- D404.
- File
- dd.
Part of Papurau Thomas Gwynn Jones
Copi o Y Bibl Cyssegr-lan, ... argraphiad cyfargraph (Rhydychen: .... gan Samuel Collingwood ac eraill, ... 1821) a roddwyd yn wobr i John Roberts, brawd i Robert Roberts, taid T. Gwynn Jones a Mrs Sarah Ellen Jones o ochr eu mam, gan y Parchedig Thomas Alban, ficer Llandrillo-yn-Rhos, sir Ddinbych, 'am ei ymddygiad da yn Ysgol Llandrillo; ac am ddysgu darllen Iaith ei Enedigaeth, Mai 7fed 1822'. Ar gefn wyneb-ddalen y Testament Newydd ceir cofnodin yn rhoi dyddiad geni plant Robert a Sarah Roberts, Bryncar (Betws-yn-Rhos], dyddiad geni a bedyddio Sarah [sic] (Roberts), 1822, a dyddiad geni Robert Roberts, 1818. Y mae'r tudalennau o flaen sig. A3 yn eisiau, hefyd tt. 31-2 o [Llyfr Gweddi Cyffredin] a tt. 65-6 o Llyfr y Psalmau, .. trwy waith Edmwnd Prys.