Print preview Close

Showing 3701 results

Archival description
Papurau Thomas Gwynn Jones Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyrau T. Gwynn Jones ym Mhrifysgol Cymru-Bangor. Llungopïau yn bennaf o'i lythyrau, 1902-39, a gedwir yn Llyfrgell Prifysgol Bangor, gan ...,

Llythyrau T. Gwynn Jones ym Mhrifysgol Cymru-Bangor. Llungopïau yn bennaf o'i lythyrau, 1902-39, a gedwir yn Llyfrgell Prifysgol Bangor, gan gynnwys rhestr a chrynodeb o gynnwys ei lythyrau (19453-517); llythyrau at W. Beynon Davies, 1930-2; llythyrau at Garmon Jones, 1925-36 (11875-84); llythyrau at J. W. Jones, 1926-42 (10551); llythyrau at [R.] Silyn [Roberts], 1902-30; llythyrau at David Thomas, 1921, 1938 a 1944 (19259, 19263, 19890); sgript rhaglen 'Ymadawiad Arthur' a luniwyd gan T. Rowland Hughes (14305); ynghyd â llythyr gwreiddiol oddi wrth Syr John Morris-Jones, 1921, a thoriad o'r Western Mail, 1926, yn cynnwys adolygiad o T. Gwynn Jones, Detholiad o ganiadau (Gwasg Gregynog, 1926), ac 'Atgof am gyfaill gwiw', Y Faner, 1942.

Llythyrau a anfonwyd at John Ballinger, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru,

Llythyrau, 1908-1926, yn bennaf at John Ballinger, gan gynnwys rhai yn egluro absenoldeb oherwydd salwch; llythyr, 1908, yn holi am fanylion swydd cynorthwy-ydd i John Ballinger; llythyr, 1909, yn derbyn y swydd; llythyr, 29 Hydref 1913, yn hysbysu'r Llyfrgellydd o'i ymddiswyddiad; ynghyd â deiseb, 1914, at aelodau'r Cyngor yn dymuno cael caniatâd i gopïo llawysgrifau gyda phin ac inc yn hytrach na phensil; ymhlith y pump sydd wedi arwyddo mae T. Gwynn Jones, Timothy Lewis a T. H. Parry-Williams. Saesneg yn bennaf/mainly in English.

Gohebiaeth Hughes a'i Fab. Llythyrau, 1937-43, yn ymwneud â materion cyhoeddi; ynghyd ag adroddiadau ganddo fel darllenydd i'r cwmni ac ...,

Gohebiaeth Hughes a'i Fab. Llythyrau, 1937-43, yn ymwneud â materion cyhoeddi; ynghyd ag adroddiadau ganddo fel darllenydd i'r cwmni ac awgrymiadau am gynnwys y llyfrau (gweler hefyd Archif Hughes a'i Fab yn Adroddiad Blynyddol 1957-1958, t. 23, am ohebiaeth ac adroddiadau, 1937-43, gan T. Gwynn Jones yn ymwneud â llawysgrifau yr oedd i roi ei farn arnynt).

Llythyrau at J. Breese Davies, Dinas Mawddwy. Ymhlith y gohebwyr mae Ifan ab Owen Edwards, 1921 (2); T. Gwynn Jones ...,

Llythyrau at J. Breese Davies, Dinas Mawddwy. Ymhlith y gohebwyr mae Ifan ab Owen Edwards, 1921 (2); T. Gwynn Jones (cynghorion ieithyddol), 1921-38 (5); Bob Owen, Croesor, 1936 (1); D. J. Williams, Llanbedr, 1934 (1) a'i erthygl am R. J. Derfel; H. Cernyw Williams, 1922 (1); ac Ifor Williams (2), heb ddyddiad; ynghyd â llythyr esboniadol, 1968, oddi wrth yr Athro T. J. Morgan at E. D. Jones.

Llythyr oddi wrth T. Gwynn Jones at Eluned, 1937, ac at ei gwr Francis Wynn Jones, 1941 a 1943; ynghyd ...,

Llythyr oddi wrth T. Gwynn Jones at Eluned, 1937, ac at ei gwr Francis Wynn Jones, 1941 a 1943; ynghyd â cherddi gan gynnwys englynion a luniodd i aelodau o'i ddosbarthiadau, 1922-23, ac yn eu plith un i Iorwerth Peate; 'Llurig Badrig' a ymddangosodd yn Yr Efrydydd, Hydref 1940; 'Byd a Fu (Er cof am Breese Davies)', 1940; 'Y rhith', ac 'Fel y dylai fod', 1941; ac 'Isander', 1942; a throsiadau o emynau o'r Lladin, cyhoeddwyd llawer ohonynt yn Emynau Mynyw (Wrecsam, [1938]).

3 Llythyr at ei ferch Eluned, 1935, 1937 a 1944 ac 1 at ei fab-yng-nghyfraith Francis Wynn Jones, 1945; llythyr ...,

3 Llythyr at ei ferch Eluned, 1935, 1937 a 1944 ac 1 at ei fab-yng-nghyfraith Francis Wynn Jones, 1945; llythyr, 1945, oddi wrth y Parchedig Dyfnallt Owen, golygydd Y Tyst; ynghyd â phapurau eraill gan gynnwys adysgrif o lythyr oddi wrth yr Arglwydd Rendel at y Prifathro T. F. Roberts gyda chyfeiriad at ddarluniau John Kelt Edwards ar gyfer cyfieithiad Daniel Rees o Divina Commedia Dante; toriad o'r Dublin Evening Mail, 1938, yn dangos T. Gwynn Jones mewn cynhadledd yn y Brifysgol; manylion, 1945, am y trefniadau i gael Evan Walters i wneud portread mewn olew o T. Gwynn Jones a'r cyflwyno; taflenni gwasanaethau coffa a gynhaliwyd iddo yn Hebron, Hen Golwyn, Mawrth 1949, ac yng Nghapel Hyfrydle, Betws-yn-Rhos, Gorffennaf 1950.

Results 21 to 40 of 3701