Showing 160 results

Archival description
Papurau Waldo Williams File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Cerdd Olaf Arthur ag Ef yn Alltud yn Awstralia

Cerdd lawysgrif gan ac yn llaw Waldo Williams yn dwyn y teitl 'Cân Olaf Arthur', sef Cerdd Olaf Arthur ag Ef yn Alltud yn Awstralia, rhan o'r bryddest Y Gân Ni Chanwyd, a gyfansoddwyd gan Waldo Williams tua diwedd y 1920au ond nas cwblhawyd.

Cerddi amrywiol

Teipysgrif a llungopïau o amrywiol gerddi yn dwyn y teitlau 'Dydd Barn A Diwedd Byd', 'Saunders Lewis', 'Brambles' a 'Ynys Ffri (O Saesneg W. B .Yeates [sic]' (y ddwy olaf wedi'u llungopïo o ffynhonell brintiedig). Ceir llungopi o gerdd ddrafft - a ymddengys ei bod yn hanner Cymraeg, hanner Saesneg - ar gefn y gerdd 'Saunders Lewis'.

Copïau teipysgrif o sonedau a ymddengys fel pe baent wedi'u cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth, gan gynnwys y soned fuddugol, pob un â ffugenw atodol.

Llungopi o gerdd ddi-enw mewn teipysgrif yn dwyn y teitl 'Stafell Blaentwrch'.

Cerddi/Beth Yw Cynghanedd?

Llyfr nodiadau yn cynnwys copïau teg o'r cerddi Byd yr Aderyn Bach a Y Ci Coch gan ac yn llaw Waldo Williams, y ddwy gerdd yn ddi-deitl yn y gyfrol hon ac wedi'u harwyddo 'Waldo'; toriad papur newydd (Y Faner, 30 Awst 1939 a 6 Medi 1939) yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Beth yw Cynghanedd?' gan Waldo Williams, ynghyd â rhan o baragraff cyntaf yr erthygl yn llaw Waldo Williams; torion papur newydd (Y Faner, 23 Chwefror 1944 a 18 Tachwedd 1944) yn cynnwys y cerddi Y Plant Marw ac Elw ac Awen gan Waldo Williams; ac englyn gan ac yn llaw Waldo Williams i gyfarch ei gyfaill yr awdur a'r bardd T. Llew Jones wedi iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958, ynghyd â'r nodyn 'Cyfarfod dathlu Llew yn neuadd Pantycelyn Aberystwyth'. Ceir nodyn o'r dyddiad 'Hyd. 20. 1948' [?yn llaw Waldo Williams] ar un dudalen a cheir enw Dilys Williams, chwaer Waldo, a'r nodyn 'Cynghanedd' ar y clawr. Lluniwyd y gerdd Y Plant Marw yn gynnar ym 1944 a'i chyhoeddi yn rhifyn 23 Chwefror 1944 o'r Faner, tra cyhoeddwyd y ddwy soned Elw ac Awen mewn rhifyn mis Tachwedd o'r Faner yr un flwyddyn.

Cerdyn coffa Mary Llewellyn

Cerdyn coffa ('In Memoriam') Mary Llewellyn, Denver, Colorado, Unol Daleithiau, a fu farw ychydig ddyddiau wedi genedigaeth ei merch, Gwladys Mary Llewellyn (gweler Gwladys Llewellyn dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams).

Cerdyn post at Waldo Williams oddi wrth Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)]

Cerdyn post, marc post 4 Medi 1920, a anfonwyd at Waldo Williams gan [ei chwaer] Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)], yn llongyfarch Waldo, yn ôl pob tebyg am ennill Gwobr James yng nghyfarfod gwobrwyo Ysgol Ramadeg Arberth, lle bu'n ddisgybl o 1917 hyd 1922 (gweler Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth dan bennawd Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams).

Coeden deulu teulu Llewellyn

Llungopi o goeden deulu teulu Llewellyn, sy'n cynnwys Linda Llewellyn (yn ddiweddarach Williams), gwraig Waldo Williams. Lluniwyd y goeden deulu gan R. G. Thorne, Ionawr 1980 (gweler nodyn ar frig y ddalen).

Cofio (cyfieithiad i'r Saesneg)

Cyfieithiad i'r Saesneg gan William Fillery o Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan o'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams a ymddangosodd mewn rhifyn o'r cylchgrawn Awen, 1966.

Copïau o'r 'Gododdin'

Copïau teipysgrif o gerdd hynafol Aneirin 'Y Gododdin', gydag enwau Dilys ac aelodau eraill o'r teulu wedi'u hysgrifennu'n unigol ar frig pob copi.

Cwm Berllan

Llungopi, a gymerwyd o ffynhonell brintiedig, o'r gerdd Cwm Berllan gan Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn Hydref 1931 o'r Ford Gron.

Cyfrifiad

Allbrint o gyfrifiad 1911 yn dangos manylion teulu Waldo Williams, a oedd ar y pryd yn byw yn Nhŷ Ysgol Prendergast, Hwlffordd, lle 'roedd John Edwal Williams, tad Waldo, yn brifathro. Mae'r cofnodion yn dangos fod y teulu bellach yn gyflawn ac mai Saesneg oedd iaith pob un o'r plant.

Results 21 to 40 of 160