gwalia'], am Robert Edward Roberts, a oedd gyda swydd cyffelyb yn ardal Llanuwchllyn (f. 2). Ceir rhywfaint o gefndir y cerddi yn Haf Llewelyn, I Wyneb y Ddrycin: Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr (Bala?, 2017), tt. 41-43, yn ogystal a saith pennill cyntaf 'Palas Pen Gwalia' (t. 43). = Two typescript poems, [1917x1918], [by Caradog Rowlands, Llanuwchllyn], one, entitled 'Yr Hen Gloch', concerning Lewis Davies, Blaenau Ffestiniog, editor of the newspaper Y Gloch who was also an Army Conscription Officer (f. 1), the other, ['Palas Pen Gwalia'], concerning Robert Edward Roberts, who fulfilled the same role in the Llanuwchllyn area (f. 2). The background to the poems is briefly discussed in Haf Llewelyn, I Wyneb y Ddrycin: Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr (Bala?, 2017), pp. 41-43, alongside the first seven verses of 'Palas Pen Gwalia' (p. 43).

Rowlands, Caradog Tegid, 1891-1968

Amrywiol

Llyfr nodiadau ar ‘stage costumes’ a gwaith meim a beirniadaeth Gwynne D. Evans ar gystadleuaeth ysgrifennu drama un act Cymdeithas Ddrama Cymru 1967, ynghyd ag amrywiaeth o sgetshis ganddo a phapurau personol.

Llythyrau a cherddi ar gyfer Yr Efrydydd

Llythyrau a cherddi i Yr Efrydydd, [1917]-[1946], oddi wrth T. Gwynn Jones at y golygydd E. Tegla Davies. = Letters and poems, [1917]-[1946], from T. Gwynn Jones to E. Tegla Davies, editor of Yr Efrydydd.

Englyn Hedd Wyn i J. B. Thomas

Englyn yn llaw Hedd Wynn [sic], [1917], at ei gyfaill a'i gyd-filwr J. B. Thomas. Cyhoeddwyd yr englyn yn J. B. Thomas, 'Hedd Wyn - A Minnau', Y Drysorfa, 109 (1939), 464-467 (t. 465) (gw. hefyd Alan Llwyd, Gwae Fi Fy Myw: Cofiant Hedd Wyn (1991), t. 213). = An englyn in the hand of Hedd Wynn [sic], [1917], addressed to his friend and fellow-soldier, J. B. Thomas. The englyn was published in J. B. Thomas, 'Hedd Wyn - A Minnau', Y Drysorfa, 109 (1939), 464-467 (p. 465) (see also Alan Llwyd, Gwae Fi Fy Myw: Cofiant Hedd Wyn (1991), p. 213).

Hedd Wyn, 1887-1917.

Tystysgrifau,

Tystysgrif geni byr, 1917; Decree Nisi Absolute (ysgaru), 1975; priodas i Vera Williams, 1975; marwolaeth, 1985.

Papurau Gilmor Griffiths,

  • GB 0210 GILGRIF
  • Fonds
  • 1917-2011.

Llawysgrifau cerddorol a phapurau'r cyfansoddwr ac athro, Gilmor Griffiths.

Griffiths, Gilmor, 1917-1985.

Sgriptiau Gwynne D. Evans

  • GB 0210 GWYDEV
  • Fonds
  • 1917-1988

Sgriptiau dramâu Gwynne D. Evans, 1946-[1979], gan gynnwys rhai a ddanfonwyd i gystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac a ddarlledwyd ar y radio ac ar y teledu; sgriptiau 'Pobol y Cwm'; ynghyd â phapurau’n ymwneud â’i waith fel cynhychydd Under Milk Wood a Dan y Wenallt.

Evans, Gwynne D. (Gwynne David), 1908-

Papurau personol,

Papurau personol ac eitemau eraill sy'n perthyn i Gilmore Griffiths. Toriadau i'r wasg syndod ac effemera wedi'u trefnu yn ôl diddordeb. Ychwanegwyd rhai papurau gan ei weddw.

Effemera,

Bathodyn Cymdeithas Cerdd Dant, stamp 'Musicians Union', stamp boglynwaith a 7 trawffyrch.

Results 281 to 300 of 59614