File NLW MS 21673C. - Llythyrau a cherddi ar gyfer Yr Efrydydd

Identity area

Reference code

NLW MS 21673C.

Title

Llythyrau a cherddi ar gyfer Yr Efrydydd

Date(s)

  • 1934-1935 (Creation)

Level of description

File

Extent and medium

144 ff. (dalenwyd 1-141 (+ 3a, 4a, 36a) gan y rhwymwr; llythyrau wedi eu rhifo 1-32)

Gardiwyd a ffeiliwyd yn LlGC.

Context area

Name of creator

Biographical history

Ganwyd Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd, newyddiadurwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, beirniad ac ysgolhaig, yn y Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, sir Ddinbych. Yn 1899 priododd Margaret Davies, a chawsant ferch a dau fab. Heblaw am addysg elfennol, yr oedd Jones yn hynanddysgedig, er iddo dderbyn gwersi mewn mathemateg, Lladin a Groeg gan gymydog. Rhwystrwyd ei uchelgais o astudio yn Rhydychen gan afiechyd, a gweithiodd fel newyddiadurwr gyda Baner ac Amserau Cymru, Y Cymro (y daeth yn olygydd arno faes o law), Yr Herald Gymraeg a phapurau newydd eraill rhwng 1891 a 1909, pan gymerodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1913, a'i ddyrchafu i Gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919; ymddeolodd yn 1937. Derbyniodd y CBE yr un flwyddyn. Dylanwadwyd Jones yn gryf gan y llenor Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan,1851-1906) ac yn arbennig gan y newyddiadurwr a'r cyfieithydd Daniel Rees (1855-1931), gyda'r hwn y magodd berthynas glos. Yn ogystal ag ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg cyfoes ac o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, a hefyd llên gwerin ac ieithoedd tramor, yn enwedig Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd eraill; bu ar ymweliad ag Iwerddon deirgwaith rhwng 1892 a 1913, daeth i gysylltiad ag ysgolheigion Gwyddelig, a defnyddiodd lysenwau fel Fionn mhac Eóghain yn ei ohebiaeth atynt. Ei brif lwyddiant oedd fel bardd pwysicaf ei genhedlaeth, yn cyfansoddi'n bennaf yn y mesurau caeth. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farddoniaeth yn y 1880au, ac enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902 a 1909 (am 'Ymadawiad Arthur a 'Gwlad y bryniau'); ymhlith gweithiau eraill o'i eiddo mae 'Tir na nOg', 'Madog' ac 'Y Dwymyn'. Cyfieithodd Jones waith Goethe, Ibsen, Shakespeare ac eraill i'r Gymraeg, a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Gweledigaethau y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1670/1-1734). Mae ei brif gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys astudiaeth ar waith y bardd Tudur Aled (bl. 1480-1526), ac roedd yn awdur nofelau, dramâu, cofiannau a llyfr taith hefyd. Yn ogystal, yr oedd yn beirniadu a darlithio mewn eisteddfodau yn rheolaidd, ac yn athro dylanwadol.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Deuddeg-ar-hugain o lythyrau, 1934-1935, oddi wrth T. Gwynn Jones at E. Tegla Davies ynglyn â'r cylchgrawn Yr Efrydydd a olygwyd gan Tegla (ff. 1-41), yn ogystal â fersiynau llawysgrif o ddarnau barddoniaeth gan T. Gwynn Jones a ymddangosodd yn Yr Efrydydd rhwng Awst 1934 a Medi 1935, sef 'Ogof Arthur', yn dwyn y ffugenw 'Don Ciceto', ac 'Eog', 'Dadanudd' (dau gopi), 'Y Ffenestr', 'Ofn', 'Yn y Gwaed', 'Cynddylig', 'Dirgelwch', 'Y Duwiau', 'Dynoliaeth', 'Dau', 'Y Ffin' ac 'Y Fraint (T.F.J. +1933)', oll dan y ffugenw 'Rhufawn' (ff. 42-141). = Thirty-two letters, 1934-1935, from T. Gwynn Jones to E. Tegla Davies concerning the periodical Yr Efrydydd of which Tegla was the editor (ff. 1-41), as well as manuscripts of poetry by T. Gwynn Jones which appeared in Yr Efrydydd between August 1934 and September 1935, namely: 'Ogof Arthur', bearing the pseudonym 'Don Ciceto', and 'Eog', 'Dadanudd' (two copies), 'Y Ffenestr', 'Ofn', 'Yn y Gwaed', 'Cynddylig', 'Dirgelwch', 'Y Duwiau', 'Dynoliaeth', 'Dau', 'Y Ffin' and 'Y Fraint (T.F.J. +1933) ', all bearing the pseudonym 'Rhufawn' (ff. 42-141).

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Trefnwyd yn LlGC fel a ganlyn: llythyrau (trefnwyd yn ôl dyddiad); barddoniaeth.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cymraeg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Alternative identifier(s)

Rhif rheoli system Virtua

vtls006892771

Access points

Subject access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area