Showing 26 results

Archival description
Only top-level descriptions Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Patagonia (Argentina and Chile) English
Print preview View:

'Ychydig am y Wladfa Gymreig yn Patagonia'

  • NLW Facs 944
  • File
  • [2000]

Llungopïau o 'Ychydig am y Wladfa Gymreig yn Patagonia' sef hanes [?Edward Cox] a aeth i'r Wladfa yn 1886 yn bedair ar ddeg mlwydd oed ar y llong 'Mozart' o Lerpwl gyda'i chwaer hŷn. Yr oedd Llwyd ap Iwan ymhlith ei gyd-deithwyr. Dychwelodd i Gymru yn 1896. Disgrifir y daith yno ac yn ôl yn fanwl, ar ffurf dyddiadur weithiau. Adroddir am y brodorion, byd natur a'i waith yn cneifio miloedd o ddefaid. Cyhoeddwyd y gwaith yn Yr Arwydd, papur bro gogledd-ddwyrain Sir Fôn, Mawrth, Mai, Gorffennaf, Medi a Hydref 1995

Papurau'n ymwneud â John Murray Thomas, Patagonia

  • NLW Facs 184
  • File
  • 1893-2000

Llungopïau o bapurau'n ymwneud â John Murray Thomas (1847-1924) a ychwanegwyd at y rhai a roddwyd gan Olivia Hughes de Mulhall ym mis Medi 1975; yr oedd John Murray Thomas o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ac ymfudodd i'r Wladfa ar y Mimosa gyda'r fintai gyntaf yn 1865. Casglwyd y papurau ynghyd gan Olivia Hughes de Mulhall, gwraig ei ŵyr, tra'n gweithio ar ei llyfr John Murray Thomas: pequeño hombre pero gran héroe para la historia de Chubut (Trelew, 1999), gydag adolygiadau, 2000, ohono. Ymhlith y papurau ceir rhannau o'i ddyddiaduron, 1877, 1878 ac 1893; ei gynllun o Gwm Hyfryd, 1885; ei ohebiaeth, 1888-1911, gan gynnwys deiseb a luniwyd ganddo, 1893, ynglŷn â hawliau tir; pedwar llythyr gwreiddiol at John Murray Thomas, 1895-1898, a chytundeb busnes gwreiddiol, 1893. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â'i thad y bardd Morris ap Hughes, gan gynnwys enghreifftiau o'i farddoniaeth fel 'Cerdd ymson wrth feddrod Eluned [Morgan]' a 'Gwyl y Glaniad' mewn Sbaeneg; a chyfieithiadau o emynau adnabyddus Cymreig i'r Sbaeneg gan ei fab Osian Hughes, Eisteddfod Chubut 1988

Thomas, John Murray, 1847-1924

R. J. Berwyn photocopies

  • NLW Facs 876
  • File

Llungopïau gan gynnwys erthygl 'Mynwent Rawson' gan R. J. Berwyn (1863-1917) ar gyfer Y Drafod; tystysgrif geni, 1912,yn Sbaeneg, y plentyn cyntaf a anwyd yn y Wladfa yn 1865 yn dwyn llofnod 'RJB'; a dau lythyr, 1912 a heb ddyddiad, oddi wrth R. J. Berwyn at aelodau o'i deulu. / Photocopies including an article 'Mynwent Rawson' by R. J. Berwyn (1863-1917) for Y Drafod; a birth certificate, 1912, in Spanish, of the first child born in the Welsh Colony, Patagonia, 1865, bearing the signature of 'RJB'; and two letters, 1912 and undated, from R. J. Berwyn to members of his family.

Berwyn, R.J.

Owen, Australia, family letters,

  • NLW Facs 369/51.
  • File
  • 1915.

Llungopïau o bedwar llythyr, 1915, oddi wrth aelodau o'r teulu Owen a ymfudodd o Batagonia i Moora, Gorllewin Awstralia, at eu perthynas Maggie Owen yn Abergele. = Photocopies of four letters in Welsh, 1915, from members of the Owen family who emigrated to Moora, Western Australia, from Patagonia, to their relative Maggie Owen in Abergele.

Miscellaneous papers relating to Patagonia.

  • NLW ex 2155
  • File
  • 1965

Papurau yn ymwneud ag ymweliad â Phatagonia yn ystod blwyddyn dathlu canmlwyddiant y Wladfa, 1965.

Griffiths, T. Elwyn (Thomas Elwyn), 1918-

Results 21 to 26 of 26