Print preview Close

Showing 163 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon file
Print preview View:

Cofrestr

Yn y gyfrol a ddisgrifir fel 'scrap book' ceir rhestri, 1916-1939, o'r aelodau newydd a dderbyniwyd a'r dull o wneud hynny ac o ba Eglwys, ynghyd â phapurau rhydd, 1947-1948, yn ymwneud â galw'r Parch. D. Tudor Jones yn weinidog i'r eglwys yn 1948. Yng nghefn y gyfrol ceir rhestr o'r rhai a fu farw, 1916-1938.

Gweithredoedd

Gweithredoedd, 1809-1929, gan gynnwys cytundeb ynglŷn â chodi addoldy ar dir Capel Henwalia yn 1885; ethol swyddogion newydd yn 1886; gweithredoedd, 1906, yn ymwneud â phrynu Ysgoldy Mark Lane; prynu'r Mans sef Bryn Beuno yn 1909; ynghyd â phapurau'n gysylltiedig â chymynrodd Robert Roberts, 1929.

Ystadegau

Taflenni pwrpasol ar gyfer cofnodi ystadegau blynyddol am yr Eglwys, 1938-[1993]. Cedwid un copi gan yr Eglwys ac anfonwyd copi arall at yr Henaduriaeth.

Results 21 to 40 of 163