Print preview Close

Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Llundain],

Mae'n gallu rhagweld pan fydd yn mynd i dderbyn llythyr oddi wrth KR. Trafod iechyd brawd KR [Richard] a'i deulu. Trafferthion KR gyda Miss Lee a'i hanallu i gael cwmni i fyw yn Y Cilgwyn. Sôn am drafferthion yn Hwngari. Dim ond hen bobl sy'n cael dod allan o'r wlad bellach. Hanes ei brawd yno. Cafodd ei thwyllo ynglyn â'i swydd fel llyfrgellydd. Mae iechyd ei gwr yn well. Edrych ymlaen i'w chroesawu i aros yn ei fflat yn Llundain ym mis Medi. Mae Daisy yn astudio'n galed ar y pryd. Mae ganddi natur gwerylgar sydd yn ei gwneud yn anodd i'w thrin. Derbyn cynnig KR i anfon dillad iddi. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, [Abertawe],

Diolch am gael gweld dwy ddrama fer a gwaith D[afydd] Ellis. Mae'n gweld dylanwad Bob [R. Williams] Parry ar ei awdl. Yr oedd ganddo ddawn arbennig. Dylai KR ysgrifennu amdano. Nid oedd Saunders Lewis erioed wedi clywed amdano. Trafod y ddrama "Wel! Wel!". Ai gwir yr adroddiad yn y Western Mail i KR ddweud nad oes awdur pros o'r radd flaenaf i'w gael yng Nghymru? Mae'n taeru bod hynny'n anwiredd noeth. Traddododd dair darlith yn ddiweddar ar y nofel Gymraeg ym Mlaendulais gyda Seymour Rees yn aelod o'r dosbarth. "Ni welais erioed y fath gynulleidfa o anwariaid syml". Mae'n dweud wrth KR am gadw'r llyfr o waith [James] Joyce a fenthycodd iddi gyhyd ag y mynn. Darllenwyd ef gan Morris Williams cyn ysgrifennu ei gyfrol a chan Prosser Rhys cyn ysgrifennu ei bryddest "Atgof". Nid bychan ei effaith ar lên Gymraeg felly.

Llythyr oddi wrth W. T. Owen, yn Blackpool,

Anfon dyfyniad o lythyr Ffrangeg, 22 Ion. 1952, oddi wrth y cenedlaetholwr Llydewig [André] Geffroy a oedd wedi ei gondemnio i farwolaeth. Awgrymu cyhoeddi'r dyfyniad yn Y Faner er mwyn cadw achos Geffroy o flaen y cyhoedd. [Bu llawer o sylw i achos André Geffroy yn Y Faner, e.e. Dr Ceinwen H. Thomas, "Ymddygiad Gwarthus Llywodraeth Ffrainc" (6 Chwef. 1952), t. 3].

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yng Nghastell-nedd,

Ymddiheuro am beidio ag adolygu cyfrol ar gyfer Y Faner. Mae ei wraig yn Aberystwyth, yntau yng Nghastell-nedd ac yn teithio i Gaerdydd. Byddant yn symud o gwmpas y Pasg os llwyddant i werthu'r ddau dy sydd ar eu dwylo. Mae'n anodd paratoi darlithiau dan yr amgylchiadau hynny. Mae G. J. W[illiams] yn chwerthin am ei ben pan ddywed fod arno ofn y dosbarth clod wedi pymtheng mlynedd yn yr anialwch. Bu farw ei fodryb yn yr haf a phriododd ei ferch wedi'r Calan a phrynodd dy iddi a'i ddodrefnu. Holi am iechyd KR. Mae bronfraith yn canu iddo bob bore fel petai Ionawr y gorau o fisoedd y flwyddyn. Mae'n bwydo'r aderyn â chrwyn Camembert yn dâl.

Llythyr oddi wrth [D.] Gwenallt [Jones], ym Mhenparcau,

Mae'n ddrwg ganddo na fu iddo ysgrifennu ati tra bu yn yr ysbyty. Mynegi ei siom ar beidio â chael ei benodi i Gadair [Gymraeg Aberystwyth]. Buasai'n well pe bai wedi rhoi'r gorau i farddoni a sgrifennu pwt o ddrama ond ni fynnai fygu'r ddawn a roes Duw iddo er mwyn gwneud mwy o ymchwil. Disgrifio effeithiau gorweithio ar ei iechyd. Rhoddodd y gorau i ysmygu a gwrthod llawer o wahoddiadau. Diolch i KR a'r Faner am ei gefnogi. "Y mae'n hen bryd cael gwared ar rai pobl yng Nghymru, a'r pedwar cythraul mwyaf ohonynt yw'r Prifathro, Ifor Williams, Henry Lewis ac Ifan Ap ... nid yw Ifor Williams a Henry Lewis yn gwybod dim am lenyddiaeth ddiweddar Cymru. Nid ydynt wedi darllen yr un o'ch llyfrau chwi a'm llyfrau i. Ar ôl astudio'r Cynfeirdd y mae Ifor Williams yn darllen nofelau ditectif, ac ar ôl astudio ieitheg Geltaidd y mae Henry Lewis yn darllen llyfrau 'Cowboys'". Drwg ganddo glywed am salwch ei brawd. Rhoes Rhagluniaeth iddi fwy na'i rhan o ofidiau'r byd hwn - ond y gofidiau hyn a fu deunydd ei chelfyddyd, ni fuasai'n gymaint o artist oni bai amdanynt. Trefnu cwrdd yn Eisteddfod Aberystwyth. Bydd tair potelaid o win ganddo'n barod iddi.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Sylwi yn Y Faner fod KR yn yr ysbyty. Mae cael llythyr yn yr ysbyty yn well nag ymweliad. Cafodd wyliau da yn Llanrwst, Killarney, Normandi a Chartres. Bu'r teulu yn Iwerddon ond Moses Griffith ac Alun Pugh a oedd gydag ef yn Ffrainc. Bu'n llosgi pethau personol yng Nghastell-nedd. Mae ei ddosbarthiadau yn y coleg Catholig yn Aberystwyth wedi ailgychwyn. Cynnig ysgrifennu drosti i'r Faner tra bydd yn yr ysbyty.

Llythyr oddi wrth J. Glyn Davies, yn Llanarth,

Bu'n sâl dros y gaeaf. Trafod merched yn nofelau Daniel Owen - Mari Lewis, Gwen Tomos a Susie [Trefor]. Trafod nodweddion merched y dosbarth canol. Sôn am ddrama KR ar yr eneth gadd ei gwrthod. Bu yng nghwmni Daniel Owen am awr yn dotio at ei adar bach yng nghefn y siop. Amgau adysgrif o hanes Edward Matthews, Ewenni, ac achos disgyblu yng Ngholeg Trefeca pan siaradodd un o'r myfyrwyr â merch y prifathro.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Bu'n gorffwyso gerllaw llyn Killarney. Cafodd lythyr oddi wrth KR a Mrs Bob Parry. Mae [R. Williams Parry] yn addo cyhoeddi [ei farddoniaeth, Cerddi'r Gaeaf] ar yr amod y byddai Saunders Lewis yn ysgrifennu rhagair iddo. Bu Saunders Lewis a'i wraig a Mair "yn ôl i 1910 yn Iwerddon a dysgu mai bod ddeugain mlynedd 'ar ôl yr oes' yw ymgadw'n wareiddiedig a chadw bywyd yn fwyn". Mae arno ofn fod y Wyddeleg wedi darfod amdani. Dyna'r argraff a gafodd ef.

Llythyr oddi wrth E. Tegla Davies, ym Mangor,

Diolch am araith KR ar "Ddirywiad yr Iaith Lafar", yr oedd yn draethiad cyfoethog a disglair. Trafod termau "cwpan pen glin" a "pont ysgwydd". "O na buasai Cymraeg cadarn pobl uniaith ddiaddysg, fel fy rhieni gennyf fi". Aeth enwau'r misoedd, dyddiadau a phrisiau yn Saesneg ar lafar, hyd yn oed gan Gymry gloyw. Mae'r iaith yn dirywio'n gyflym ar ein tafodau ni. Hyderu y caiff rywbeth i liniaru'r boen. Mae gan KR ddewrder mawr wrth wynebu siomedigaethau a blinderau bywyd.

Llythyr oddi wrth Lewis Valentine, yn Rhosllannerchrugog,

Cafodd aildrawiad o'r ffliw a llid ar y croen. Ei anallu i gysuro pobl. Bu'n siarad am KR am awr gyda Jemima yn Nhreflys yn noson cynt. Mae Hedd, ei fab, wedi graddio yn Aberystwyth ac yn bwriadu dychwelyd i gael clod mewn Economeg neu Athroniaeth. Bu'n boen iddo ers iddo ddychwelyd o'r fyddin - y mae'n Dori rhonc - dim i'w ddweud wrth y Blaid na'r capel. "Peth go arw ydyw gorfod cydnabod na allwn fod yn Rhagluniaeth i'n plant". Bwriada D. J. [Williams] ac yntau ddod i'w gweld os na fydd yn Abergele.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Deall bod KR yn dioddef yn enbyd gyda'r cryd cymalau. Bu ef a'r wraig yn gwylio'r Orsedd yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. Gwelodd T. H. Parry-Williams, Gwenallt ac Aneirin Talfan yn gwylio ymhlith y dorf. Gwelodd Dr Lloyd-Owen yn ystod y bore gyda barf newydd a phraff. Aflêr oedd gorymdaith y beirdd. Arweiniwyd hwy gan fand y British Legion yn canu "Gwyr Harlech". Mae'n bustachu i orffen trydedd act comedi i Gwmni Garthewin. Mae hi'n costio llawer o lafur a chur pen iddo. Rhaid ei gorffen cyn canol Gorffennaf.

Copi o gais am swydd gan KR yn ei llaw ei hunan, yn rhestru ei chymwysterau a'i gyrfa hyd ei ...,

Copi o gais am swydd gan KR yn ei llaw ei hunan, yn rhestru ei chymwysterau a'i gyrfa hyd ei dyrchafu'n bennaeth adran yn Aberdâr yn 1920. Cynhwysir hefyd ddyfyniad o adroddiad yr Arolygydd Ysgolion yng Ngorffennaf 1925 yn canmol ei gwaith yn athrawes Gymraeg. Ceir hefyd adysgrifau o dystlythyrau oddi wrth: Margaret S Cook, Aberdâr, 21 Gorffennaf 1924 ac atodiad 29 Mehefin 1926; y Parchedig R Williams, Aberdâr, 21 Gorffennaf 1924; a'r Athro Ifor Williams, Bangor, 22 Gorffennaf 1924. Nodir bod y tystlythyrau wedi eu casglu pan geisiodd KR am swydd prifathrawes yn Ysgol Ganol Llanelli yng Ngorffennaf 1924. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Diolch am anfon i ganmol sgwrs radio. Ni chlywodd ei sgwrs hi a'i rhagflaenodd ef. Rhydwen Williams oedd yn cyd-ddarllen gydag ef yn y rhaglen, "mae ganddo lais pêr ac y mae'n wr ifanc dymunol dros ben a naturiol a diymhongar". Anfonodd y sgwrs i'r Faner nesaf gan ei bod yn dilyn Jeremi Owen yn ddigon priodol. Cafodd lythyr oddi wrth D. J. Williams, Abergwaun, sydd yn gwella'n dda ac wedi ailddechrau ysgrifennu. Mae ganddo ddrama i'w hysgrifennu erbyn mis Mai ond ni chafodd amser i'w dechrau eto.

Llythyr oddi wrth O. G. Williams, yn Ystalyfera,

Diolch am lythyr a dderbyniodd ganddi. Cafodd bleser mawr o ddarllen Stryd y Glep. Gall hi a Saunders Lewis fel T. Gwynn Jones greu llenyddiaeth bob tro y gosoda bin ar bapur. Hoffai ysgrifennu hanes plwyf Llangïwg cyn marw. Ysgrifennodd bennod ar hanes blaen Cwmtawe ar gyfer Undeb yr Annibynwyr a gynhaliwyd yno fis Mehefin.

Results 21 to 40 of 2413